Pam yr ydym wedi ymgynghori

Mae’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2023. Mae’n ymgorffori nifer o ofynion statudol mewn un ddogfen sy’n galluogi proses fwy tryloyw a chyfannol.

Pwrpas yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig hwn yw asesu'r Atodlen o Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd i'r 2il CDLl Diwygiedig Adneuo. sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar ein gwefan.

Mae’n cynnwys: 

  • Adroddiad Cwmpasu AC (Gorffennaf 2018)
  • Adroddiad Cychwynnol AC (Rhagfyr 2018)
  • Adroddiad AC (Ionawr 2020) 
  • Adroddiad ACI (Chwefror 2023)
  • Adendwm ACI (Chwefror 2024)
  • Adendwm Safleoedd Ychwanegol ACI (Mawrth 2025)

Darperir crynodeb annhechnegol o'r uchod hefyd.

 

Dogfennau Ategol

Adendwm Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) i'r Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd