Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys
Yn yr adran hon
- Atodiad Dau – Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)2016
- Atodiad Tri – Diffiniad ac ardaloedd Cysylltiad Lleol a Chysylltiad Cymunedol
- Atodiad Pedwar – Lleoliad, math a maint yr eiddo
- Atodiad Pump – ‘Meini Prawf ar gyfer Gosod’
- Atodiad Chwech – Anghenion Cymorth a Nodwyd
- Atodiad Saith – Siart Llif Cynnig Rhesymol a Chynnig Addas
Trefniadau Llywodraethu
Cynghorwyr, Aelodau Byrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, staff, a’u perthnasau
6.1 Prif rôl ein Cynghorwyr (fel y diffiniwyd mewn canllawiau statudol) yw datblygu a chymeradwyo’r Polisi a gwneud swyddogion yr awdurdod yn atebol am eu gweithredoedd.
6.2 Ni all cynghorwyr fod yn rhan o asesu ceisiadau tai na dyrannu tai. Fodd bynnag, nid yw hynny’n eu hatal rhag gofyn am a darparu gwybodaeth ar ran eu hetholwyr. Bydd cynghorwyr yn cael gwybod am unrhyw gartrefi gwag yn eu ward a phan maen nhw’n cael eu hailddyrannu.
6.3 Mae swyddogion yr awdurdod a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gyfrifol am weithredu’r Polisi Brys hwn a dyrannu yn ôl ei reolau. I sicrhau ein bod yn trin pob ymgeisydd yn deg, rhaid datgelu unrhyw gais am dai gan Gynghorwyr, gweithwyr Partneriaid, aelodau Bwrdd, neu bersonau cysylltiedig. Ni chaniateir canfasio.
6.4 Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hasesu yn y ffordd arferol, ond rhaid i unrhyw ddyraniad tai gael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd. Ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, mae’n rhaid i’r dyraniad gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y dyraniad.
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r polisi
6.5 Byddwn yn cyhoeddi’r Polisi hwn ac yn trefnu ei fod ar gael i bawb. Byddwn yn darparu copi yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n gofyn amdano a byddwn hefyd yn ei wneud ar gael ar-lein. Mae cyngor ar y polisi hwn ar gael trwy’r Tîm Dewisiadau a Chyngor Tai ar 01554 899389 neu e-bost schoptions@sirgar.gov.uk
Adolygu’r polisi
6.6 Cynhyrchwyd y Polisi hwn trwy gytundeb gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n ei ddefnyddio. Byddwn yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i bawb allai gael eu heffeithio ganddo, ac o fewn cyfnod rhesymol, am y newidiadau yn y Polisi hwn. Bydd aelodau craffu yn gorfod adolygu’r polisi yn rheolaidd wrth ystyried unrhyw newidiadau eraill cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo.
6.7 Bydd casgliad o weithdrefnau gweithredol fydd yn sail i’r ddogfen Polisi Brys hon yn cael ei gymeradwyo gan y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd. Bydd y Bartneriaeth (fel y nodir yn 1.8) yn rhan o’r broses cyn gwneud unrhyw newidiadau.