Trwydded cerbyd hurio preifat

Gall y cerbydau hurio preifat fod yn geir salŵn neu'n gerbydau sy'n cludo nifer mwy o bobl a bysiau mini. Nid oes ganddynt arwyddion ar y to ond gellir eu hadnabod wrth blât trwyddedu melyn hirsgwar ar y bympar ôl a sticer melyn crwn ar y ddau ddrws blaen.

Mae'n rhaid i gerbydau hurio preifat gael eu profi gan ein gorsaf brofi lle cânt eu profi yn unol â'n safon benodedig.

Cais Am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat (1)Cyn cyflwyno eich cais, fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod pa mor addas yw eich cerbyd yn ogystal â thrafod ei yswiriant.

Gallwch anfon ceisiadau atom drwy'r post, fodd bynnag rydym yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau yn bersonol yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen Gais wedi'i chwblhau (gyda'r holl adrannau wedi'u cwblhau)
  • Llyfr Log y Cerbyd (V5)
  • MOT dilys (tair blynedd o'r dyddiad cofrestru am y tro cyntaf)
  • Ffi ar gyfer y drwydded
  • Yswiriant ar gyfer defnydd Hurio Preifat

Gallwch anfon ceisiadau atom drwy'r post, fodd bynnag rydym yn eich annog i gyflwyno ceisiadau yn bersonol yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau
  • Ffi drosglwyddo
  • Dogfen yswiriant ddilys
  • Dogfen cofrestru cerbyd / bil gwerthiant

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)

Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir inni ar ffurflenni cais i atal a darganfod twyll. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.