Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys
Yn yr adran hon
- Atodiad Dau – Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)2016
- Atodiad Tri – Diffiniad ac ardaloedd Cysylltiad Lleol a Chysylltiad Cymunedol
- Atodiad Pedwar – Lleoliad, math a maint yr eiddo
- Atodiad Pump – ‘Meini Prawf ar gyfer Gosod’
- Atodiad Chwech – Anghenion Cymorth a Nodwyd
- Atodiad Saith – Siart Llif Cynnig Rhesymol a Chynnig Addas
Atodiad Pedwar – Lleoliad, math a maint yr eiddo
Bydd eiddo’n cael eu dyrannu sy’n gweddu i faint yr aelwyd. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd efallai na fydd gennym yr union faint o gartref i fodloni’r union anghenion.
Er mwyn sicrhau y gallwn wneud y defnydd gorau o’r stoc, efallai y cynigir eiddo sy’n fwy neu’n llai na’r hyn fyddai’n cael ei gynnig fel arfer. Byddwn yn sicrhau bod asesiadau unigol yn cael eu cwblhau ar gyfer ymgeiswyr nad yw eu haelwyd yn ffitio o fewn y safonau yn y tabl cyn gwneud y cynnig.
Aelwyd | Maint | Math o Eiddo |
---|---|---|
Pobl sengl a/neu gyplau | 1 ystafell wely | Fflat 1 ystafell, tŷ/fflat a rennir, fflat 1 ystafell wely |
Pobl sengl neu gyplau 55 oed a throsodd | 1 ystafell wely | Fflat 1 ystafell, fflat 1 ystafell wely Byngalos 1 neu 2 ystafell wely a llety gwarchod |
Aelwyd yn disgwyl eu plentyn cyntaf (ac y mae ganddynt y dystysgrif MATB1) | 2 ystafell wely | Fflatiau 2 ystafell wely, maisonettes, a thai |
Aelwyd ag un plentyn* | 2 ystafell wely | Fflatiau 2 ystafell wely, maisonettes, a thai |
Aelwyd â dau blentyn o’r un rhyw o dan 16 oed | 2 ystafell wely | Fflatiau 2 ystafell wely, maisonettes, a thai |
Aelwyd â dau blentyn o rywiau gwahanol pan mae un dros 10 oed | 3 ystafell wely | Tŷ 3 ystafell wely |
Aelwyd â thri neu bedwar plentyn | 3 ystafell wely | Tai 3 neu 4 ystafell wely (os ydynt ar gael gan mai hyn a hyn o stoc o’r maint yma sydd ar gael, a chan ddibynnu ar oed a rhyw y plant) |
Aelwyd â phum plentyn neu ragor | 4 ystafell wely | Tai 4 neu 5 ystafell wely (os ydynt ar gael gan mai hyn a hyn o stoc o’r maint yma sydd ar gael, a chan ddibynnu ar oed a rhyw y plant) |
* Aelwydydd â phlant - golyga hyn berson sy’n derbyn budd-dal plant. Nid ydym yn ystyried angen i ddarparu cartref eilaidd. Bydd angen ystyried y maint aelwyd angenrheidiol ar gyfer ymgeiswyr beichiog â phlant yn seiliedig ar oedrannau’r plant ac a fyddent yn gallu rhannu gyda’r plentyn fydd yn cael eu geni.
Mae eithriadau i hyn a amlinellir fel a ganlyn:
Mae tai pobl hŷn neu ‘Lety Gwarchod’ fel arfer yn cael eu neilltuo i bobl 55 oed neu’n hŷn. Gall hyn amrywio mewn Llety Gofal Ychwanegol lle y gall y meini prawf fod yn seiliedig ar anghenion gofal ac iechyd. Ar gyfer Cynlluniau Cynghorau, cynhelir asesiad gan Swyddog Cynllun Tai Gwarchod. Er mwyn cael eu hystyried, bydd pobl fel arfer:
- Dros 55 oed, (er y gall rhai cynlluniau ddefnyddio isafswm oed gwahanol)
- Yn gallu gadael yr adeilad ar eu pen eu hunain os oes tân (ar gyfer canolfannau sy’n eiddo’r Cyngor)
Yna defnyddir yr un trefniadau blaenoriaeth.
Bydd byngalos fel arfer yn cael eu neilltuo i aelwydydd yn cynnwys aelod o’r teulu dros 55 oed. Os nad oes unrhyw ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hyn, bydd pobl ag anableddau a phobl a chanddynt ofynion tai arbennig yn cael eu hystyried gan roi ystyriaeth i’w hamgylchiadau.
Bydd eiddo wedi’u haddasu yn cael eu haddasu wedi i aelod o’r aelwyd gael eu hasesu gan Therapydd Galwedigaethol a lle y penderfynwyd eu bod angen addasiadau.
Gofal Ychwanegol – Mae’r rhain yn gyfleusterau arbenigol ar gyfer ymgeiswyr sydd angen cymorth a gofal. Bydd yr asesiad yn defnyddio’r meini prawf ar gyfer Cyfleusterau Gofal Ychwanegol.