Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Yn ein Datganiad o Weledigaeth Cabinet, rydym wedi nodi amrywiaeth o ymrwymiadau y byddwn yn gweithio tuag at eu cyflawni yn ystod y weinyddiaeth hon tan 2027.

Rydym wedi nodi’r rhain gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r heriau allweddol a’r meysydd datblygu sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin ond gyda golwg yn y tymor hir ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trigolion a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wnawn drwy wneud yn siŵr ein bod yn gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Rydym wedi gosod datganiad gweledigaeth ar gyfer y Cyngor ond o ystyried y pwysau a’r heriau allanol niferus sy’n ein hwynebu fel poblogaeth ac fel sefydliadau dros y
blynyddoedd nesaf mae’n rhaid i ni fod yn realistig o ran yr hyn y gellir ei gyflawni. Bydd yn rhaid i ni adolygu ac asesu’n barhaus beth ac ymhle y mae angen i ni fuddsoddi a blaenoriaethu ein hymyriadau yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol hon yn darparu’r fframwaith ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau hynny a amlinellwyd yn Natganiad Gweledigaeth y Cabinet a bydd cynlluniau cyflawni manwl, a gaiff eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd, yn nodi’r union gamau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i wneud cynnydd yn erbyn ein hamcanion.

Mae’r Strategaeth hon a’r cynlluniau cyflawni manwl wedi’u datblygu gan roi sylw i adborth a ddaeth i law drwy ymgynghori â’n trigolion, staff, busnesau ac undebau llafur yn ystod haf 2022.

Mae’r math hwn o ymgysylltu â rhanddeiliaid a’u cynnwys yn y gwaith yn rhywbeth y byddaf yn sicrhau bod y Cyngor yn datblygu ac yn ymgorffori ymhellach ar draws ein dulliau cynllunio gwasanaethau. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi adborth rheolaidd i’n rhanddeiliaid fel eich bod yn gwybod beth wnaethon ni ar ôl cael eich adborth.

Mae llywodraeth leol wedi wynebu cyfnod heriol wrth orfod addasu yn ei hymateb i’r pandemig. Mae llawer o wersi i’w dysgu o’r profiad hwnnw ac arfer da y mae angen ei wreiddio. Fodd bynnag, rydym ar ddechrau cyfnod arall o ansicrwydd dros y blynyddoedd nesaf a fydd yr un mor heriol.

Rydym yn cydnabod yn llawn y costau byw cynyddol sy’n wynebu ein trigolion ac rydym am sicrhau bod y Cyngor yn gallu darparu
cefnogaeth ble bynnag y gallwn.

Mae’r Cyngor ei hun hefyd yn wynebu pwysau cyllidebol aruthrol, nad ydym wedi gweld ei debyg o’r blaen mewn gwasanaethau cyhoeddus, felly, mae’n debygol y bydd
angen newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Rhaid inni a byddwn yn ymateb i’r her hon eto, gan sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi trigolion, busnesau a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Fel Cabinet byddwn yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd ac yn unigol am sicrhau cynnydd yn erbyn yr amcanion llesiant, y blaenoriaethau thematig a’r blaenoriaethau gwasanaeth a amlinellir yn y Strategaeth Gorfforaethol hon a bydd portffolios aelodau’r Cabinet yn canolbwyntio ar feysydd allweddol.

Rydym wedi nodi’r meysydd allweddol o ddatgarboneiddio, yr argyfyngau hinsawdd a natur, a’r Gymraeg fel blaenoriaethau thematig ac, ynghyd â ffocws ar gydraddoldeb, byddwn ni’n sicrhau bod y meysydd allweddol hyn yn ganolog ym mhopeth a wnawn.


Cyflwyniad gan Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Strategaeth Gorfforaethol hon ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n nodi ein cyfeiriad a’n blaenoriaethau fel sefydliad.

Wrth ddatblygu’r Strategaeth hon rydym wedi neilltuo amser i adlewyrchu ac adnewyddu ein hymagwedd yn dilyn trafodaeth ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys cynghorwyr, swyddogion a phartneriaid allanol. Rydym hefyd wedi ceisio adborth gan drigolion, staff, busnesau ac undebau llafur ar eu barn am y Cyngor a’i flaenoriaethau ac mae’r safbwyntiau hyn wedi llywio ein hamcanion llesiant.

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, myfyrio ar ein profiadau o’r pandemig, ac edrych i’r dyfodol at y cyfnod hynod heriol sydd o flaen gwasanaethau cyhoeddus o ran galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol, rydym wedi mabwysiadu agwedd newydd at ein Strategaeth Gorfforaethol a’n hamcanion llesiant drwy ganolbwyntio ar lai o amcanion sy’n seiliedig ar boblogaeth wrth nodi ein blaenoriaethau thematig, blaenoriaethau gwasanaeth a galluogwyr busnes craidd.

Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y canlynol:

  1. Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)
  2. Galluogi ein Trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)
  3. Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)
  4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

Wrth wraidd y dull hwn mae integreiddio a chydweithio ar draws y Cyngor a chyda’n rhanddeiliaid, a byddwn yn canolbwyntio wrth symud ymlaen ar:

 

Datblygu Sir Gâr Gyda’n gilydd: Un Cyngor; Un Weledigaeth; Un Llais

 

Yn y Strategaeth hon rydym wedi nodi cyfres o flaenoriaethau thematig a gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’n hamcanion llesiant. Bydd cynlluniau cyflawni manwl yn amlinellu’r camau i’w cymryd ar gyfer pob blaenoriaeth thematig a gwasanaeth a bydd mesurau clir i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcan llesiant cyffredinol.

Yn ystod cwrs y Strategaeth hon, byddwn yn herio’r sefyllfa bresennol yn barhaus, yn gofyn cwestiynau i ni ein hunain ynglŷn â sut yr ydym yn gweithredu ac yn ystyried arfer gorau yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn hunanasesu ein perfformiad yn feirniadol ac yn ceisio adborth gan randdeiliaid fel y gallwn barhau i ddysgu a gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio.

Ein staff sy’n ysgogi’r Cyngor ac mae eu hymrwymiad a’u penderfyniad i wneud eu gorau dros bobl Sir Gaerfyrddin yn rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono.

Wrth inni ddechrau ar gyfnod heriol arall i wasanaethau cyhoeddus, byddaf yn sicrhau bod y Cyngor yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb i beth bynnag a ddaw yn sgil hynny.O ran y dyfodol, mae ffocws ar drawsnewid gwasanaeth parhaus yn mynd i fod yn bwysig iawn, a byddaf yn hybu’r trawsnewidiad hwn o fewn y sefydliad i wneud yn siŵr ein bod yn gallu addasu, bod yn arloesol ac ymateb gydag anghenion ein trigolion yn ganolog i bopeth a wnawn er gwaethaf yr heriau sydd o’n blaenau.

 


Ynglŷn â’r Cyngor

Mae gan Gyngor Lle a Seilwaith Sir Caerfyrddin ychydig dros 8,000 o weithwyr, wedi’u rhannu dros bum adran sy’n cwmpasu ystod eang o wasanaethau, gyda chyllideb Gros o £600m.

Y Prif Weithredwr

  • Cymorth i’r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a’r Cabinet
  • Cyfathrebu corfforaethol
  • Polisi corfforaethol a phartneriaeth
  • Strategaeth gorfforaethol
  • Gwasanaethau democrataidd
  • Gwasanaethau etholiadol a chofrestru
  • Technoleg gwybodaeth
  • Gwasanaethau cyfreithiol
  • Rheoli pobl
  • Rheoli perfformiad
  • Adfywio ac eiddo

Addysg a Gwasanaethau Plant

  • Cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol a lles plant a phobl ifanc
  • Cymorth i deuluoedd
  • Cymunedau cynaliadwy ar gyfer Dysgu
  • Cynhwysiant dysgwyr
  • Diogelu plant a phobl ifanc
  • Dysgu oedolion yn y gymuned
  • Gofal Plant, chwarae ac addysg yn y Blynyddoedd Cynnar
  • Gwasanaethau cefnogi ieuenctid
  • Gwasanaethau cefnogi maethu a mabwysiadu
  • Gwasanaethau cymorth i gefnogi ymddygiad dysgwyr
  • Gwasanaethau ysgol - arlwyo, cerdd, derbyniadau a llywodraethu
  • Gwella ysgolion a chynnydd dysgwyr
  • Trefniadau pontio a chefnogaeth iblant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
  • Y Gymraeg mewn Addysg

Gwasanaethau Corfforaethol 

  • Cyfrifeg a rheolaeth ariannol
  • Talu credydwyr
  • Caffael corfforaethol
  • Archwilio mewnol
  • Rheoli'r gyflogres
  • Gweinyddu Pensiynau
  • Gwasanaethau Budd-daliadau Tai a Refeniw
  • Gwasanaethau refeniw
  • Rheoli risg
  • Rheoli’r trysorlys a buddsoddiadau pensiwn

Cymunedau

  • Diogelu oedolion
  • Gofal a chymorth
  • Safon Tai Sir Gaerfyrddin+
  • Gwasanaethau diwylliannol
  • Diogelu’r Amgylchedd
  • Gofal cartref
  • Atgyweirio a chynnal a chadw tai
  • Byw'n annibynnol
  • Trwyddedu
  • Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • Gwasanaethau pobl hŷn ac anableddau corfforol
  • Hamdden awyr agored
  • Diogelu'r cyhoedd
  • Chwaraeon a hamdden

Lle a Seilwaith

  • Rheoli Adeiladu
  • Cynlluniau Argyfwng
  • Gorfodi materion amgylcheddol a rheolau chynllunio
  • Rheoli perygl llifogydd
  • Rheoli seilwaith priffyrdd
  • Cludiant Teithwyr
  • Cynllunio a chadwraeth
  • Dylunio pensaernïol /eiddo a chynnal a chadw
  • Hawliau tramwy cyhoeddus
  • Glanhau strydoedd, sbwriel a chynnal a chadw tiroedd
  • Rheoli traffig, diogelwch ar y ffyrdd a pharcio ceir
  • Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu
  • Dylunio Peirianegol
  • Rheoli Fflyd y Cyngor

Gwerthoedd Craidd

Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn.

Maent yn ein helpu i wneud y penderfyniad iawn ac yn sail i sut rydym yn gweithio.

Un tîm

Drwy weithio gyda’ngilydd, byddwn yn gwella pethau.

Cwsmeriaid yn Gyntaf

Gweithio i wella bywydau pobl yn ein cymuned.

Uniondeb

Bod yn deg, yn onest a cheisio gwneud y peth iawn bob amser, yn ddiogel

Gwrando 

Gwrando ar ein cymunedau, ein partneriaid, a’n cydweithwyr i wella.

Rhagori

Cyflawni hyd eithaf ein gallu a chwilio am ffyrdd gwell o wneud pethau.

Cymryd cyfrifoldeb 

Cymryd perchnogaeth dros ein camau gweithredu a bod yn atebol.

 


Amcan Llesiant 1

Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

  1. Mae rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd yn ystod cwrs bywyd. Gosodir y sylfeini ar gyfer bron pob agwedd ar ddatblygiad dynol - corfforol, deallusol ac emosiynol - yn ystod plentyndod cynnar. Mae’r hyn sy’n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, gan ddechrau yn y groth, yn cael effaith gydol oes ar sawl agwedd ar iechyd a llesiant - o ordewdra, clefyd y galon ac iechyd meddwl i gyflawniad addysgol a statws economaidd. I gael effaith ar anghydraddoldebau iechyd, mae angen inni fynd i’r afael graddiant cymdeithasol mewn mynediad plant i brofiadau cynnar cadarnhaol. Mae ymyriadau diweddarach, er eu bod yn bwysig, yn llawer llai effeithiol os nad ydynt wedi cael sylfeini cynnar da. Cymdeithas Deg, Bywydau Iach, Adolygiad Marmot, 2010.
  2. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn brofiadau sy’n achosi straen sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. camdriniaeth rywiol neu gorfforol) neu sy’n effeithio ar yr amgylchedd y mae’n byw ynddo (e.e. cael ei fagu mewn tŷ lle mae trais domestig) a all effeithio ar y plentyn drwy gydol ei fywyd. Mae 47% o bob 100 o oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol ac mae 14% wedi cael 4 neu fwy.
  3. Mae caffael iaith gynnar yn bwysig yn natblygiad y plentyn. Gall datblygiad y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar annog teimladau o berthyn.
  4. Ym mis Mawrth 2022, roedd 165 o Blant sy’n Derbyn Gofal yn Sir Gaerfyrddin, sy’n cyfateb i 45 fesul 10,000 o’r boblogaeth o gymharu chyfartaledd Cymru sef 112.
  5. Mae 31% o blant yn byw mewn tlodi yn Sir Gaerfyrddin (ar aelwydydd . llai na 60% o’r incwm cyfartalog cyn costau tai). Mae hwn yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 30.6%.
  6. Sir Gaerfyrddin yw’r 5ed sir waethaf yng Nghymru o ran lefelau gordewdra ymhlith plant. Yn 2018/19, roedd bron i draean o blant 4 i 5 oed dros bwysau neu’n ordew.
  7. Mae addysg orfodol yn newid yng Nghymru ac mae cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno sydd’r nod o ddarparu’r sgiliau y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol.

Mae ymgynghoriad diweddar gyda thrigolion Sir Gaerfyrddin yn dangos bod cytundeb cyffredinol bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc.

  1. Mae plant yn dysgu trwy chwarae ac yn datblygu sgiliau hanfodol - mae digonolrwydd chwarae yn hanfodol.
  2. Mae presenoldeb mewn cyn-ysgol o safon (0-3 oed) yn gwella canlyniadau i blant.
  3. Mae sicrhau bod pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (EET) yn lleihau effaith tlodi a’r gost ehangach i gymdeithas o wasanaethau cymorth, dibyniaeth ar fudddaliadau a throseddu.
  4. Mae gofalwyr ifanc yn fwy tebygol o gael canlyniadau addysgol gwaeth – mae 1,800 o ofalwyr ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
  5. Mae mudo net dros y pum mlynedd diwethaf yn yr ystod 16-24.
  6. Y materion lleol allweddol a nodwyd gan Fforwm Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yw::
    a) mynediad i hyfforddiant a swyddi gyda 21.3% o bleidleisiau
    b) digartrefedd gyda 20.9% o bleidleisiau,
    c) trais domestig gyda 17% o bleidleisiau.
  7. Mae pryder ynghylch iechyd meddwl yn fater allweddol a godwyd gan bobl ifanc.
  8. Mae pobl ifanc hefyd yn poeni am fwlio a seiberfwlio.
  9. Mae ymchwil ar fuddsoddiad y blynyddoedd cynnar yn awgrymu enillion sylweddol am bob £1 a fuddsoddir.

Amcan Llesiant 2

Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

  1. Mae tlodi ac amddifadedd yn cael effeithiau niweidiol difrifol ar bob agwedd ar lesiant. Mae dros draean (35.6%) o’n haelwydydd yn parhau i fyw mewn tlodi, sef lefel sydd wedi cynyddu 0.9% dros y deng mlynedd diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i tua 29,500 o aelwydydd, sy’n awgrymu bod bron i 600 o aelwydydd ychwanegol wedi llithro o dan y trothwy incwm dros y deng mlynedd diwethaf. Roedd cyfran fawr o ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar yn cytuno bod tlodi yn broblem yn eu hardaloedd priodol.
  2. Mae costau byw yn cynyddu ar draws y DU, ac mae mwy o deuluoedd sy’n gweithio yn wynebu tlodi.
  3. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae gan Sir Gaerfyrddin boblogaeth sy’n heneiddio, ac mae 11% o boblogaeth y sir dros 75 oed (yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 9.8%). Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r GIG a’r Awdurdod Lleol gynllunio ar gyfer y galw cynyddol disgwyliedig am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Nodwyd mai Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd y thema bwysicaf o ran blaenoriaethu buddsoddiad gan drigolion Sir Gaerfyrddin drwy ymgynghoriad diweddar.
  4. Yr her yw atal afiechyd, mae byw bywydau iach yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial, gwireddu eu dyheadau addysgol, a chwarae rhan lawn yn economi a chymdeithas Sir Gaerfyrddin, ac mae llawer o’r gwasanaethau a’r ymyriadau ataliol y tu allan i iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Rhagwelir y bydd nifer yr achosion o ddementia yn cynyddu’n sylweddol yn y 15 mlynedd nesaf.
  6. Mae salwch meddwl yn rhywbeth bydd un o bob pedwar oedolyn yn ei brofi yn ystod eu hoes. Ar y cyfan, roedd trigolion yn cytuno’n gryf ei bod yn bwysig ystyried cefnogi iechyd meddwl a lles pobl.
  7. Mae digartrefedd, a’r risg o ddigartrefedd, yn peri cryn berygl i lesiant rhywun ac yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ogystal â bod yn arwydd o amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd gwael.
  8. Mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn hybu iechyd a llesiant, gan ddiwallu anghenion unigol y trigolion a chreu cymunedau cynaliadwy cryf a lleoedd y mae pobl am fyw ynddynt. Mae’n dda i’r economi hefyd - er mwyn ffynnu, mae angen i fusnesau newydd gael mynediad hwylus i’w gweithlu a bydd tai o safon yn helpu i ddenu’r garfan hon. Ar y cyfan, roedd y trigolion lleol yn cytuno’n gryf ei bod yn bwysig bod pobl leol yn cael eu cefnogi i brynu cartrefi yn lleol.
  9. Mae cartrefi fforddiadwy o ansawdd da sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn dda i’r bobl a’r amgylchedd – mae cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n dda gyda’r technolegau arloesol diweddaraf nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon ond hefyd yn hybu cynhesrwydd fforddiadwy i’n trigolion.

 

 

 


Amcan Llesiant 3

Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

1. Mae darparu swyddi diogel sy’n talu’n dda i bobl leol yn hanfodol gan fod cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i drechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Mae hyn yn cael effaith ddramatig ar ein hiechyd a’n gallu i weithredu mewn cymdeithas bob dydd.

2. Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd anweithgarwch economaidd uchel. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i dwf yn Sir Gaerfyrddin, gan fod y rhai economaidd anweithgar yn cynrychioli ffynhonnell sylweddol o gyflenwad llafur sy’n elfen hanfodol o farchnad lafur sy’n gweithredu’n dda. Mae hyn hefyd yn peri pryder o ystyried y gall bod yn segur am gyfnod hir o amser gael effaith negyddol ar lesiant, iechyd a boddhad bywyd person.

3. Rhwystr i gyflogaeth i lawer yw diffyg cymwysterau neu sgiliau. Mae hyn yn berthnasol i’r rhai nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl a’r rhai sy’n dymuno ail-sgilio neu uwchsgilio i wella eu hunain a cheisio cyflogaeth lefel uwch neu swydd arall. Mae hwn yn fater perthnasol i Sir Gaerfyrddin, gan fod gan y sir nifer uwch na’r cyfartaledd o bobl heb unrhyw gymwysterau a chyfran is na’r cyfartaledd o bobl â chymwysterau lefel uwch.

4. Mae cyfraddau genedigaethau busnes yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf o gymharu â chyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r cyfradd dechrau busnes segur hon yn rhwystr i dwf ac yn awgrymu diffyg hyder a chapasiti o fewn yr economi. Mae tystiolaeth a amlygwyd mewn gwaith diweddar ar ragolygon Arloesi ar gyfer y sir yn awgrymu bod gallu entrepreneuraidd posibl y sir ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Felly, er bod angen cymorth perthnasol ar fusnesau presennol y sir, mae angen canolbwyntio hefyd ar greu ecosystem sy’n harneisio’r ysbryd entrepreneuraidd presennol a gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle deniadol i ddechrau busnes.

5. Nodweddir y sir gan fentrau micro a bach sy’n cyfrif am 97.2% o gyfanswm demograffeg busnesau. Er mai dyma sylfaen ecosystem economaidd a diwylliannol y sir, mae eu trosiant blynyddol cyfun yn sylweddol is na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu gan 430 (2.8%) o fentrau canolig a mawr y sir. Os ydym am wireddu twf economaidd nodedig a chynyddu cynhyrchiant, mae angen canolbwyntio ar gefnogi’r busnesau hyn i uwchraddio. Amlygwyd yr economi leol fel y drydedd thema bwysicaf ar gyfer blaenoriaethu buddsoddiad gan ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar. Roedd hyn yn cynnwys is-themâu megis buddsoddi mewn busnesau lleol ac adfywio canol trefi.

6. Mae mynediad at wasanaethau yn her mewn rhai achosion oherwydd dwysedd poblogaeth is a gwledigrwydd. Mae pellteroedd teithio mawr yn cynyddu’r amser a’r gost ar gyfer cyrchu gwasanaethau, a all lesteirio gallu unigolyn i deimlo’n gysylltiedig â’i gymunedau, gwaethygu unigedd a lleihau teimladau o falchder a pherthyn lleol. Mae hyn yn berthnasol iawn i grwpiau sydd ar y cyrion. Mae canfyddiadau arolwg diweddar o drigolion Sir Gaerfyrddin yn amlygu, er bod cytundeb cyffredinol ymhlith yr ymatebwyr y gallant gael mynediad hawdd at wasanaethau, roedd cyfran fawr yn anghytuno.

7. Mae cludiant a phriffyrdd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chynnal ein cymunedau, mae’n darparu’r seilwaith hanfodol sy’n cysylltu pobl â’i gilydd, yn dod â chymunedau ynghyd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae economi lwyddiannus a modern yn dibynnu ar symud pobl a nwyddau yn effeithlon ac yn ddiogel a rhoi cyfleoedd i bobl gael mynediad at gyflogaeth, addysg, iechyd, hamdden a siopa.

Roedd rhan fwyaf yr ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf bod cysylltiadau trafnidiaeth da o’u cwmpas.

8. Mae ardaloedd yn y sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig llifogydd. Mae ychydig dros 15,000 o eiddo (preswyl yn bennaf) yn y sir ar hyn o bryd mewn rhyw lefel o berygl llifogydd. Mae 3,151 o’r tai hyn mewn perygl mawr. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu nifer y tai, seilwaith a gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd. Bydd lleoedd nad ydynt yn gorlifo ar hyn o bryd yn troi’n rhai lle mae perygl o lifogydd a bydd y rhai sydd eisoes mewn perygl o lifogydd o dan fwy o risg.

Amlygwyd bygythiadau’r argyfyngau hinsawdd a natur gan drigolion fel pryder. Cyfeiriwyd yn arbennig gan rai at y bygythiadau a achosir gan lifogydd.

9. Mae amgylchedd naturiol bioamrywiol yn dda ar gyfer llesiant, gydag ecosystemau iach a gweithredol, sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Mae cynllunio yn rhan annatod o wireddu gweledigaeth y Cyngor.

10. I leihau allbynnau carbon a chyrraedd targedau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni gyflawni ein Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu a chyrraedd ein targedau ailgylchu statudol (70% erbyn 2025 / 100% erbyn 2050) a rhwymedigaethau ehangach gan gynnwys gwella ansawdd deunyddiau ailgylchadwy neu wynebu cosbau ariannol.

11. Mae data Cyfrifiad diweddaraf 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg, sef 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Mae’r ffigur hwn yn ostyngiad o 5,210 ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011, sy’n cyfateb i ostyngiad pwynt canran o 4.0. Dyma’r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru. Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011. Mae’r ffigurau newydd hyn yn golygu bod gan y sir bellach yr ail nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl awdurdodau lleol Cymru a’r pedwerydd uchaf o ran y ganran o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r sir yn parhau i fod yn gadarnle strategol allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg ac mae manteision cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd yn cael eu cydnabod yn eang. Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy’r arolwg trigolion yn dangos bod ymatebwyr yn gyffredinol yn cytuno ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a’i diogelu.

Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy’r arolwg trigolion yn dangos bod ymatebwyr yn cytuno ar y cyfan ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i diogelu.

12. Mae cyfraddau troseddu yn cynyddu mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag mae’r sir yn parhau i fod ymhlith yr ardaloedd mwyaf diogel yn y DU, ac mae Sir Gaerfyrddin yn y 13eg safle mwyaf diogel o’r 22 sir yng Nghymru gyda chyfradd o 83.6 o droseddau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Ar y cyfan, roedd cytundeb bod trigolion yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.

 


Amcan Llesiant 4

Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

1. Ym mis Mawrth 2020, gwelwyd cychwyn un o’r cyfnodau mwyaf heriol a wynebwyd erioed gan lywodraeth leol gyda’r pandemig COVID-19. Yn deillio o’r argyfwng,roedd cydnabyddiaeth ‘na fyddai pethau byth yr un fath’ ac ni fyddem yr un sefydliad ag y buom. Roeddem felly am gasglu’r hyn a ddysgwyd o’n hymateb i’r pandemig; yr hyn a weithiodd yn dda/na weithiodd cystal, a sut y gallai hyn newid o bosibl ‘beth rydym yn ei wneud’ a ‘sut rydym yn ei wneud’, yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfle nawr i ailosod neu fynd yn .l i’r pethau syml wrth ddefnyddio rhai egwyddorion craidd sy’n sail i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Mae canfyddiadau o ymgynghoriad staff diweddar yn dangos bod mwyafrif helaeth yr ymatebwyr yn teimlo’n falch o’r ffordd yr ydym wedi ymateb fel sefydliad i’r pandemig.

Yn ogystal, mae’r mwyafrif yn teimlo’n barod i symud ymlaen a gweithio mewn byd ôl-covid.

Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn cytuno eu bod wedi cael eu harwain yn dda yn ystod y pandemig, ond roedd cyfran is yn cytuno eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnaethant yn ystod y cyfnod hwn.

2. Roedd yn rhaid i ni addasu ein gwasanaethau’n gyflym i ddarpariaeth barhaus, a oedd yn aml yn gofyn am feddwl arloesol a chreadigol, ac ymagwedd aml-dîm o fewn y Cyngor a chyda phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Dangosodd gwasanaethau wydnwch eithafol ac o ganlyniad maent bellach wedi’u harfogi â chynlluniau parhad gwasanaeth mwy cadarn ac ymagwedd fwy aeddfed at risg – ac mae mwy o hyder ac uchelgais wrth chwilio am ffyrdd o ddatblygu gwasanaethau mwy pwrpasol.

3. Bydd manteision cael gweithlu mwy hyblyg, deinamig a grymus yn bwysig i gefnogi rhaglen drawsnewid, i’n helpu i gyflawni ein nodau a’n hamcanion ehangach. Y tebygolrwydd yw bydd ein heriau recriwtio staff gyda ni am y tymor canolig o leiaf, ac felly bydd angen mwy o ffocws ar ddatblygu a chadw staff, blaenoriaeth i’n Strategaeth Gweithlu.

Ar y cyfan, mae ymatebwyr i’r ymgynghoriad staff yn cytuno’n gryf bod ganddynt y sgiliau a’r offer cywir i wneud eu gwaith, ond mae cyfran is yn cytuno eu bod yn cael eu hannog i ddysgu a datblygu yn eu rôl.

4. Gallwn ddatblygu dull mwy cynaliadwy o ddiwallu anghenion ein gweithlu yn y dyfodol drwy fabwysiadu strategaeth ‘tyfu eich hun’ – bydd ein rhaglen ‘Gweithlu’r Dyfodol’ yn ceisio rhoi rhagor o gyfleoedd i raddedigion, prentisiaethau a phrofiad gwaith.

5. Felly, bydd ein Rhaglen Drawsnewid, sy’n seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu, yn cynllunio ac yn gweithredu rhaglen o newid a thrawsnewid mewnol a fydd yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau fel y nodir yn y Strategaeth Gorfforaethol hon.


Galluogwyr Busnes Craidd

Yn ogystal â’r blaenoriaethau thematig a gwasanaeth a nodwyd, mae amrywiaeth o alluogwyr busnes craidd a fydd yn hanfodol i’n galluogi i wneud cynnydd yn erbyn ein hamcanion llesiant.

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynlluniau cyflawni ar gyfer y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth, rhoddir ystyriaeth hefyd i’r cymorth a’r swyddogaeth sydd eu hangen gan y galluogwyr busnes craidd hyn.

  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Marchnata a’r Cyfryngau gan gynnwys gwasanaethau cwsmeriaid
  • Cyfreithiol
  • Cynllunio
  • Cyllid
  • Caffael
  • Archwilio Mewnol
  • Rheoli Pobl (Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Iechyd Galwedigaethol)
  • Gwasanaethau Democrataidd
  • Polisi a Pherfformiad
  • Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil
  • Ystadau a Rheoli Asedau
  • Rheoli Risgiau
  • Cymorth Busnes

Sut y byddwn ni’n mesur cynnydd?

Mae Fframwaith Rheoli Perfformiad y Cyngor yn nodi ein dull o reoli a monitro perfformiad yn erbyn ein Strategaeth Gorfforaethol a’n hamcanion llesiant.

Bydd y camau gweithredu a’r mesurau penodol ar gyfer sut y byddwn yn gwneud cynnydd yn erbyn ein Strategaeth Gorfforaethol a’n hamcanion llesiant yn cael eu hamlinellu mewn cynlluniau cyflawni manwl ar gyfer y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth a fydd hefyd yn cydnabod gwaith y galluogwyr busnes craidd. Bydd y cynlluniau cyflawni hyn yn cael eu datblygu gyda chylch oes y Strategaeth Gorfforaethol hon tan 2027 mewn golwg a byddant yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n flynyddol.

Ymgymerir â rheoli perfformiad parhaus trwy adroddiadau monitro perfformiad chwarterol i’r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Cabinet a Chraffu a fydd yn cael eu hategu gan gyfres data perfformiad corfforaethol.

Bydd Adroddiad Blynyddol ar berfformiad y Cyngor yn cael ei baratoi i barhau i adolygu i ba raddau:

  • yr ydym yn arfer ein swyddogaethau’n effeithiol;
  • yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol;
  • y mae ein llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau hyn.

Bydd hyn yn cael ei ddatblygu drwy ddull hunanasesu ochr yn ochr â defnydd effeithiol o ddata, gwybodaeth a deallusrwydd i lywio a datblygu ein cynlluniau cyflawni a’n ffyrdd o weithio ymhellach.

Byddwn hefyd yn ymgynghori ac yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar ein perfformiad gan gynnwys trigolion, busnesau, staff y Cyngor, sefydliadau ac undebau llafur er mwyn llywio ein hunanasesiad.


Atodiadau

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)