Pleidleisio am y tro cyntaf?
Mae gan Gymru ei Senedd ei hun.
Mae’r Senedd yn cadw golwg ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, a’r hyn y mae’n ei wario.
Gall y Senedd, hefyd, basio deddfau am bob math o bethau sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd yng Nghymru, fel addysg, ffermio, yr amgylchedd, diwylliant, iechyd, y Gymraeg a thai.
Cofrestra i bleidleisio!
Os wyt ti’n 16 ar 7 Fai 2026 ac yn byw yng Nghymru, rwyt ti’n gymwys i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd.
Er mwyn pleidleisio bydd angen i ti gofrestru’n gyntaf. Gallet wneud hynny yma.
Ar ôl cofrestru’n llwyddiannus, gallet ddewis sut yr hoffet bleidleisio.
Mae eich Senedd yn newid
Yr hyn sydd angen ichi ei wybod
- 96 o Aelodau: O’r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
- System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sy’n 16+ un bleidlais nawr, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
- Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
- Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy’n sefyll etholiad fyw yng Nghymru.
- Etholiadau amlach: Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.
Bydd Swyddog Ymgysylltu Allgymorth Addysg y Senedd yn ymweld ag ysgolion drwy gydol mis Mawrth i godi ymwybyddiaeth o Etholiadau'r Senedd sy'n cael eu cynnal ym mis Mai.
- 6 Mawrth - Dyffryn Taf
- 9 Mawrth - Glan y Mor
- 9 & 10 Mawrth - Coleg Sir Gâr (Graig)
- 12 Mawrth - Canolfan Gynadledda Halliwell (Digwyddiad Hustyngau)
- 16 Mawrth - Coedcae
- 18 Mawrth - Bro Myrddin
Frequently Asked Questions
Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd.
Bydd eich swyddfa yn gofyn am eich Rhif Yswiriant Gwladol, ond gallwch gofrestru hyd yn oed os nad oes gennych un.
Unwaith y byddwch ar gofrestr etholiadol, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio drwy'r post. Bydd hyn yn rhoi manylion i chi o ble mae eich gorsaf bleidleisio leol.
Na allwch. Bydd rhaid i chi fynd i fwrw eich pleidlais yn y cnawd ar 7 Mai. Ni fyddwch yn gallu pleidleisio ar-lein.
Os na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch gofrestru ymlaen llaw i bleidleisio drwy'r post, neu ddewis rhywun rydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan (drwy ddirprwy).
Gallwch fynd i orsaf bleidleisio ar 7 Mai 2026 i fwrw pleidlais.
Mae gorsafoedd pleidleisio wedi'u trefnu am y diwrnod mewn adeiladau lleol, fel ysgolion neu neuaddau cymunedol ledled Cymru. Anfonir cerdyn pleidleisio atoch cyn yr etholiad gyda manylion eich gorsaf bleidleisio.
Byddant ar agor rhwng 07:00 a 22:00 i sicrhau y gall cymaint o bobl â phosibl ddefnyddio eu pleidlais.
Yn eich gorsaf bleidleisio byddwch yn cael papur pleidleisio. Bydd gennych un bleidlais ar gyfer y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol yr ydych am iddo eich cynrychioli yn y Senedd.
Bydd cyfarwyddiadau clir ar sut i lenwi eich papur pleidleisio, a gall staff yr orsaf bleidleisio helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae rhagor o wybodaeth am beth sy'n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Gallwch chi bleidleisio hebddo, ond bydd yn arbed amser i chi os byddwch chi'n mynd ag ef i'r orsaf bleidleisio a'i ddangos i'r clerc yno.
Nac oes, nid oes angen dod â dogfen adnabod i bleidleisio mewn etholiadau’r Senedd.
Nac oes. Gallwch hefyd ddewis pleidleisio drwy'r post, neu bleidleisio drwy berson arall.
Os na fyddwch yn medru mynychu orsaf belidleiso am ba bynnag rheswm, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Nid oes angen i chi gyfiawnhau eich cais.
Gyda phleidlais drwy ddirprwy, rydych yn dewis rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod o gymorth os oes gennych broblem feddygol neu anabledd sy'n eich cadw rhag mynd i’r orsaf bleidleisio, neu os ydych yn bwriadu bod dramor ar ddiwrnod yr etholiad.


