Rhyddhad Ardrethi Busnes

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Mae Ardrethi Annomestig hefyd yn cael eu galw'n "ardrethi busnes". Trethi yw'r rhain sy'n helpu i dalu am wasanaethau lleol ac sy’n cael eu talu ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo annomestig.

Os ydych yn talu ardrethi busnes, mae'n bosibl bod eich eiddo'n gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi busnes. Yn Sir Gaerfyrddin mae 3 prif ffynhonnell o ryddhad ardrethi busnes a allai fod ar gael ar gyfer eich eiddo.

Mae’r Cynllun Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mwy Gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r cynllun a fydd yn dod i rym ar 1af Ebrill 2018. Disgrifir y cynllun diwygiedig isod:

  • Bydd hawl o hyd gan safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £6,000 i gael rhyddhad o 100%.
  • Hefyd nid oes newid ar gyfer safleoedd busnes sydd â Gwerth Ardrethol dros £6,000, hyd at y terfyn Gwerth Ardrethol uwch o £12,000, lle bydd rhyddhad yn gostwng yn raddol ar raddfa o oddeutu 1% am bob £60 o Werth Ardrethol e.e. bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,120 yn cael rhyddhad o 98%; bydd eiddo â Gwerth Ardrethol o £6,600 yn cael rhyddhad o 90%.

Bydd y rhyddhad a amlinellir uchod yn berthnasol i bob math o fusnes, ac nid i rai adwerthu yn unig. Er bod rhai categoriau o dalwyr treth yn cael eu eithrio , gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau elusennol.

  • Mae holl safleoedd gofal plant a hawl I gael rhyddhad o 100% o 1af Ebrill 2019
  • Bydd y lefel uwch o ryddhad mewn lle am dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2022, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei werthuso er mwyn asesu ei effaith.
  • Bydd hawl gan Swyddfeydd Post sydd â Gwerth Ardrethol nad yw'n fwy na £9,000 i gael rhyddhad o 100%; bydd hawl gan y rheiny sydd â Gwerth Ardrethol uwch na £9,000 hyd at £12,000 i gael rhyddhad o 50%.

Fodd bynnag, o dan y rheolau newydd, bydd trethdalwr ond yn gallu cael rhyddhad ar gyfer hyd at ddau eiddo mewn un awdurdod lleol (mae eiddo gofal plant a swyddfeydd post wedi'u heithrio o'r cyfyngiad hwn). Mewn achosion o'r fath rhaid i'r trethdalwr roi gwybod i'r Cyngor am yr hereditamentau hynny.

Cofiwch na fydd safleoedd talwyr ardrethi sy'n elusennau neu'n sefydliadau dielw ac sydd â hawl i wneud cais am ryddhad "elusennol" gorfodol neu yn ôl disgresiwn, yn gymwys i gael Rhyddhad Busnesau Bach.   Mae'n rhaid bod adeilad y busnes yn cael ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae gan elusennau a rhai sefydliadau dielw penodol yr hawl i dderbyn 'Rhyddhad Gorfodol' o 80% rhag ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol. Mae gan y Cyngor y pŵer i roi rhyddhad yn ôl disgresiwn mewn perthynas â'r 20% sy'n weddill neu ran ohono.

Mae Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol wedi gallu gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Gorfodol o 80% (a rhyddhad arall yn ôl disgresiwn lle bo'n briodol), ar yr amod eu bod wedi cofrestru eu statws Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol gyda Chyllid y Wlad.

Yn ogystal mae gan y Cyngor y pŵer i roi rhyddhad yn ôl disgresiwn (yn unig) i rai mathau eraill o sefydliadau nad ydynt wedi eu sefydlu neu'n cael eu cynnal i wneud elw. Ni fydd unrhyw ryddhad "yn ôl disgresiwn yn unig" fel arfer yn uwch na 60%.

Mae'r rheoliadau Trethi Annomestig yn caniatáu i Awdurdodau ostwng bil trethi busnesau sy'n dioddef caledi. Nid yw'r rheoliadau yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid eu diwallu, ond yn hytrach yr Awdurdodau eu hunain sy'n penderfynu yn ôl eu hewyllys.

Fodd bynnag, cydnabyddir ar y cyfan y gall yr Awdurdod ganiatáu gostyngiad os yw wedi'i foddloni:

  • Y byddai'r trethdalwr yn dioddef caledi pe na bai'r Awdurdod yn caniatáu’r gostyngiad; a'i.
  • Bod yn rhesymol bod yr Awdurdod yn caniatáu’r gostyngiad o ystyried budd Trethdalwyr y Cyngor.

Wrth benderfynu a yw'n briodol i ganiatáu gostyngiad neu beidio, gall yr Awdurdod ystyried ffactorau nad ydynt yn rhai ariannol yng ngwir ystyr y gair. Yn ogystal, gall amwynderau lleol neu bosibiliadau cyflogaeth fod yn berthnasol wrth wneud y penderfyniad.

Caiff pob cais a wneir i'r Awdurdod eu hystyried yn ôl eu haeddiant gan gymryd yr holl ffactorau perthnasol i ystyriaeth sy'n ymwneud â'r busnes a'r ardal yn gyffredinol.

Gwneud cais am ardrethi annomestig