Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys
Yn yr adran hon
- Atodiad Dau – Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)2016
- Atodiad Tri – Diffiniad ac ardaloedd Cysylltiad Lleol a Chysylltiad Cymunedol
- Atodiad Pedwar – Lleoliad, math a maint yr eiddo
- Atodiad Pump – ‘Meini Prawf ar gyfer Gosod’
- Atodiad Chwech – Anghenion Cymorth a Nodwyd
- Atodiad Saith – Siart Llif Cynnig Rhesymol a Chynnig Addas
Atodiad Dau – Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)2016
Adran 55 Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall
- Rhaid i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sydd â hawl (o ba bynnag ddisgrifiad)—
(a) i fyw yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu
(b) i fyw mewn annedd neu lety arall yng nghyffiniau’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth. - Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch cyfreithlon—
(a) yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu
(b) yng nghyffiniau’r annedd honno. - Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd—
(a) a allai beri niwsans neu annifyrrwch—
(i) i’r landlord o dan y contract meddiannaeth, neu
(ii)i berson (boed wedi ei gyflogi gan y landlord ai peidio) sy’n gweithredu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, a
(b) sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, neu’n effeithio arnynt. - Ni chaiff deiliad y contract ddefnyddio na bygwth defnyddio’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, gan gynnwys unrhyw rannau cyffredin ac unrhyw ran arall o adeilad sy’n ffurfio’r annedd, at ddibenion troseddol.
- Rhaid i ddeiliad y contract beidio, drwy unrhyw weithred neu anwaith—
(a) caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson sy’n byw yn yr annedd neu’n ymweld â’r annedd, i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adrannau (1) i (3), na
(b) caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adran (4). - Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a) bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b) na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.