Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys

Trosolwg

1.1  Cafodd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys hwn (a elwir o hyn ymlaen “y Polisi”) ei lunio yn unol ag Adran 167(2) Deddf Tai 1996, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth ychwanegol i ymgeiswyr a chanddynt anghenion tai brys.

1.2  Datblygwyd y Polisi hwn gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau, Tai ac Adfywio. Ar hyn o bryd mae’n disodli’r Polisi presennol ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.

1.3  Gweithiodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gydag eraill i gyd-gynhyrchu’r Polisi, gan ymgysylltu â’n Partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL). Cafodd y cynigion eu profi gyda staff rheng flaen ac mae eu hadborth wedi dylanwadu ar ddatblygiad y Polisi.

1.4  Mae’r Polisi ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2016 felly’n cael ei ddisodli gan y polisi newydd, diwygiedig (o 28 diwrnod wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir) i alluogi’r Cyngor a’i Bartneriaid i ddefnyddio ei adnoddau tai prin i ddiwallu anghenion ei drigolion mwyaf agored i niwed a’r sawl sydd fwyaf angen tai.

1.5  Mae’r Polisi hwn yn cyflwyno trefniadau interim clir ar gyfer sut y dyrannwn dai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, yn ystod y cyfnod atal, mewn ffordd deg a thryloyw.

1.6  Mae’r Polisi hwn yn esbonio sut y byddwn yn enwebu ymgeiswyr cymwys ar gyfer tai mewn ardal y dymunant gael eu cartrefu ynddi. Pan nad yw hynny’n bosib, efallai y cynigiwn gartref addas mewn ardal arall sy’n diwallu eu hanghenion.

1.7  Rheolir y ffordd y dyrennir tai cymdeithasol yn gyfreithiol ond mae’n adlewyrchu rhai blaenoriaethau lleol. Datblygwyd ein blaenoriaethau lleol oherwydd galw cynyddol ar y Gwasanaeth Digartrefedd ac ar Dai Cymdeithasol trwy gytundeb gyda’n Partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL).

1.8  Gweithredwn Gofrestr Dai Gyffredin gyda’n Partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae’r sefydliadau hyn, ynghyd â’r Cyngor, yn ffurfio’r ‘Bartneriaeth’ y cyfeirir ati yn y ddogfen hon ac y mae eu manylion ar gael oddi wrth y Cyngor. Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i dai cymdeithasol a ddarperir gennym ni, Cyngor Sir Caerfyrddin, a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig canlynol:

  • Cymdeithas Tai Bro Myrddin
  • Cymdeithas Tai Caredig
  • Cymdeithas Tai Pobl
  • Cymdeithas Tai Wales and West

1.9  Gwneir hyn i sicrhau bod gan bob ymgeisydd sy’n cynnig am dai cymdeithasol un broses gwneud cais ac maent yn cael ei asesu trwy ddefnyddio’r un meini prawf. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i geisio sicrhau bod pob cartref yn cael ei ddyrannu yn ôl y Polisi Dyrannu Brys hwn.

1.10  Mae’r Polisi hwn yn esbonio pwy sy’n gymwys ar gyfer y dyraniad brys o dai cymdeithasol, beth rydym yn ei ystyried wrth wneud y penderfyniad, a sut rydym yn dyrannu ac yn gwneud cynnig tenantiaeth rhesymol. Bydd effaith y ffordd y caiff y Polisi Dyrannu Brys hwn ei weithredu yn cael ei fonitro a’i adrodd.

1.11  Mae’n rhaid i’r Polisi hwn gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol ac fe’i datblygwyd yn unol â Deddf Tai 1996 (Rhan 6), Deddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol: Dyrannu Llety a Digartrefedd (Llywodraeth Cymru, 2016) - a elwir yn “Cod Canllawiau”.


Cymhwysedd a Dewis

Cymhwysedd

2.1  Gall unrhyw un wneud cais i gael ei ystyried ar gyfer cartref o dan y Polisi hwn. Ni fydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael cartref o dan y Polisi hwn ond ni fydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn gymwys ac abl i ymuno â’r Gofrestr Tai (gweler 2.2 i 2.4 isod). Mae’r Cyngor yn cadw Cofrestr Tai o ymgeiswyr am dai ar ei gyfer ei hun, yn ogystal ag ar gyfer ei Bartneriaid sydd wedi dewis mabwysiadu’r Polisi hwn.

2.2  Ni ellir ond gwneud dyraniadau i bersonau cymwys ac ni all y Cyngor enwebu rhai pobl sy’n dod o dramor a chanddynt hawliau cyfyngedig i aros yn y Deyrnas Unedig neu sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo (onid ydynt o ddosbarth a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru - gweler 2.4). Gall personau o dramor gynnwys Dinasyddion Prydeinig sydd wedi byw’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin ac nad ydynt yn byw fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin.

2.3  Rhestrir personau sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i dderbyn dyraniad o lety tai a chymorth tai yn Rheoliad 3 a 5 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) 2014. Trwy reoliadau 4 a 6 y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarth o berson a ddylid (tra nad ydynt yn gaeth i reolaeth fewnfudo) eu trin yn bersonau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn eu tro. Amlinellir hynny yn Atodiad Un.

2.4  Mae gan y Cyngor hawl, yn unol ag A160A Deddf Tai 1996 i gyfyngu mynediad at ei Gofrestr Tai trwy ac yn unol â chyflwyno amodau cymhwysedd ychwanegol.

  • Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfyngu mynediad at ei Gofrestr Tai i berson os bydd ef/hi neu aelod o’i deulu/theulu wedi bod yn euog o ymddygiad afresymol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant yr awdurdod; ac yn yr amgylchiadau ar yr adeg y caiff ei gais ei ystyried, maent yn anaddas i fod yn denant yr awdurdod oherwydd yr ymddygiad hwnnw.
    Pan mae’r Cyngor yn cyfeirio at “ymddygiad” mae’n golygu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall a ddaw o fewn Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Amlinellir hynny yn Atodiad Dau.

2.5  Mae’n rhaid inni fod yn fodlon hefyd nad yw ymgeiswyr yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf fyddai’n eu hatal rhag bod yn gymwys ar gyfer y polisi dyrannu. Mae’r meini prawf hyn yn cynnwys:

  • Gwaethygu eu hamgylchiadau yn fwriadol er mwyn cael mantais ar y polisi.
  • Darparu gwybodaeth ffug neu gadw gwybodaeth yn ôl, sy’n drosedd.

2.6  Er mwyn ymuno â’r Gofrestr Tai mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn (er gweler 3.14 isod).

2.7  Mae’n bwysig nodi, er ein bod yn caniatáu i bobl 16 ac 17 oed ymuno â’r Gofrestr Tai, na allant yn gyfreithiol gael tenantiaeth yn eu henw eu hunain nes iddynt gyrraedd 18 oed. Golyga hynny fod rhaid iddynt gael rhywun all weithredu’n warantwr a dal eu tenantiaeth dan ymddiried iddynt.

 

Trosolwg o Ddewis

2.8  Rhoddir blaenoriaeth ar y Gofrestr Tai i ymgeiswyr:

  • Sydd ag angen am gartref
  • Sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer llety gwarchod a llety ar gyfer pobl hŷn (ar gyfer pobl dros 55); sydd angen tai gofal ychwanegol (Tai â gofal a chymorth; aseswyd eu bod angen cartref wedi’i addasu; neu sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Perchentyaeth Cost Isel (LCHO)
  • Sy’n methu diwallu eu hanghenion tai yn ariannol
  • Sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol a/neu’n bodloni’r gofynion Cysylltiad Lleol (Atodiad Tri); neu’n bodloni un o’r gofynion ar gyfer cael eithriad i ofynion Cysylltiad Lleol

2.9  Ni roddir ffafriaeth i ymgeiswyr:

  • Sydd â’r adnoddau ariannol i dalu eu costau tai eu hunain
  • A fu’n euog, neu y bu aelod o’u haelwyd yn euog, o ymddygiad afresymol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant y Cyngor AC yn yr amgylchiadau ar yr adeg y caiff eu cais ei ystyried, eu bod yn haeddu, oherwydd yr ymddygiad hwnnw, peidio cael eu trin yn aelod o grŵp o bobl y rhoddir blaenoriaeth iddynt
  • Nad oes ganddynt Gysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin, fel y’i diffinnir yn Adran 81 Deddf Tai (Cymru) 2014, oni chawsant eu heithrio o’r meini prawf ar gyfer Cysylltiad Lleol fel y’u nodir yn Atodiad Tri

 


Casgliad

2.10  Bydd y Cyngor yn ystyried pob cais am dai cymdeithasol a wneir yn unol â gofynion gweithdrefnol y Polisi hwn. Fodd bynnag, wrth ystyried ceisiadau, mae’n rhaid i’r Cyngor ganfod a yw ymgeisydd yn gymwys am lety neu a yw ef wedi cael ei eithrio o ddyraniad.

2.11  Er mwyn cael mwy o fanylion am gymhwysedd ac eithriadau trowch at Adran 3. Dylid nodi fod y gyfraith ynghylch cymhwysedd yn gymhleth ac y gall newid.


Proses Gwneud Cais ac Asesu

3.1  Pan wneir cais i ymuno â’r Gofrestr Tai cynhelir asesiad tai ar y cais hwnnw. Er y bydd y Cyngor yn ystyried pob ymholiad am help gyda thai, nid yw pob ymgeisydd yn gymwys o dan y Polisi hwn i ymuno â’r Gofrestr Tai (Gweler Adran 2). Mae’r broses ceisiadau ac asesu ar gyfer tai cymdeithasol o dan y Polisi Brys hwn fel a ganlyn:

 

Gwybodaeth, cyngor a chymorth brys

3.2  Bydd tîm o Ymgynghorwyr Hwb Tai yn trafod anghenion ac amgylchiadau tai unigol ac yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth brys priodol.
Bydd cyfweliad yr asesiad cychwynnol yn caniatáu inni ganfod yn llawn:

  • pa mor argyfyngus yw’r angen am dai
  • asesu a fydd ymgeisydd yn gymwys i ymuno â’r Gofrestr Tai
  • ystyried dewisiadau tai er mwyn llunio cynlluniau tai unigol
  • ystyried a oes gan ymgeisydd yr adnoddau ariannol ar gael i dalu ei gostau tai
  • darganfod a oes unrhyw debygrwydd rhesymol y caiff yr ymgeisydd ei gartrefu trwy gofrestru
  • adnabod unrhyw gymorth sydd ei angen (atgyfeiriwch lle y bo angen)

3.3  Gellir cysylltu â’r tîm ar y ffôn ar 01554 899389 neu trwy e-bost yn schoptions@sirgar.gov.uk Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, os ydym yn meddwl y gallai’r ymgeisydd fod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref dylid cyfeirio ymgeiswyr at Ymgynghorydd Dewisiadau Tai. Er mwyn siarad â rhywun wedi oriau swyddfa mewn argyfwng ffoniwch 0300 3332222 neu e-bostiwch contactus@deltawellbeing.org.uk.

3.4  Mae’r Cyngor yn defnyddio proses gwneud cais ar-lein, a darperir cymorth i’n trigolion mwyaf agored i niwed a’r sawl na allant lenwi’r cais ar eu pen eu hunain ac nad oes ganddynt y cymorth i wneud hynny.

3.5  Ni fydd asesiad llawn ond yn digwydd yn dilyn cyfweliad asesu cychwynnol ac wedi inni dderbyn yr holl ddogfennau ategol a’r wybodaeth dystiolaethol i gefnogi’r cais. Byddwn yn cynorthwyo ein trigolion agored i niwed i wneud hyn.

3.6  Yn dilyn yr asesiad, byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr beth yw canlyniad yr asesiad, a ydynt yn gymwys i ymuno â’r gofrestr ai peidio, ac a gawsant eu rhoi mewn Band neu os nad oes ganddynt unrhyw ffafriaeth arbennig. Y Band fydd yr un sy’n adlewyrchu orau eu hangen tai. Bydd ganddynt yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwn os nad ydynt yn cytuno â chanlyniad yr asesiad.

3.7  Bydd cais ar y cyd yn cael ei drin yn un cais. Bydd anghenion tai holl aelodau’r aelwyd yn cael eu hystyried wrth asesu cais. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn ceisiadau lluosog oddi wrth ymgeisydd, sy’n golygu na all unrhyw unigolyn gael ei enw ar fwy nag un cais am gartref ar unrhyw un adeg. Bydd pob ymgeisydd yn cael ystod lawn o ddewisiadau realistig i ddiwallu ei angen am gartref, ac sydd wedi cael eu teilwra i’w anghenion unigol.

3.8  Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw gofalu fod manylion ei gais yn gywir adeg cofrestru a’u bod yn cael eu diweddaru wedi hynny pan mae amgylchiadau’n newid. Gall methu gwneud hynny olygu y caiff y cais ei ddileu, y caiff yr ymgeisydd ei roi yn y Band anghywir, neu fod Cynnig Llety a wneir yn cael ei dynnu’n ôl oherwydd bod manylion y cais yn anghywir.

  • Hefyd, mae Adran 171 Deddf Tai 1996 yn darparu ei bod yn drosedd i ymgeisydd ar gyfer Cofrestr Tai (neu rywun ar ei ran) wneud yn fwriadol neu’n ddiofal ddatganiad materol neu gadw’n ôl wybodaeth y mae’r Cyngor yn rhesymol wedi gofyn amdani.

3.9  Bydd rhaid i ymgeiswyr ailgofrestru eu cais am gartref ddwywaith y flwyddyn i gadarnhau eu bod eisiau cael eu hystyried ar gyfer cartref o hyd. 6 a 12 mis wedi dyddiad eu cais, bydd ymgeiswyr yn cael eu hatgoffa fod rhaid iddynt adnewyddu eu cais. Caiff ymgeiswyr wybod yn ysgrifenedig am y trefniadau ar gyfer adnewyddu’r cais.

3.10  Bydd methu adnewyddu eu cais neu fethu ailgofrestru, mewngofnodi a mynd i mewn i’w cyfrifon, neu gynnig am eiddo sy’n diwallu eu hanghenion, yn golygu y tynnir ymgeiswyr oddi ar y Gofrestr Tai o fewn y cyfnod amser a nodwyd. Mae gan ymgeiswyr yr hawl i apelio yn erbyn cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Tai trwy ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol.

 

Asesiadau Dewisiadau Tai

3.11  Fel rhan o’r asesiad o ddewisiadau tai, byddwn yn penderfynu a fydd ymgeisydd yn gymwys i ymuno â’r Gofrestr Tai. Mae’n rhaid inni sicrhau bod ymgeiswyr yn gymwys i ymuno â'r Gofrestr ac fe gynhelir gwiriadau manwl i sicrhau mai dim ond y sawl sy’n gyfreithiol gymwys ar gyfer tai cymdeithasol sy’n cael eu cofrestru. Rydym angen gwybodaeth fydd yn cynnwys prawf adnabod ffurfiol â llun (e.e., pasbort, trwydded yrru) a Rhif Yswiriant Gwladol. Bydd hyn yn ein helpu i wneud gwiriadau cychwynnol cyn cofrestru. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth i’n helpu i sicrhau y gwneir dyraniadau yn deg ac yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

3.12  Mae rhai grwpiau o bobl na allant yn gyfreithiol ymuno â’r Gofrestr waeth beth yw eu hanghenion tai neu amgylchiadau. (Gweler Adran 2 ac Atodiad Un). Mae’r rhain yn bobl:

  • Sy’n dod o dan reolau mewnfudo amrywiol ac na allant wneud cais am gymorth tai
  • Sy’n byw’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin (DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon) at ddibenion treth
  • Nad oes ganddynt hawl i fyw yn y DU
  • Y penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad ydynt yn gymwys i gael cartref.

3.13  O dan Adran 160A (7) ac (8) Deddf Tai 1996 gallwn beidio cofrestru pobl y’u cafwyd yn euog o ymddygiad annerbyniol. Digwydd hynny pan rydym yn fodlon fod ymgeisydd (neu aelod o aelwyd yr ymgeisydd) yn euog o ymddygiad annerbyniol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant.

  • Mae ymddygiad annerbyniol yn golygu ymddygiad a fyddai (pe baent yn ddeiliad contract) yn torri amodau Adran 55 Deddf Rhentu cartrefi (Cymru) 2016 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall). Gweler 2.4 a 2.5 uchod i gael rhagor o fanylion.

3.14  Bydd unrhyw un sy’n 16 neu’n 17 oed fel arfer yn cael eu cyfeirio at ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol neu fudiadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac agored i niwed. Efallai y cynhelir asesiad Deddf Plant 1989. Os yw’r plentyn yn cael ei ystyried yn blentyn mewn angen, rhoddir llety iddo o dan A20 Deddf Plant 1989. Pan nad yw’n cael ei ystyried yn blentyn mewn angen, bydd yn cael ei gyfeirio at y llety â chymorth neu dros dro mwyaf priodol sydd ar gael i’w letya.

 

Meini Prawf Bandio Brys

3.15  Rhoddir ymgeiswyr mewn Band gan ddibynnu ar eu hangen fydd yn cael ei adnabod trwy’r asesiad tai ac yn unol â’r meini prawf a nodir yn y Bandiau.

3.16  O dan y polisi hwn bydd pobl a gafodd eu hasesu o dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 a phan dderbyniwyd dyletswydd Adran 75; a’r sawl a aseswyd o dan Atodiad 3 y Cod Ymarfer gyda blaenoriaeth ychwanegol yn cael eu hystyried yn gymwys i ymuno â Band A brys i sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth ddigonol ar gyfer tai.

3.17  O dan y Polisi hwn bydd y Cyngor yn cadw Cofrestr o’r ymgeiswyr hynny sy’n gymwys ac sy’n perthyn i:

Band A – Cymhwysedd Brys
Band B – Angen Tai
Band C – y sawl sy’n “gofrestredig yn unig”

A’r sawl nad oes ganddynt unrhyw ffafriaeth yn ôl y Polisi hwn (gweler Adran 2.8).

3.18  Ni fydd pobl a aseswyd yn rhai nad oes ganddynt unrhyw anghenion tai yn cael unrhyw flaenoriaeth ar y Gofrestr Tai o dan y Polisi fel arfer. Ac eithrio ar gyfer yr ymgeiswyr hynny

  • sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer llety gwarchod a llety ar gyfer pobl hŷn (ar gyfer pobl dros 55); sydd angen tai gofal ychwanegol (Tai â gofal a chymorth; aseswyd eu bod angen cartref wedi’i addasu; neu sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Perchentyaeth Cost Isel (LCHO)). Efallai y cynigir eiddo iddynt neu y byddant yn gallu cynnig am eiddo na chawsant eu derbyn gan ymgeiswyr o Fandiau A a B.

3.19  Ar gyfer ymgeiswyr presennol (adeg cyflwyno’r polisi hwn) ym Mand A, mewn angen tai brys, bydd eu Band yn cael ei gadw, yn amodol ar 3.8 - 3.10 uchod.

3.20  Bydd cartrefi’n cael eu rhoi i bobl â’r angen mwyaf gyntaf. Dim ond os na ellir cysylltu eiddo ag ymgeisydd mewn Amgylchiadau Eithriadol neu ym Mand A y bydd yn cael ei hysbysebu yn Canfod Cartref - Home Finder.

3.21  Nid yw Tai Cymdeithasol ond yn cael eu dyrannu i bobl a dderbyniwyd ar ein Cofrestr Tai. Unwaith y cadarnhawyd cymhwysedd i ymuno â’r Gofrestr Tai, rhoddir ymgeiswyr mewn Band neu’r grŵp “dim ffafriaeth” fel a ganlyn:


Proses Ddyrannu

4.1  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ein dyraniadau a’n gosodiadau yn gwahaniaethu, ac anelwn at gyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys pob ymgeisydd yn gallu derbyn y gwasanaeth gan roi ystyriaeth i unrhyw freguster neu anghenion penodol.

 

Maint, Math a Lleoliad Cartrefi

4.2  Byddwn yn sefydlu ymhle y mae gan ymgeisydd gysylltiad cymunedol, yn ogystal â’r maint a’r math o gartref mae ei angen. I gymaint graddau ag y gallwn, byddwn yn ceisio cwrdd â’i ddyheadau yn ogystal â’i anghenion. Byddwn hefyd yn gofyn i ymgeisydd am yr ardaloedd nad yw’n credu y gall fyw ynddynt, er enghraifft oherwydd eu bod yn ofni trais, aflonyddwch neu gam-drin domestig.

4.3  Rhaid cydbwyso’r angen i roi dewis i’n ymgeiswyr gyda’n cyfrifoldebau cyfreithiol i gyflawni ein dyletswyddau digartrefedd a’r galw uchel am dai yn Sir Gaerfyrddin. Efallai na fyddwn yn gallu bodloni dewisiadau pob ymgeisydd.

4.4  Mae Atodiad Pedwar yn esbonio ar gyfer eiddo o ba faint y bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried.

 

Dyraniadau – Lle mae ‘Meini Prawf ar gyfer Gosod’ yn berthnasol

4.5  O dan y Polisi hwn, bydd gan y dyraniadau canlynol eu Meini Prawf eu hunain ar gyfer gosod tai. Ceir rhagor o fanylion yn Atodiad Pump:

  • Datblygiadau tai newydd lle y mae Polisïau Gosodiadau Lleol (LLP) yn berthnasol
  • Safleoedd teithwyr - Caiff anghenion llety teuluoedd o deithwyr eu hasesu o dan Adran 101 Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Llety wedi’i addasu – Cafodd rhai tai eu haddasu’n arbennig i gwrdd ag anghenion pobl. Mae’r math yma o lety yn cynnwys cartrefi ar gyfer pobl ag anableddau a phobl a chanddynt ofynion tai arbennig. Er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu pobl â chartrefi wedi’u haddasu ac yn gwneud y defnydd gorau o’r llety sydd gennym, rydym yn defnyddio Cofrestr Tai Hygyrch (AHR) fel rhan o’r brif Gofrestr (gweler y Weithdrefn Weithredol i gael manylion llawn)
  • Llety a rennir - bydd gosodiadau a rennir yn caniatáu rhyw gymaint o hunanddewis cyd ranwyr

 


Dyraniadau – Lle mae ‘Amgylchiadau Eithriadol’ yn berthnasol

4.6  O dan y Polisi hwn, bydd y dyraniadau canlynol yn cynnwys adroddiad manwl a thystiolaethol o’r holl amgylchiadau eithriadol fydd yn cael ei gymeradwyo gan y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd neu’r Rheolwr Hwb Tai a bydd ar gael i’w archwilio i’r dyfodol pan ddefnyddiwyd y grym hwn gan unrhyw aelod o’r Bartneriaeth.

Amgylchiadau eithriadol – Er enghraifft ond nid yn hollgynhwysol:

  • Pan mae angen darparu llety amgen i denant er mwyn gwneud gwaith atgyweirio neu welliannau i’w gartref neu pan mae angen symud y tenant fel rhan o gynllun adfywio ac mae’r tenant wedi dewis peidio symud yn ôl wedi i’r gwaith gael ei gwblhau
  • Pan mae materion gweithredol neu reolaethol o bwys sy’n galw am symud y tenant ar frys ac yn barhaol
  • Pan mae gan yr ymgeisydd ffafriaeth resymol a lle y mae nifer o asiantaethau statudol ynghlwm wrth yr achos, a bydd darparu llety yn syth yn lliniaru mewnbwn amlasiantaethol
  • Unrhyw ddyraniad nad yw’n syrthio y tu allan i’r Polisi hwn

 

Dyraniadau – ‘Eithriedig’ o’r Polisi hwn

4.7  Mae adegau pan mae dyrannu cartrefi yn cael ei eithrio o’r polisi hwn, neu lle y gellir dyrannu cartrefi y tu allan i’r blaenoriaethau bandio arferol. Er lles tryloywder, byddwn yn cofnodi pob dyraniad o’r fath.

Roedd y rhain yn cynnwys y rhai y cyfeiriwyd atynt yn A160 Deddf Tai 1996. Mae’r rhestr isod yn hollgynhwysol.

  • Pan mae angen darparu llety amgen i denant er mwyn gwneud gwaith atgyweirio neu welliannau i’w gartref neu pan mae angen symud y tenant fel rhan o gynllun adfywio
  • Trosglwyddiad a ganiateir o dan Adran 114 neu 118 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Pan mae person yn llwyddo i gael contract meddiannaeth diogel o dan Adran 73, 78 neu 80 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Pan mae tenant yn marw, ac mae olyniaeth y contract i aelodau o’i aelwyd yn berthnasol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Os yw’r cartref y cafodd olyniaeth iddo yn fwy nag y mae’n rhesymol ei angen, efallai y cynigir llety arall addas iddo. Neu os yw’r cartrefi y mae ganddo olyniaeth iddo yn eiddo wedi’i addasu, efallai y cynigir llety arall addas iddo i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n stoc
  • Ychwanegu neu dynnu i ffwrdd unrhyw bersonau cymwys at neu oddi ar gontract diogel yn unol â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016:
    • Pan mae contract galwedigaeth yn breinio yn neu’n cael ei waredu mewn ffordd arall yn sgil gorchymyn a restrir o dan Adran 160(3A) (d) Deddf Tai 1996. 
    • Pan mae contract cyflwyno safonol yn dod yn gontract galwedigaeth ddiogel o dan Adran 16 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
    • Pan mae contract ymddygiad gwaharddedig safonol yn dod yn gontract galwedigaeth ddiogel o dan Adran 117 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
    • Pan mae dyletswydd i ailgartrefu pobl neu yn dilyn prynu gorfodol, neu broses gyfreithiol arall
    • Pan mae ymgeisydd yn ddigartref ac mewn llety dros dro na fyddai’n addas am fwy na chyfnod byr o amser, neu pan mae angen inni symud ymgeiswyr allan o lety dros dro er mwyn rheoli’r goblygiadau cyllidebol
    • Pan mae deiliad contract presennol neu feddiannydd yn cael contract meddiannaeth eilyddol ar gyfer yr un annedd neu i bob pwrpas yr un annedd
    • Pan mae deiliad contract presennol neu feddiannydd yn cael contract meddiannaeth newydd ar gyfer annedd gwahanol, am resymau rheolaeth tai (er enghraifft, i atal tanfeddiannu neu orlenwi, neu i ddatrys mater ymddygiad gwrthgymdeithasol)
    • Pan mae person ifanc dan oed sy’n byw mewn annedd yn cael contract meddiannaeth ar gyfer yr un annedd pan mae’n cyrraedd 18 oed
    • Pan mae contract safonol neu feddiannaeth ddiogel (ac eithrio contractau meddiannaeth safonol cyflwynol) yn cael ei wneud yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 3 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Contractau Meddiannaeth a Wneir gyda neu a Fabwysiedir gan Landlordiaid Cymunedol y Caniateir iddynt Fod yn Gontractau Safonol)
    • Darparu llety addas arall, lle y gwneir cais am neu y ceir annedd (neu y gellid gwneir cais amdano neu ei gael) am resymau rheoli stad o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
    • Pan mae’r Cyngor yn cael gorchymyn i ddarparu llety addas arall gan lys neu dribiwnlys neu’n cytuno darparu llety addas arall i setlo neu osgoi achos cyfreithiol
    • Darparu tai â chymorth a llety digartrefedd dros dro
    • Pan mae trwydded neu denantiaeth bresennol yn mynd yn gontract meddiannaeth o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

 

Dyraniadau Uniongyrchol

4.8  Er mwyn cwrdd ag anghenion ei drigolion a chanddynt yr anghenion tai mwyaf, bydd holl eiddo gwag y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn cael eu hystyried ar gyfer dyraniad uniongyrchol o dan y Polisi hwn ar gyfer ymgeiswyr:

  • A chanddynt amgylchiadau eithriadol gyda’r sawl ym Mand A yn dilyn; ac
  • Y mae ganddynt Gysylltiad Lleol (Gweler Atodiad Tri)

4.9  Wrth ddewis ymgeiswyr i’w hystyried ar gyfer dyraniadau uniongyrchol byddwn yn ystyried y maint a’r math o eiddo (Gweler Atodiad Pedwar) ac a wnaed addasiadau ar gyfer pobl anabl yn yr eiddo. Byddwn yn blaenoriaethu ymgeiswyr yn unol â’r ffactorau blaenoriaethu canlynol:

Ffactorau Blaenoriaethu Meini prawf Proses
Cyntaf Amser a Gofrestrwyd yn y Ddyletswydd neu’r band blaenoriaeth Byddwn yn didoli yn nhrefn Dyletswydd (1af A.75, 2il A.73, 3ydd A.66, 4ydd Angen Tai Brys) yn seiliedig ar yr amser a dreuliwyd yn y band blaenoriaeth. Gwneir cynigion yn nhrefn Dyletswydd a dyddiad.
Ail Meini Prawf Cysylltiad Cymunedol Byddwn yn didoli yn ôl Cysylltiad Cymunedol (gweler Atodiad Tri i gael manylion llawn am gysylltiad cymunedol). Dim ond pobl a chanddynt Gysylltiad Cymunedol fydd yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf. Os nad oes unrhyw ymgeiswyr a chanddynt gysylltiad cymunedol, efallai yr ystyriwn ymgeiswyr eraill sydd wedi datgan yr hoffent fyw yn y gymuned honno.
Trydydd Anghenion cymorth a nodwyd Dim ond ymgeiswyr y gellir eu cefnogi i fyw mewn llety sefydlog fydd yn cael eu hystyried. (Gweler Atodiad Chwech i gael manylion llawn yr anghenion cymorth a nodwyd).
Pedwerydd Cydlyniant Cymunedol Er mwyn cefnogi tenantiaeth gynaliadwy, byddwn yn ystyried effaith unrhyw ymgeisydd cymwys ar y gymuned ehangach cyn gwneud yr enwebiad.

 

4.10  Pan na allwn gysylltu cartref sydd ar gael gyda phobl a chanddynt yr angen mwyaf, byddwn yn parhau i hysbysebu’r eiddo hynny ar Canfod Cartref – gall unrhyw ymgeiswyr ym Mandiau A, B ac C ar y Gofrestr Tai barhau i gynnig am y cartrefi hyn. Wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer cartrefi a hysbysebwyd, gwneir y cynnig i’r ymgeisydd yn y band uchaf (gan ddefnyddio cysylltiad lleol, cysylltiad cymunedol a’r amser aros i’n helpu i greu rhestr fer o blith pobl yn yr un Band).


Cynnig llety

Cynnig Dyraniad Uniongyrchol

5.1  Gwneir y cynnig yn unol â’r meini prawf blaenoriaethu a amlinellir yn Adran 4.9 uchod.

5.2  Unwaith y daethpwyd o hyd i ymgeisydd ar gyfer eiddo, byddwn yn cynnal gwiriad pellach o’i gymhwysedd a blaenoriaeth i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn fanwl-gywir cyn gwneud cynnig ffurfiol. Ni wneir cynnig os;

  • Y daeth ymgeisydd yn anghymwys ers ymuno â’r gofrestr
  • Y gwelwyd y cafodd y Band Blaenoriaeth ei gyflwyno’n anghywir oherwydd y wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd
  • Yw’r amgylchiadau wedi newid ers cyflwyno’r Band Blaenoriaeth ac nid yw’r ymgeisydd yn haeddu’r un lefel o flaenoriaeth erbyn hyn

5.3  Byddwn yn gwirio holl fanylion ymgeiswyr ac yn gofyn am brawf mewn rhai amgylchiadau i gadarnhau fod y wybodaeth a roddwyd yn gywir. Gallai methu darparu’r wybodaeth angenrheidiol olygu y byddwn yn tynnu’r cynnig yn ôl.

5.4  Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gofalu ein bod yn cael gwybod am unrhyw newid i’w anghenion tai neu wneuthuriad ei aelwyd. Mae’n hollbwysig fod gennym fanylion cyswllt cywir. Os yw’r ymgeisydd yn methu ymateb i’n cysylltiad, ni fyddwn yn ystyried ei enwebu ac efallai y byddwn yn ei dynnu oddi ar y Gofrestr Tai.

5.5  Mae’n drosedd rhoi datganiad ffug neu i gadw gwybodaeth yn ôl wrth wneud cais am gartref. Pan mae tystiolaeth y cyflawnwyd trosedd o’r fath, byddwn yn cychwyn camau cyfreithiol yn erbyn yr ymgeisydd ac yn cymryd camau i derfynu unrhyw denantiaeth a gafwyd trwy dwyll.

 

Rhesymau pam y gall Landlord Cymdeithasol Cofrestredig wrthod enwebiad

5.6  Mae’n bwysig nodi fod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig hefyd yn cynnal eu prosesau gwirio eu hunain ac y gallant wrthod derbyn ymgeisydd yn denant os nad ydynt yn bodloni’r canllawiau a nodir yn eu polisïau. Byddai hynny’n cynnwys ymgeiswyr y mae ganddynt ddyled rhent ond a gafodd eu derbyn ar y Gofrestr.

5.7  Bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig hefyd yn cynnal gwiriad fforddiadwyedd wrth ddyrannu eiddo i sicrhau y gall ymgeiswyr fforddio’r rhent ar gyfer yr eiddo.

5.8  Os, am unrhyw reswm, yw Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn ystyried gwrthod ymgeisydd ar gyfer eiddo byddant yn cysylltu â’r ymgeisydd i roi gwybod iddo a bydd yr ymgeisydd yn cael cyfle i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad. Os nad yw’r Cyngor yn cytuno â phenderfyniad y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, byddwn yn trafod gyda nhw, ond efallai y bydd rhaid inni symud ymlaen i enwebiad arall os yw’r trafodaethau hynny’n aflwyddiannus.

5.9  Hefyd, gall Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig atal cynnig rhag mynd yn ei flaen pan nad yw’r eiddo’n cael ei ystyried yn addas ar gyfer ymgeisydd. Gall hyn gynnwys materion diogelwch y cyhoedd, risg, neu gynaliadwyedd y denantiaeth. Efallai na wneir cynnig neu gellid tynnu cynnig yn ôl os yw anghenion tai yr ymgeisydd yn gwneud i’r darparydd tai benderfynu, wedi ymgynghori â’r Cyngor, na fydd yr ymgeisydd yn gallu cynnal tenantiaeth annibynnol. Gallai’r penderfyniad hwnnw fod yn seiliedig hefyd ar fewnbwn partner asiantaethau eraill sy’n rhan o’r achos. Yn yr amgylchiadau hynny mae’n rhaid bod pecyn gofal, neu gymorth, digonol ar gael i sicrhau bod y denantiaeth yn debygol o gael ei chynnal yn llwyddiannus.

 

Cynigion Rhesymol

5.10  Bydd ymgeiswyr ym Mand A yn cael cynnig Cynnig Rhesymol neu Gynnig Addas (Rhan 6 HA 1996). Bydd ymgeiswyr y mae gennym Ddyletswydd Dai iddynt yn cael Cynnig Rhesymol i gyflawni ein Dyletswydd Ddigartrefedd; bydd pob ymgeisydd arall yn cael 2 Gynnig Addas. Ewch i Atodiad Saith i weld siart llif esboniadol.

5.11  Pan wnaed cynnig o’r maint a’r math maen nhw ei angen i ymgeisydd, byddwn yn esbonio’r cynnig, canlyniadau peidio derbyn y cynnig a’i hawl i gael adolygiad os bydd yn gwrthod y cynnig yn unol â HWA 2014.

5.12  Os nad yw’r ymgeisydd yn ystyried y cynnig yn un rhesymol, os yw’n gwrthod y cynnig ac yn gwneud cais am adolygiad, bydd yr eiddo’n cael ei ailddyrannu yn unol â’r meini prawf blaenoriaethu uchod. Pe bai’r adolygiad yn cael ei gynnal bydd yr ymgeisydd yn cael cynnig ‘Cynnig Rhesymol’ arall.

5.13  Os na chefnogir yr adolygiad, bydd yr ymgeisydd yn cael ei dynnu oddi ar Fand A cymhwysedd ac yn cael ei ailasesu.

5.14  Efallai y gwnawn gynnig addas i ymgeiswyr ym Mand A nad oes gennym Ddyletswydd Dai iddynt. Pan gynigiwyd cartref o’r maint a’r math maen nhw ei angen i ymgeisydd, byddwn yn gwneud hyd at ddau gynnig yn esbonio’r cynnig, canlyniadau peidio derbyn y cynnig a’i hawl i gael adolygiad os bydd yn gwrthodt y cynnig.

5.15  Os nad yw’r ymgeisydd yn ystyried yr ail gynnig yn un rhesymol, os yw’n gwrthod y cynnig ac yn gwneud cais am adolygiad, bydd yr ail eiddo’n cael ei ailddyrannu yn unol â’r meini prawf blaenoriaethu uchod. Pe bai’r adolygiad yn cael ei gefnogi bydd yr ymgeisydd yn cael cynnig ‘Cynnig Addas’ arall.

5.16  Os na chefnogir yr adolygiad, bydd yr ymgeisydd yn cael ei dtynnu oddi ar Fand A cymhwysedd ac yn cael ei ailasesu.

5.17  Pan mae ymgeisydd cymwys yn 18-35, bydd cynnig o denantiaeth a rennir fel arfer yn cael ei ystyried yn Gynnig Rhesymol neu Addas gan fod hyn yn gydnaws â’r cynnig llety yn y sector rhentu preifat a lefel y cymorth y mae ymgeiswyr yn ei gael gyda’u rhent neu ran ohono, onid yw’r ymgeisydd yn gallu dangos y gall fforddio cartref 1-ystafell wely neu ddarparu tystiolaeth gan weithiwr proffesiynol priodol na fyddai cartref a rennir yn gynnig priodol.

 

Y Broses Adolygu

5.18  Mae gan yr ymgeisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o unrhyw un o’r penderfyniadau canlynol:

  • Mae’r ymgeisydd yn anghytuno gyda’r penderfyniad i beidio ei roi yn y Band Brys
  • Mae’r ymgeisydd yn credu y gwnaed penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth anghywir
  • Barnwyd fod yr ymgeisydd yn anghymwys oherwydd ei statws mewnfudo
  • Barnwyd fod yr ymgeisydd yn anghymwys i ymuno â’r gofrestr oherwydd ymddygiad annerbyniol
    Mae’r ymgeisydd yn anghytuno gyda Chynnig Llety Rhesymol neu Addas

5.19  Rhaid i ymgeiswyr ofyn am adolygiad o benderfyniad o fewn 21 diwrnod i gael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig. Mae’n rhaid iddynt roi rhesymau pam maen nhw eisiau cael adolygiad o’r penderfyniad, gan gynnwys pan maen nhw’n credu y gwnaethpwyd penderfyniad anghywir.

5.20  Mae gan yr ymgeisydd yr hawl i gynnig sylwadau fel rhan o’r adolygiad. Mae enghreifftiau o bwy all gynnig sylwadau yn cynnwys aelodau o’r teulu, gweithwyr cymorth, gweithwyr cymdeithasol, neu aelodau lleol.

5.21  The review will be carried out by a senior officer of the Council. The reviewing officer will not have been involved in making the original decision.

5.22  Fel arfer dylai ymgeisydd gael gwybod beth yw canlyniad yr adolygiad o fewn 8 wythnos i ofyn am yr adolygiad.


Trefniadau Llywodraethu

Cynghorwyr, Aelodau Byrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, staff, a’u perthnasau

6.1  Prif rôl ein Cynghorwyr (fel y diffiniwyd mewn canllawiau statudol) yw datblygu a chymeradwyo’r Polisi a gwneud swyddogion yr awdurdod yn atebol am eu gweithredoedd.

6.2  Ni all cynghorwyr fod yn rhan o asesu ceisiadau tai na dyrannu tai. Fodd bynnag, nid yw hynny’n eu hatal rhag gofyn am a darparu gwybodaeth ar ran eu hetholwyr. Bydd cynghorwyr yn cael gwybod am unrhyw gartrefi gwag yn eu ward a phan maen nhw’n cael eu hailddyrannu.

6.3  Mae swyddogion yr awdurdod a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gyfrifol am weithredu’r Polisi Brys hwn a dyrannu yn ôl ei reolau. I sicrhau ein bod yn trin pob ymgeisydd yn deg, rhaid datgelu unrhyw gais am dai gan Gynghorwyr, gweithwyr Partneriaid, aelodau Bwrdd, neu bersonau cysylltiedig. Ni chaniateir canfasio.

6.4 Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hasesu yn y ffordd arferol, ond rhaid i unrhyw ddyraniad tai gael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd. Ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, mae’n rhaid i’r dyraniad gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y dyraniad.

 

Rhoi cyhoeddusrwydd i’r polisi

6.5  Byddwn yn cyhoeddi’r Polisi hwn ac yn trefnu ei fod ar gael i bawb. Byddwn yn darparu copi yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n gofyn amdano a byddwn hefyd yn ei wneud ar gael ar-lein. Mae cyngor ar y polisi hwn ar gael trwy’r Tîm Dewisiadau a Chyngor Tai ar 01554 899389 neu e-bost schoptions@sirgar.gov.uk

Adolygu’r polisi

6.6  Cynhyrchwyd y Polisi hwn trwy gytundeb gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n ei ddefnyddio. Byddwn yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i bawb allai gael eu heffeithio ganddo, ac o fewn cyfnod rhesymol, am y newidiadau yn y Polisi hwn. Bydd aelodau craffu yn gorfod adolygu’r polisi yn rheolaidd wrth ystyried unrhyw newidiadau eraill cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo.

6.7 Bydd casgliad o weithdrefnau gweithredol fydd yn sail i’r ddogfen Polisi Brys hon yn cael ei gymeradwyo gan y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd. Bydd y Bartneriaeth (fel y nodir yn 1.8) yn rhan o’r broses cyn gwneud unrhyw newidiadau.


Atodiad Un – Personau sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai

Mae’r dosbarthiadau canlynol o bobl sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo yn bobl sy’n gymwys am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 Deddf 1996-

Dosbarth A – person a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn ffoadur o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 y Confensiwn Ffoaduriaid ac y mae ganddo hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig;

Dosbarth B – person—

  1. a chanddo hawl eithriadol i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig a ganiatawyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; ac
  2. nad yw ei hawl i ddod i neu aros yn dibynnu ar amod yn mynnu fod y person hwnnw yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar y person hwnnw, heb droi at arian cyhoeddus

Dosbarth C – person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

  1. a gafodd hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dilyn addewid a wnaed gan noddwr y person;
  2. a fu’n byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd yn dechrau ar ddyddiad cyrraedd neu’r dyddiad pan wnaed yr addewid ar gyfer y person, pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf; ac
  3. y mae ei noddwr, neu pan mae mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw;

Dosbarth D - person a gafodd warchodaeth ddyngarol a ganiatawyd o dan y Rheolau Mewnfudo

Dosbarth E - person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac y mae ganddo hawl cyfyngedig i ddod i’r Deyrnas Unedig yn ddinesydd Affgan perthnasol o dan baragraff 276BA1 y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth F — person y mae ganddo hawl cyfyngedig i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig am resymau teuluol neu fywyd preifat o dan Erthygl 8 y Confensiwn Hawliau Dynol, megis hawl a ganiatawyd o dan baragraff 276BE (1), paragraff 276DG neu Atodiad FM y Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n dibynnu ar amod yn mynnu fod y person hwnnw yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar y person hwnnw, heb droi at arian cyhoeddus.

Dosbarth G – person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac a gafodd ei adleoli i’r Deyrnas Unedig o dan Adran 67 Deddf Mewnfudo 2016 ac y mae ganddo hawl cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth H – person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac a gafodd hawl Calais i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 352J y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth I — person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac y mae ganddo hawl cyfyngedig i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth J — person –

  1. y mae ganddo hawl cyfyngedig i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig trwy Atodiad Hong Kong Rheolau Mewnfudo Dinasyddion Prydeinig (Dramor) 16;
  2. nad yw ei hawl i ddod i neu aros yn dibynnu ar amod yn mynnu fod y person hwnnw yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar y person hwnnw, heb droi at arian cyhoeddus; ac
  3. sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon.

Dosbarth K — person—

  1. sy’n cael hawl i ddod i neu aros yn Y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, lle y rhoddir hawl o’r fath trwy—
    (aa) Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid; neu
    (bb) y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (a elwir weithiau’n gynllun ex-gratia); neu
  2. y mae ganddo hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig nad yw’n dod o dan is-baragraff (i), a adawodd Affganistan yn dilyn dymchwel llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond ac eithrio person (P)—
    (aa) sy’n gaeth i amod yn mynnu fod P yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar P, heb droi at arian cyhoeddus; neu
    (bb) a gafodd hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dilyn addewid a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd yn dechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu’r dyddiad y rhoddodd noddwr P yr addewid ar gyfer P, pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf, ac y mae ei noddwr, neu pan mae mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a

Dosbarth L - person a gafodd hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig oherwydd Rheolau Cynllun Mewnfudo Atodiad Wcráin.


Atodiad Dau – Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)2016

Adran 55 Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall

  1. Rhaid i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sydd â hawl (o ba bynnag ddisgrifiad)—
    (a) i fyw yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu
    (b) i fyw mewn annedd neu lety arall yng nghyffiniau’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.
  2. Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch cyfreithlon—
    (a) yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu
    (b) yng nghyffiniau’r annedd honno.
  3. Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd—
    (a) a allai beri niwsans neu annifyrrwch—
    (i) i’r landlord o dan y contract meddiannaeth, neu
    (ii)i berson (boed wedi ei gyflogi gan y landlord ai peidio) sy’n gweithredu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, a
    (b) sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, neu’n effeithio arnynt.
  4. Ni chaiff deiliad y contract ddefnyddio na bygwth defnyddio’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, gan gynnwys unrhyw rannau cyffredin ac unrhyw ran arall o adeilad sy’n ffurfio’r annedd, at ddibenion troseddol.
  5. Rhaid i ddeiliad y contract beidio, drwy unrhyw weithred neu anwaith—
    (a) caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson sy’n byw yn yr annedd neu’n ymweld â’r annedd, i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adrannau (1) i (3), na
    (b) caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adran (4).
  6. Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
    (a) bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
    (b) na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Atodiad Tri – Diffiniad ac ardaloedd Cysylltiad Lleol a Chysylltiad Cymunedol

Rydym yn defnyddio dwy ffactor cysylltiad wrth flaenoriaethu dyraniad, sy’n ymwneud ag angen person am yr eiddo gwag penodol hwnnw.

Cysylltiad Lleol – mae gan yr ymgeisydd gysylltiad â Sir Gaerfyrddin

Cysylltiad Cymunedol – mae gan yr ymgeisydd gysylltiad â’r ardal gymunedol y mae’r eiddo ynddi

Cysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin
Diffinnir Cysylltiad Lleol yn Adran 81 Deddf Tai (Cymru) 2014.
Mae gan berson gysylltiad lleol â’r ardal:

  • gan fod y person yn preswylio yno fel arfer, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, a bod y preswyliad hwnnw o ddewis y
  • person ei hungan fod y person yn cael ei gyflogi yno
  • o ganlyniad i gysylltiadau teuluol
  • o ganlyniad i amgylchiadau neilltuol

Ni fydd ymgeiswyr nad oes ganddynt Gysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin neu nad ydynt yn dod o dan ‘amgylchiadau arbennig’ neu’n bodloni un o’r gofynion ar gyfer cael eu heithrio rhag ofynion Cysylltiad Lleol yn cael eu hystyried o dan y Polisi Dyrannu Brys hwn.

 

Cysylltiad Cymunedol ag Ardal

Fel arfer, bydd Cysylltiad Cymunedol ag ardal yn y sir yn golygu’r ardal y mae ymgeisydd yn byw ynddi ar y pryd. Fodd bynnag, gall olygu hefyd ardal y bu’n byw ynddi, y mae ganddo deulu yn byw ynddi, y mae’n gweithio’n agos ati, neu y mae ganddo blant mewn ysgol yn agos ati. Gall ymgeiswyr ddewis un ardal y maent yn dymuno i Gysylltiad Cymunedol ymwneud â hi gan ystyried y meini prawf canlynol

  • Ymgeiswyr sydd wedi byw yn yr ardal gymunedol am gyfnod parhaus
  • Ymgeiswyr sy’n gweithio yn yr ardal gymunedol
  • Ymgeiswyr sydd wedi byw yn yr ardal gymunedol am gyfnod parhaus yn y gorffennol ond sydd wedi gorfod symud allan o’r ardal i gael llety; a/neu y mae ganddynt berthynas agos sydd wedi byw yn yr ardal, ac yr aseswyd fod angen iddynt barhau i fyw yn yr ardal i ddarparu cymorth hanfodol
  • Aelodau presennol o’r Lluoedd Rheolaidd a chanddynt Gysylltiad Cymunedol â’r ardal (e.e., wedi byw yno yn y gorffennol/perthnasau agos yn byw yno ar y pryd)

 

Ardaloedd Cysylltiad Cymunedol

Bernir fod gan ymgeiswyr gysylltiad cymunedol â’r grwpiau o ardaloedd canlynol:

- Grwpiau o Ardaloedd Cysylltiad Cymunedol -
Tref Llanelli

Elli
Bigyn
Glan-y-môr
Tyisha

Rhydaman

Rhydaman
Y Betws
Pen-y-groes
Saron
Llandybïe
Tŷ-croes

Caerfyrddin

Gogledd a De Tref Caerfyrddin
Llangunnor
Abergwili
Gorllewin Tref Caerfyrddin

Dwyrain Llanelli

Yr Hendy
Llangennech
Y Bynea
Llwynhendy

Dyffryn Aman

Y Garnant
Glanamman
Cwarter Bach

Gogledd Gwledig

Cenarth a Llangeler
Llanfihangel-ar-arth
Llanybydder
Cynwyl Elfed

Gorllewin Llanelli

Pen-bre
Porth Tywyn
Hengoed
Trimsaran
Cydweli a Llanishmel

Gwendraeth

Gorslas
Y Glyn
Llan-non
Pontyberem
Llangynderyrn

Gorllewin Gwledig

Talacharn
Tre-lech
Llanboidy
Sanclêr a Llansteffan
Hendy-gwyn ar Daf

Gogledd Llanelli/ Gwledig

Dyffryn y Swistir
Dafen a Felin-foel
Lliedi

Canol Gwledig

Llanddarog
Llanegwad
Llanfihangel Aberbythych

Llanymddyfri/Llandeilo

Llanymddyfri
Llandeilo
Manordeilo a Salem
Cil-y-cwm
Llangadog

Os all ymgeisydd ddangos unrhyw reswm arall pam fod ganddo gysylltiad ag ardal gymunedol arall, byddwn yn cynnig hyblygrwydd i’w gofrestru ar gyfer yr ardal honno. Enghraifft o hyblygrwydd yw lle mae’r ymgeisydd yn byw ger ffiniau ardal gymunedol.

Pwrpas y grwpiau ‘ardaloedd cysylltiad cymunedol’ hyn yw rhoi dewis i ymgeiswyr dros ardal ehangach nag un pentref neu dref. Mae hyn yn helpu cydbwyso angen gydag ardaloedd a chanddynt fawr ddim tai cymdeithasol os o gwbl.


Atodiad Pedwar – Lleoliad, math a maint yr eiddo

Bydd eiddo’n cael eu dyrannu sy’n gweddu i faint yr aelwyd. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd efallai na fydd gennym yr union faint o gartref i fodloni’r union anghenion.

Er mwyn sicrhau y gallwn wneud y defnydd gorau o’r stoc, efallai y cynigir eiddo sy’n fwy neu’n llai na’r hyn fyddai’n cael ei gynnig fel arfer. Byddwn yn sicrhau bod asesiadau unigol yn cael eu cwblhau ar gyfer ymgeiswyr nad yw eu haelwyd yn ffitio o fewn y safonau yn y tabl cyn gwneud y cynnig.

 

Aelwyd Maint Math o Eiddo
Pobl sengl a/neu gyplau 1 ystafell wely Fflat 1 ystafell, tŷ/fflat a rennir, fflat 1 ystafell wely
Pobl sengl neu gyplau 55 oed a throsodd 1 ystafell wely Fflat 1 ystafell, fflat 1 ystafell wely Byngalos 1 neu 2 ystafell wely a llety gwarchod
Aelwyd yn disgwyl eu plentyn cyntaf (ac y mae ganddynt y dystysgrif MATB1) 2 ystafell wely Fflatiau 2 ystafell wely, maisonettes, a thai
Aelwyd ag un plentyn* 2 ystafell wely Fflatiau 2 ystafell wely, maisonettes, a thai
Aelwyd â dau blentyn o’r un rhyw o dan 16 oed 2 ystafell wely Fflatiau 2 ystafell wely, maisonettes, a thai
Aelwyd â dau blentyn o rywiau gwahanol pan mae un dros 10 oed 3 ystafell wely Tŷ 3 ystafell wely
Aelwyd â thri neu bedwar plentyn 3 ystafell wely Tai 3 neu 4 ystafell wely (os ydynt ar gael gan mai hyn a hyn o stoc o’r maint yma sydd ar gael, a chan ddibynnu ar oed a rhyw y plant)
Aelwyd â phum plentyn neu ragor 4 ystafell wely Tai 4 neu 5 ystafell wely (os ydynt ar gael gan mai hyn a hyn o stoc o’r maint yma sydd ar gael, a chan ddibynnu ar oed a rhyw y plant)

* Aelwydydd â phlant - golyga hyn berson sy’n derbyn budd-dal plant. Nid ydym yn ystyried angen i ddarparu cartref eilaidd. Bydd angen ystyried y maint aelwyd angenrheidiol ar gyfer ymgeiswyr beichiog â phlant yn seiliedig ar oedrannau’r plant ac a fyddent yn gallu rhannu gyda’r plentyn fydd yn cael eu geni.

Mae eithriadau i hyn a amlinellir fel a ganlyn:

Mae tai pobl hŷn neu ‘Lety Gwarchod’ fel arfer yn cael eu neilltuo i bobl 55 oed neu’n hŷn. Gall hyn amrywio mewn Llety Gofal Ychwanegol lle y gall y meini prawf fod yn seiliedig ar anghenion gofal ac iechyd. Ar gyfer Cynlluniau Cynghorau, cynhelir asesiad gan Swyddog Cynllun Tai Gwarchod. Er mwyn cael eu hystyried, bydd pobl fel arfer:

  • Dros 55 oed, (er y gall rhai cynlluniau ddefnyddio isafswm oed gwahanol)
  • Yn gallu gadael yr adeilad ar eu pen eu hunain os oes tân (ar gyfer canolfannau sy’n eiddo’r Cyngor)

Yna defnyddir yr un trefniadau blaenoriaeth.

Bydd byngalos fel arfer yn cael eu neilltuo i aelwydydd yn cynnwys aelod o’r teulu dros 55 oed. Os nad oes unrhyw ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hyn, bydd pobl ag anableddau a phobl a chanddynt ofynion tai arbennig yn cael eu hystyried gan roi ystyriaeth i’w hamgylchiadau.

Bydd eiddo wedi’u haddasu yn cael eu haddasu wedi i aelod o’r aelwyd gael eu hasesu gan Therapydd Galwedigaethol a lle y penderfynwyd eu bod angen addasiadau.

Gofal Ychwanegol – Mae’r rhain yn gyfleusterau arbenigol ar gyfer ymgeiswyr sydd angen cymorth a gofal. Bydd yr asesiad yn defnyddio’r meini prawf ar gyfer Cyfleusterau Gofal Ychwanegol.

 

 


Atodiad Pump – ‘Meini Prawf ar gyfer Gosod’


Atodiad Chwech – Anghenion Cymorth a Nodwyd

Anghenion Lefel Isel – yn debygol o fod yn gyfran sylweddol nad oes ganddynt lawer o ofynion cymorth lefel isel os o gwbl ac y gellir eu cefnogi i mewn i lety sefydlog gyda lefel isel o gymorth neu drwy gyfeirio yn unig o bosibl.

Anghenion Lefel Ganolig - ynghyd ag Anghenion Lefel Isel, yn debygol o gynnwys y mwyafrif a fydd angen gwasanaeth Ailgartrefu Cyflym gyda chymorth dros dro fel y bo'r angen. Gall fod angen cymorth arnynt hefyd gan wasanaethau proffesiynol eraill er mwyn byw'n annibynnol mewn llety sefydlog.

Anghenion Lefel Uchel - yn y categori hwn y byddem yn disgwyl gweld y rheini sydd ag anghenion cymhleth cyson a/neu hanes o gysgu allan mynych ac y dylid cynnig math o gymorth Tai yn Gyntaf neu ymyriad dwys sy'n seiliedig ar dai iddynt yn ddiofyn.

Anghenion Dwys (gofynion cymorth 24/7 o bosibl) - dylai'r rhain gynnwys y rheini na allant fyw yn annibynnol, efallai oherwydd pryderon ynghylch risg i'w hunain neu i eraill neu ddewis hyd yn oed. Rydym yn disgwyl y byddai pobl broffesiynol o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau bod eu gofal a'u cymorth yn addas at y diben. Lle nodir bod rhywun yn y categori Anghenion Dwys, rhaid parhau â'r cymhelliant i'w symud i lety sefydlog.

Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym: Canllawiau i Awdurdodau Lleol a Phartneriaid Datblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022 i 2027 Hydref 2021.


Atodiad Saith – Siart Llif Cynnig Rhesymol a Chynnig Addas

Siart Llif Cynnig Rhesymol a Chynnig Addas