Pam yr ydym wedi ymgynghori

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n ofynnol i’r Cyngor asesu a yw Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2023 yn debygol o gael effaith sylweddol ar gyfanrwydd unrhyw Safle Ewropeaidd. Gelwir y broses orfodol hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC), ac fe’i cynhelir drwy gydol y gwaith paratoi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

Mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn yn cynnwys yr Adendwm Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd i'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC), sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar ein gwefan.

Mae’n cynnwys: 

  • Adroddiad Cwmpasu ARC (Rhagfyr 2018)
  • Adroddiad ARC (Ionawr 2020) 
  • Adendwm ARC (Chwefror 2023)
  • Ail Adendwm ARC (Chwefror 2024)
  • Adendwm Safleoedd Ychwanegol ARC (Mawrth 2025)
  • Adendwm Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd i'r Asesiad Rheoliadau  Cynefinoedd ARC (Mai 2026)

 

Dogfennau Ategol

Adendwm Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) i'r Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd