Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Amcan Llesiant 1

Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

  1. Mae rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd yn ystod cwrs bywyd. Gosodir y sylfeini ar gyfer bron pob agwedd ar ddatblygiad dynol - corfforol, deallusol ac emosiynol - yn ystod plentyndod cynnar. Mae’r hyn sy’n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, gan ddechrau yn y groth, yn cael effaith gydol oes ar sawl agwedd ar iechyd a llesiant - o ordewdra, clefyd y galon ac iechyd meddwl i gyflawniad addysgol a statws economaidd. I gael effaith ar anghydraddoldebau iechyd, mae angen inni fynd i’r afael graddiant cymdeithasol mewn mynediad plant i brofiadau cynnar cadarnhaol. Mae ymyriadau diweddarach, er eu bod yn bwysig, yn llawer llai effeithiol os nad ydynt wedi cael sylfeini cynnar da. Cymdeithas Deg, Bywydau Iach, Adolygiad Marmot, 2010.
  2. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn brofiadau sy’n achosi straen sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. camdriniaeth rywiol neu gorfforol) neu sy’n effeithio ar yr amgylchedd y mae’n byw ynddo (e.e. cael ei fagu mewn tŷ lle mae trais domestig) a all effeithio ar y plentyn drwy gydol ei fywyd. Mae 47% o bob 100 o oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol ac mae 14% wedi cael 4 neu fwy.
  3. Mae caffael iaith gynnar yn bwysig yn natblygiad y plentyn. Gall datblygiad y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar annog teimladau o berthyn.
  4. Ym mis Mawrth 2022, roedd 165 o Blant sy’n Derbyn Gofal yn Sir Gaerfyrddin, sy’n cyfateb i 45 fesul 10,000 o’r boblogaeth o gymharu chyfartaledd Cymru sef 112.
  5. Mae 31% o blant yn byw mewn tlodi yn Sir Gaerfyrddin (ar aelwydydd . llai na 60% o’r incwm cyfartalog cyn costau tai). Mae hwn yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 30.6%.
  6. Sir Gaerfyrddin yw’r 5ed sir waethaf yng Nghymru o ran lefelau gordewdra ymhlith plant. Yn 2018/19, roedd bron i draean o blant 4 i 5 oed dros bwysau neu’n ordew.
  7. Mae addysg orfodol yn newid yng Nghymru ac mae cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno sydd’r nod o ddarparu’r sgiliau y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol.

Mae ymgynghoriad diweddar gyda thrigolion Sir Gaerfyrddin yn dangos bod cytundeb cyffredinol bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc.

  1. Mae plant yn dysgu trwy chwarae ac yn datblygu sgiliau hanfodol - mae digonolrwydd chwarae yn hanfodol.
  2. Mae presenoldeb mewn cyn-ysgol o safon (0-3 oed) yn gwella canlyniadau i blant.
  3. Mae sicrhau bod pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (EET) yn lleihau effaith tlodi a’r gost ehangach i gymdeithas o wasanaethau cymorth, dibyniaeth ar fudddaliadau a throseddu.
  4. Mae gofalwyr ifanc yn fwy tebygol o gael canlyniadau addysgol gwaeth – mae 1,800 o ofalwyr ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
  5. Mae mudo net dros y pum mlynedd diwethaf yn yr ystod 16-24.
  6. Y materion lleol allweddol a nodwyd gan Fforwm Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yw::
    a) mynediad i hyfforddiant a swyddi gyda 21.3% o bleidleisiau
    b) digartrefedd gyda 20.9% o bleidleisiau,
    c) trais domestig gyda 17% o bleidleisiau.
  7. Mae pryder ynghylch iechyd meddwl yn fater allweddol a godwyd gan bobl ifanc.
  8. Mae pobl ifanc hefyd yn poeni am fwlio a seiberfwlio.
  9. Mae ymchwil ar fuddsoddiad y blynyddoedd cynnar yn awgrymu enillion sylweddol am bob £1 a fuddsoddir.
  • Gwell argaeledd lleoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
  • Caiff disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi’n llawn.
  • Cynyddu cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion a mynediad i addysg ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed.
  • Cyflwyno cwricwlwm cyflawn sy’n codi safonau addysgol.
  • Prydau ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.
  • Cynyddu addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg.
  • Gwell cyfleoedd i’r holl breswylwyr mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol i uwchsgilio ar gyfer cyflogaeth.
  • Ysgolion ar gyfer dysgu cymunedol cynaliadwy sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
  • Cadw plant gartref gyda’u teuluoedd lle bynnag y bo modd.
  • Lleihau’r anghydraddoldebau y mae plant o gefndiroedd difreintiedig yn eu hwynebu a allai effeithio ar eu cyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd.
  • Mae teuluoedd sy’n wynebu anawsterau yn cael eu cefnogi i ddarparu amgylcheddau cartref sefydlog, diogel i’w plant.
  • Mae teuluoedd o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth iechyd a llesiant yn eu hardaloedd lleol.

Fel Cyngor byddwn yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth a ganlyn a bydd cynlluniau cyflawni manwl ar wahân yn amlinellu ein dull o wneud cynnydd yn erbyn ein canlyniadau ym mhob un o’r meysydd.

Byddwn yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan wella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd a sicrhau ei fod yn dilyn ffyrdd iach o fyw. Byddwn yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn gweithio i sicrhau eu llesiant emosiynol a chorfforol.

 

Ein blaenoriaeth yw amddiffyn plant sy’n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu eu niweidio mewn rhyw ffordd arall, neu y mae perygl y bydd hynny’n digwydd iddynt. Rydym yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar / atal i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyrraedd ei lawn botensial a bod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel. Helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd yw ein prif nod.

Byddwn yn cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, gan gyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a’u potensial o ran dysgu.

Bydd cyfeiriad Gwasanaethau Addysg yn y dyfodol yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr i ddod:

  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.