Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28

Cyflwyniad: Cyd-destun Polisi

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a reoleiddir gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn gosod 174 o Safonau Iaith ar Gyngor Sir Gâr yn ei Hysbysiad Cydymffurfio 2016.

Mae’r Safonau yn nodi disgwyliadau o ran triniaeth y Gymraeg wrth i’r Cyngor:

  1. cyflenwi gwasanaethau Cymraeg,
  2. llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg,
  3. gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg,
  4. cadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg ac yn olaf
  5. hybu’r Gymraeg.

O fewn y Safonau Hybu, mae Safon 145 a 146 yn benodol yn galw ar y Cyngor Sir i lunio’r Strategaeth hon. Safon 145: Rhaid ichi lunio, a chyhoeddi ar eich gwefan, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn eich ardal; a rhaid i’r strategaeth gynnwys (ymysg pethau eraill).

  1. targed (yn nhermau canran y siaradwyr yn eich ardal) ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd o dan sylw,
    a
  2. datganiad sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw; a rhaid ichi adolygu’r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni ar eich gwefan o fewn 5 mlynedd i ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth (neu i ddyddiad cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni).

Safon 146: Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol â
safon 145 rhaid ichi:

  1. asesu i ba raddau yr ydych wedi dilyn y strategaeth honno
    ac wedi cyrraedd y targed a osodwyd ganddi, a
  2. cyhoeddi’r asesiad ar eich gwefan, gan sicrhau ei fod yn
    cynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
  1. nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal, ac oedran y
    siaradwyr hynny;
  2. rhestr o’r gweithgareddau a drefnwyd gennych neu a
    ariannwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg.

Lluniwyd a gweithredwyd Strategaeth Hybu gyntaf Cyngor SirCaerfyrddin ar gefn y gwaith a wnaed mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011. Roedd Adroddiad Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gwaith y Gweithgor y Cyfrifiad a sefydlwyd gan y Cyngor Sir, yn sail gadarn i’r gwaith o lunio a gweithredu Strategaeth Hybu 2016-2001. Crynhoir yr ymdrechion a wnaed ar sail Strategaeth Hybu Un mewn adroddiad cynhwysfawr a osododd, yn ei dro, sail gadarn i lunio’r Strategaeth hon, sef Strategaeth Hybu Dau.

Mae cyd-destun Strategaeth Hybu Dau o safbwynt ymdrechion bwriadus eraill i gynllunio ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn Sirol ac yn Genedlaethol wedi newid yn sylweddol ers adeg llunio Strategaeth Un.

Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth uchelgeisiol, Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr. Roedd y Strategaeth yn nodi dau darged penodol, sef:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.

Mae’n fwriad gan y Llywodraeth i ddefnyddio ystadegau’r Cyfrifiad a’r Arolwg Defnydd Iaith i fesur cynnydd yn erbyn y targedau yma.

Ar adeg llunio’r Strategaeth hon, mae Cymraeg 2050 yn dal i sefyll fel craidd cynllunio ieithyddol y Llywodraeth, ac yn 2022, ychwanegwyd ato weledigaeth y Gweinidog newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef Jeremy Miles AS. Rhoddodd yntau bwyslais
ar ddefnyddio’r Gymraeg, ‘darparu a siarad nid jyst creu sefydliadau’. Mae’n symud y pwyslais oddi ar ‘hybu a hwyluso’ a
thuag at gynyddu defnydd y Gymraeg gyda’r neges gyson fod ‘y
Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’.

Mae’n nodi’r bwriad o annog mudiadau cydweithredol, a fydd yn
gweithredu’n Gymraeg, o brif ffrydio’r Gymraeg i bob maes polisi o fewn y Llywodraeth, o daclo problem ail gartrefi a thai ac o sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol.

Yn 2015, cyhoeddwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol oedd yn gosod saith nod cenedlaethol y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag atynt, er mwyn sicrhau eu bod yn ‘meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau’. Mae un o’r nodau hynny’n cyfeirio’n uniongyrchol at y Gymraeg a’r angen i greu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae arwyddocâd cael nod cenedlaethol sydd yn dod o’r tu allan i faes traddodiadol cynllunio ieithyddol yn atgyfnerthu ein hymdrechion o fewn y maes hwnnw heb os.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a’r Ddeddf Llesiant ei hun wedi gwreiddio erbyn hyn ac mae’n dod yn gliriach o hyd sut y gall hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r Strategaeth Hybu gydblethu â’r ymdrechion yma i hyrwyddo llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae amserlen cynllunio y Strategaeth hon a Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr wedi cydredeg yn ystod 2022-23 a bu cyfle i Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg gael mewnbwn i’w chynnwys yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae’r Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-28 yn cynnwys nod o ran ‘Helpu i greu cymunedau dwyieithog, diogel ac amrywiol’, ac un o’r prif gamau dros gyfnod y Cynllun Llesiant nesaf fydd i “Gefnogi gweithrediad, datblygiad pellach a monitro Strategaeth Hybu’r Gymraeg”.

Rydym am sicrhau bod dolen wedi ei chreu rhwng y BGC a’r Fforwm Sirol a bod y Fforwm yn trafod materion allweddol am y Gymraeg gyda’r Bwrdd. Yn yr un modd, rydym am sicrhau fod swyddogion y cyrff partner sydd yn eistedd ar y Fforwm yn cael eu cefnogi gan gynrychiolaeth y BGC er mwyn gwireddu amcanion yStrategaeth Hybu.

Mae Mwy Na Geiriau, sef Cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, wedi profi cyfnod o lymder yn ystod y cyfnod ,diwethaf. Yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith fod yr holl ,sector wedi cael ei throi ben i waered gan bandemig COVID-19, ni chafodd y ‘cynnig rhagweithiol’ lawer o sylw ar lefel strategol yn ddiweddar. Fodd bynnag, yn dilyn cynnal gwerthusiad annibynnol o Fframwaith Mwy na Geiriau yn 2019, cyhoeddwyd cynllun pum mlynedd newydd o 2022-2027.

Er gwaetha cyfraniad cadarnhaol y polisïau uchod oll, erys nifer o ffactorau sy’n effeithio’n fwyaf andwyol ar y Gymraeg yn Sir Gâr y tu allan i’w cwmpas. Mae fforddiadwyedd tai i bobl ifanc leol er enghraifft yn cael ei ddylanwadu’n bennaf gan fympwy’r farchnad agored ac elw’r sector breifat. Mae’r un yn wir o ran mewnlifiad pobl hŷn o’r tu allan i Gymru i gymunedau Cymraeg. Wedi ymdrechion Strategaeth Un i gydweithio ag arwerthwyr tai i geisio cael gwybodaeth ddefnyddiol i ymgodymu â’r broblem hon, rhaid cydnabod mai mater i Lywodraeth Cymru yw dylanwadu’n ystyrlon ar y ffactorau yma.

Edrychwn ymlaen yn awyddus at gydweithio ar ymdrechion arloesol gan y Llywodraeth yn y maes hwn ac i archwilio pwerau deddfu newydd a allai liniaru effeithiau niweidiol ar y Gymraeg.

Yn yr un modd, mae graddau llwyddiant y Strategaeth hon yn ddibynnol ar ymrwymiad cyrff cyhoeddus eraill sydd y tu allan i reolaeth perchennog y Strategaeth, sef y Cyngor Sir. Erys, gwaith i’w wneud i sicrhau bod cyrff eraill y Fforwm Strategol
Sirol yn ymrwymo i weithredu’r Strategaeth, a hynny ar bob lefel o fewn y sefydliadau.

Mae angen integreiddio nod y Strategaeth hon i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a sicrhau bod yna gefnogaeth lwyr o’r sefydliadau hynny i’w cynrychiolwyr sydd ar y Fforwm Strategol Sirol er mwyn sicrhau perchnogaeth y Strategaeth ar draws sefydliadau’r sir yn hytrach na dim ond i elfen gyfyngedig Gymraeg y sefydliadau hynny.

Rhaid cofio ‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb’ a’n nod ni yw ‘adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd’.

Nid ar chwarae bach mae cyflawni’r nod.