Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Amcan Llesiant 4

Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

1. Ym mis Mawrth 2020, gwelwyd cychwyn un o’r cyfnodau mwyaf heriol a wynebwyd erioed gan lywodraeth leol gyda’r pandemig COVID-19. Yn deillio o’r argyfwng,roedd cydnabyddiaeth ‘na fyddai pethau byth yr un fath’ ac ni fyddem yr un sefydliad ag y buom. Roeddem felly am gasglu’r hyn a ddysgwyd o’n hymateb i’r pandemig; yr hyn a weithiodd yn dda/na weithiodd cystal, a sut y gallai hyn newid o bosibl ‘beth rydym yn ei wneud’ a ‘sut rydym yn ei wneud’, yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfle nawr i ailosod neu fynd yn .l i’r pethau syml wrth ddefnyddio rhai egwyddorion craidd sy’n sail i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Mae canfyddiadau o ymgynghoriad staff diweddar yn dangos bod mwyafrif helaeth yr ymatebwyr yn teimlo’n falch o’r ffordd yr ydym wedi ymateb fel sefydliad i’r pandemig.

Yn ogystal, mae’r mwyafrif yn teimlo’n barod i symud ymlaen a gweithio mewn byd ôl-covid.

Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn cytuno eu bod wedi cael eu harwain yn dda yn ystod y pandemig, ond roedd cyfran is yn cytuno eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnaethant yn ystod y cyfnod hwn.

2. Roedd yn rhaid i ni addasu ein gwasanaethau’n gyflym i ddarpariaeth barhaus, a oedd yn aml yn gofyn am feddwl arloesol a chreadigol, ac ymagwedd aml-dîm o fewn y Cyngor a chyda phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Dangosodd gwasanaethau wydnwch eithafol ac o ganlyniad maent bellach wedi’u harfogi â chynlluniau parhad gwasanaeth mwy cadarn ac ymagwedd fwy aeddfed at risg – ac mae mwy o hyder ac uchelgais wrth chwilio am ffyrdd o ddatblygu gwasanaethau mwy pwrpasol.

3. Bydd manteision cael gweithlu mwy hyblyg, deinamig a grymus yn bwysig i gefnogi rhaglen drawsnewid, i’n helpu i gyflawni ein nodau a’n hamcanion ehangach. Y tebygolrwydd yw bydd ein heriau recriwtio staff gyda ni am y tymor canolig o leiaf, ac felly bydd angen mwy o ffocws ar ddatblygu a chadw staff, blaenoriaeth i’n Strategaeth Gweithlu.

Ar y cyfan, mae ymatebwyr i’r ymgynghoriad staff yn cytuno’n gryf bod ganddynt y sgiliau a’r offer cywir i wneud eu gwaith, ond mae cyfran is yn cytuno eu bod yn cael eu hannog i ddysgu a datblygu yn eu rôl.

4. Gallwn ddatblygu dull mwy cynaliadwy o ddiwallu anghenion ein gweithlu yn y dyfodol drwy fabwysiadu strategaeth ‘tyfu eich hun’ – bydd ein rhaglen ‘Gweithlu’r Dyfodol’ yn ceisio rhoi rhagor o gyfleoedd i raddedigion, prentisiaethau a phrofiad gwaith.

5. Felly, bydd ein Rhaglen Drawsnewid, sy’n seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu, yn cynllunio ac yn gweithredu rhaglen o newid a thrawsnewid mewnol a fydd yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau fel y nodir yn y Strategaeth Gorfforaethol hon.

  • Moderneiddio a datblygu ymhellach ffyrdd y Cyngor o weithio.
  • Cefnogi datblygiad y Cyngor fel sefydliad modern, amrywiol, cynhwysol ac ymatebol a bod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
  • Gwrando ar ein staff trwy ymgysylltu â staff yn rheolaidd a’u grymuso i wella eu meysydd gwasanaeth eu hunain.
  • Sicrhau bod gwaith partneriaeth lleol a rhanbarthol yn effeithlon ac effeithiol ac yn ychwanegu gwerth at waith y Cyngor.
  • Mwy o ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ymgysylltu, cyfranogi ac ymgynghori.
  • Datblygu agwedd fwy masnachol tuag at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor, gyda’r nod o gynyddu lefel yr incwm sy’n cael ei gynhyrchu.
  • Gwneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol i drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach yn brosesau gwasanaeth craffach ac effeithlon ac i ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid.
  • Croesawu a hyrwyddo gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad, trwy fod yn fwy cynaliadwy a chreadigol I wella gwasanaethau’r Cyngor.
  • Cyflawni newid sefydliadol sy’n cefnogi targedau Carbon Sero Net allweddol.
  • Sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol.
  • Gwreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wna’r Cyngor.

Fel Cyngor byddwn yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig canlynol a bydd cynlluniau cyflawni manwl ar wahân yn amlinellu ein dull o wneud cynnydd yn erbyn ein canlyniadau ym mhob un o’r meysydd.

Mae gwasanaeth cyhoeddus yn ei gyfanrwydd wedi bod trwy gyfnod nas gwelwyd erioed o’r blaen wrth ymateb i’r pandemig, a chan fod cyfnod heriol yn debygol o’n hwynebu o ran pwysau cyllidebol mae’n hanfodol gwella ein galluoedd a’r ffordd yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau yn ddarbodus, effeithlon ac effeithiol er mwyn darparu mwy o werth a buddion i’n cwsmeriaid a’n trigolion.

Bydd ffocws ar drawsnewid sefydliadol yn cyflymu’r broses foderneiddio ymhellach ar draws y Cyngor ac yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel o fewn cyd-destun amgylchedd allanol heriol. Bydd angen dull cynhwysol ac integredig o drawsnewid sy’n gwneud y defnydd gorau o’i bobl, ei systemau a’i brosesau wrth annog y gwaith o fabwysiadu arferion gwaith modern a chyflymu prosesau.