Marchnata eich busnes
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/12/2023
Rydym yn cynnal ymgyrchoedd marchnata drwy gydol y flwyddyn i godi proffil y Sir a mynd ati i annog ymwelwyr drwy ein gwefan swyddogol - www.darganfodsirgar.com, ein cyfrifon Instagram a Facebook, gweithio gyda newyddiadurwyr papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol, hysbysebu a mynd i ddigwyddiadau/arddangosiadau.
Rydym hefyd yn cefnogi ac yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau ar eu hymgyrchoedd marchnata, gan sicrhau bod y Sir yn cael cynrychiolaeth gadarnhaol, ac ychwanegu gwerth a chael budd lle bo'n bosibl. Rydym yn cynnig nifer o asedau AM DDIM i fusnesau eu defnyddio yn eu marchnata eu hunain hefyd. Mae'r cyfleoedd i gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd yn amrywiol ac fel arfer yn cael eu cyhoeddi yn ein llythyr newyddion misol.
Hoffem gadw mewn cysylltiad a chydweithio.