Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Atodiadau

  • 1

    Diben cyffredinol y Ddeddf yw sicrhau bod trefniadau cynllunio gwasanaethau a llywodraethu cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ynghyd ag ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

    Mae’r Ddeddf yn darparu gweledigaeth a rennir y gall pob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag ati.

    Mae’r Ddeddf yn nodi’r canlynol:

    a) Rhaid inni weithredu a gwreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Mae’n rhaid i’r Cyngor weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

    b) Mae’n rhaid i ni osod a chyhoeddi Amcanion Llesiant ar gyfer y Cyngor sy’n gwneud y mwyaf o’n cyfraniad i’r 7 Nod Llesiant Cenedlaethol.

    c) Rhaid inni ddangos ein bod yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r 5 ffordd o weithio ym mhopeth a wnawn. Mae’r 5 ffordd o weithio yn canolbwyntio ar feddwl hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio ac atal.

  • 2

    7 Nod Llesiant Cenedlaethol

    Amcanion Llesiant Llewyrch Cydnerthedd Iachach Mwy cyfartal Cymunedau Cydlynus Diwylliant Bywiog a'r Gymraeg Cyfrifoldeb Byd-eang
    1. Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)
    2. Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)
    3. Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau ffyniannus)
    4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor
  • 3

    Rydym yn croesawu ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym eisoes wedi rhoi sylw i lawer o ofynion y Ddeddf newydd ond yn cydnabod ein bod yn gallu gwneud rhagor.

    1. Rydym yn teimlo bod ein Hamcanion Llesiant yn cyfrannu’n helaeth at gyflawni ein Nodau Llesiant Cenedlaethol. Mae ein Hamcanion Llesiant yn ymwneud ag agweddau gwahanol ar gwrs bywyd ac yn canolbwyntio ar y meysydd y gallwn ddylanwadu arnynt a’u llywio er mwyn gwella llesiant mewn ffordd systematig.
    2. Mae’r Amcanion Llesiant hyn wedi’u nodi yn dilyn ymgynghoriad ac adborth ag amrywiaeth o randdeiliaid ac wedi’u datblygu ochr yn ochr â chyfres o wahanol ffynonellau gwybodaeth gan ganolbwyntio ar anghenion ein poblogaeth, data perfformiad ac adborth rheoleiddiol. Wrth ddatblygu cynlluniau cyflawni i gyflawni’r amcanion hyn byddwn yn cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol sydd â diddordeb yn eu cyflawni.
    3. Bydd y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r Amcanion Llesiant (trwy ein cynlluniau cyflawni) yn ceisio sicrhau bod y 5 ffordd o weithio (tymor hir, ataliol, integredig, cydweithredol a chynnwys) yn cael eu croesawu a’u hymgorffori’n llawn yn y ffordd yr ydym yn cyflawni.
    4. Bydd gan bob deilydd/deiliaid portffolio Cabinet atebolrwydd diffiniedig ar gyfer eu Hamcanion Llesiant perthnasol.
    5. I sicrhau ein bod yn cyflawni’r camau ar gyfer pob Amcan Llesiant byddwn yn gweithredu ein Fframwaith Rheoli Perfformiad. Bydd yr holl gynlluniau cyflawni yn cael eu monitro a’u hadrodd yn chwarterol i’r Timau Rheoli Adrannol, y Tîm Rheoli Corfforaethol a’r Cabinet. Hefyd adroddir ynghylch cynnydd i’r Pwyllgorau Craffu. Bydd y Cyngoryn paratoi adroddiad blynyddol am ei Amcanion Llesiant ac yn diwygio’r amcanion os bydd angen.
    6. Bydd angen ariannu’n ddigonol cynnwys y cynlluniau cyflawni i gyflawni’r Amcanion Llesiant. I gyflawni’r amcanion hyn bydd gwasanaethau yn ‘uno’ ac yn cydweithio, yn gweithio gyda phartneriaid, ac yn cynnwys dinasyddion o bob math yn llawn.
    7. Mae ein hamcanion yn rhai tymor hir ond bydd ein cynlluniau cyflawni yn cynnwys cerrig milltir a fydd yn galluogi monitro a sicrhau cynnydd.
    8. I sicrhau bod modd cyflawni ein Hamcanion Llesiant ac i gyrraedd disgwyliadau’r Ddeddf, byddwn yn addasu trefniadau craffu, cynllunio ariannol, rheoli asedau, asesu risg, a rheoli perfformiad.
    9. Bydd gofynion Llywodraethu a Pherfformiad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 hefyd yn cael eu hymgorffori yn y dull hwn.