Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28
Yn yr adran hon
- Rhagair gan y Cynghorydd Glynog Davies
- Cyflwyniad: Cyd-destun Polisi
- Cyflwyniad: Cyd-destun ieithyddol
- Seiliau: Y Gwaith a wnaed yn Strategaeth Un
- Nod a gweledigaeth
Seiliau: Y Gwaith a wnaed yn Strategaeth Un
Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd yfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i ynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.
Adnabuwyd gwaith sylweddol y Mentrau Iaith yn ogystal â’r cyrff eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir fel asgwrn cefn y Strategaeth ac yna, yn ystod cyfnod y Strategaeth, cynhaliwyd 10 o gyfarfodydd gan edrych ar faes gwaith ar gyfer ei ddatblygu ym mhob cyfarfod. Ym mhob cyfarfod, cafwyd cyflwyniadau gan swyddogion o’r Cyngor Sir a chynrychiolwyr allweddol sy’n gweithredu yn y meysydd dan sylw. Yn dilyn y drafodaeth, lluniwyd camau gweithredu o’r newydd ar gyfer y maes gwaith. Gosodwyd y camau gweithredu mewn Cynllun Gweithredu a ddiweddarwyd fesul cyfarfod.
Parhaodd y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw felly drwy gydol y cyfnod. Y tu ôl i gyfarfodydd Fforwm cynhaliwyd cyfarfodydd gydag adrannau amrywiol o fewn y Cyngor i gynllunio ar gyfer y Gymraeg wrth baratoi i gyflwyno i’r Fforwm ac yna yn dilyn y cyfarfod i gynnig ac i ymrwymo i gamau gweithredu newydd.
Ym Medi 2019, cychwynnodd Meri Huws gadeirio cyfarfodydd y Fforwm yn chwarterol, gan ddarparu sefydlogrwydd ac arweiniad i’r trafodaethau a’r cydgynllunio. Bu’n rhaid diwygio cynnwys yr amserlen o ganlyniad i COVID-19 wrth reswm. Roedd y cyfnod clo wedi bwrw nifer fawr o ddarparwyr gwasanaethau a gweithgarwch cymunedol yn drwm ac roedd yn rhaid oedi ar y gwaith craffu ar rai meysydd o ganlyniad. Nid ataliwyd y cyfarfodydd fodd bynnag. Trosglwyddwyd yn syth i blatfform digidol heb golli dim o fomentwm nac ymrwymiad yr aelodau.
Yr amcanion a adnabuwyd ar gyfer y strategaeth oedd:
- Caffael sgiliau
- Cynyddu hyder a defnydd
- Effeithio ar symudiadau poblogaeth
- Ardaloedd blaenoriaeth
- Marchnata a hyrwyddo
Y meysydd gwaith a adnabuwyd ar gyfer cyrraedd yr amcanion
hyn ac a ddarparodd ganolbwynt i weithredu’r Cynllun
Gweithredu ac i gyfarfodydd y fforwm oedd:
- Cyn-oed ysgol
- Cymraeg i Oedolion a Chymraeg yn y Gweithle
- Hamdden
- Ieuenctid
- Tai
- Cynllunio a chymathu mewnfudwyr (ac adroddiad
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen)
- Adfywio
- Sector preifat
- Pobl ifanc a’r byd gwaith
- Ardaloedd blaenoriaeth.
Lluniwyd adroddiad manwl i bwyso a mesur effaith y Strategaeth yn 2022 a daethpwyd i’r casgliad canlynol ar gynnydd a diffyg cynnydd yn erbyn yr amcanion.
Cynnydd da | Diffyg cynnydd |
---|---|
Gwaith marchnata’r Gymraeg yn y maes gofal plant, trosglwyddo iaith ac addysg : creu adnoddau | Dim digon o berchnogaeth o’r adnoddau hyrwyddo a dim prosesau sefydlog a chyson i’w dosbarthu |
Nifer cynyddol o feithrinfeydd preifat cyfrwng Cymraeg | Darpariaeth Gofal Plant / cyn oed ysgol. Cynnydd y lleoliadau Cymraeg wedi darfod, trafferthion recriwtio |
Datblygiadau yn y maes dysgu Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys gweithredu ar-lein, y Ganolfan yn casglu data defnyddiol a phrosbectws ar-lein ar y cyd, yn golygu bod negeseuon yn gallu bod yn fwy effeithiol a mynediad i wersi yn fwy llyfn | Niferoedd dysgwyr Cymraeg i oedolion sy’n byw yn Sir Gâr yn gymharol isel yn dilyn COVID-19 |
Arlwy da o gyrsiau Cymraeg i athrawon ac arbenigedd mewn darpariaeth ddwys gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant | Dim digon o gydgynllunio rhwng y ddarpariaeth gymunedol a gwaith hyrwyddo’r Gymraeg i atgyfnerthu targedau’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (SCGA) |
Arlwy da a mwy cydlynus o gyfleoedd anffurfiol i ddysgwyr | Dim digon o’n hathrawon yn cymryd mantais o’r arlwy dysgu sydd ar gael |
Polisïau cyrff cyhoeddus yn annog datblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Darpariaeth o gyrsiau Cymraeg yn y gweithleoedd amrywiol a phwrpasol | Ymdrechion i hyrwyddo arlwy anffurfiol ar y cyd i ddysgwyr heb gynyddu niferoedd |
Coleg Sir Gâr yn cynyddu nifer y cyrsiau gall myfyrwyr eu dilyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Cydweithio rhwng Coleg Sir Gâr a’r Brifysgol ar ddatblygu llwybrau o astudio pellach i uwch trwy gyfrwng y Gymraeg | Dim digon o gynnydd mewn sgiliau Cymraeg yn y gweithle |
Diffyg data ar bobl ifanc Sir Gâr mewn addysg uwch a phellach sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg |
Cynnydd da | Diffyg cynnydd |
---|---|
Y Mentrau wedi addasu eu ffyrdd o weithredu i ymateb i sefyllfa’r Pandemig. Hyblygrwydd a gwytnwch yn y cyrff sy’n darparu’n gymunedol, e.e. CFfI | Effaith y pandemig ar aelodaeth yr Urdd. Effaith y pandemig ar yr holl sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau i’r cyhoedd |
Canolfan yr Egin yn fan deniadol i ymgynnull, rhyngweithio a defnyddio’r Gymraeg | Effaith y pandemig ar weithgarwch yr Atom |
Sefydlu canolfan newydd gyfoes, ganolog a hyfyw yn Llandeilo yn gyrchfan naturiol i’r Gymraeg | Effaith y pandemig a materion staffio ar ddarpariaeth Menter Gwendraeth Elli, yn enwedig yn Llanelli |
Cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngweithluoedd y Cyngor Sir ac eraill | Diffyg cynnydd mewn gweinyddu yn Gymraeg er mwyn creu gweithleoedd lle mae defnyddio’r Gymraeg yn naturiol, sy’n caniatáu i bobl gynnal eu hyder yn eu sgiliau Cymraeg |
Ymdrechion penodol wedi eu gwneud o fewn y maes hamdden gyda Theatrau Sir Gâr yn darparu llawer mwy o arlwy Cymraeg a chanolfannau hamdden y sir a’r marchnadoedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg | Ymdrechion i ganfod ffyrdd o farchnata gweithgareddau cymunedol Cymraeg ar y cyd ac yn fwy egnïol wedi pylu |
Y gwaith o ddatblygu gallu tiwtoriaid nofio i ddarparu’n Gymraeg a dwyieithog heb olygu cynnydd digonol mewn darpariaeth o wersi nofio Cymraeg. Dim system wedi ei sefydlu sy’n cynnig nac yn darparu gwersi Cymraeg yn ddigon cyson | |
Gwaith Arweinwyr iaith o fewn adrannau ein cyrff cyhoeddus heb ddatblyg |
Cynnydd da | Diffyg cynnydd |
---|---|
Creu’r Pecyn Croeso Diffyg defnydd o’r pecyn croeso. | Diffyg defnydd o’r pecyn croeso |
Cychwyn ar y gwaith o gydlynu ymdrechion datblygu iaith a datblygu economi. Cychwyn cadarn o ran disgwyliadau achyfleoedd ieithyddol ym Mhentre Awel. | Trafferthion recriwtio siaradwyr Cymraeg i’r gweithlu. Pobl ifanc ddim yn gwerthfawrogi mantais eu sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle. |
Polisïau a gweithredoedd yn y maes tai yn cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy, yn ennyn pobl leol i’r ddarpariaeth ac yn lleihau nifer y tai gwag yn y sir gan greu amodau ffafriol i drigolion lleol i aros yn y sir.. | Prosiect y Deg Tref ddim bob amser yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ddatblygu hyfywedd y Gymraeg yn y cymunedau wrth ddatblygu’r economi |
Gwaith cynllunio iaith o fewn proses y CDLI, yn enwedig datblygu methodoleg newydd i fesur effaith defnydd tir ar y Gymraeg. | Diffyg arweiniad cenedlaethol a gwybodaeth gadarn ar effaith adeiladu ar yr iaith Gymraeg o safbwynt niferoedd y lleoliadau a ganiateir ar gyfer adeiladu tai a’u lleoliadau daearyddol. |
Cryfhau’r polisi enwi tai a strydoedd y Cyngor. | Diffyg mcydlyniant (neu gorff arweiniol) ymdrechion i baratoi pobl ifanc y Sir i’r byd gwaith a dwyn perswâd arnynt i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau iaith i’w defnyddio yn y gweithle, a’u hannog i ddatblygu gyrfaoedd mewn meysydd ble mae angen siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu o fewn y sir. |
Sefydlu ac ehangu prosiect Profi gan Fenter Gorllewin Sir Gâr.. | Diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn elfen astudio a chymhwyso prentisiaethau |
Sefydlu darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yr Urdd a meithrin yn y meysydd gofal plant, chwaraeon, ac awyr agored | Diffyg gweithleoedd y Sir i ddarparu a hyrwyddo prentisiaethau cyfrwng Cymraeg |
Cychwyn ar y gwaith o wella darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Sir. | Diffyg corff arweiniol i gydlynu ymdrechion i wella sefyllfa prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sir |
Ymdrechion Coleg Sir Gâr i fagu hyder pobl ifanc yn eu sgiliau Cymraeg o fewn meysydd astudio sy’n arwain at waith lle mae sgiliau Cymraeg yn benodol o angenrheidiol.. | Ariannu Swyddogion Helo Blod Lleol yn dirwyn i ben. |
Creu’r adnodd electronig ‘Y Gymraeg mewn Busnes’, a’i ddosbarthu drwy brosiectau fel rhai Menter a Busnes. Gweithredu nifer o brosiectau penodol i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y sector preifat. |
|
Cyllid datblygu’r economi yn cael ei raeadru at brosiectau penodol i hyrwyddo’r Gymraeg. |
Cynnydd da | Diffyg cynnydd |
---|---|
Denu cyllid i beilota prosiect yn yr Ardaloedd Blaenoriaeth | Cyfnod byr y prosiect peilot |
Cydweithio’r tair Menter ar gyflawni ac adrodd ar y prosiect | Anhawster capasiti’r Mentrau i weithio’n ficro mewn ardaloedd penodol a darparu gweithgarwch ar draws yr ardal hefyd |
Diffyg hyblygrwydd cyrff hyrwyddo’r Gymraeg cenedlaethol i mymateb i ofynion sirol oherwydd cynlluniau a thargedau cenedlaethol | |
Ffocysu ar ardaloedd digon penodol i symbylu newid | |
Gwaith cychwynnol Datblygu’r Gymraeg yn Llanelli: ymdrech i weithredu gyda sail tystiolaeth gadarn a gweithredu’n strategol a phartneriaethol |
Cynnydd da | Cynnydd da |
---|---|
Yr holl adnoddau hyrwyddo’r Gymraeg a grëwyd | Diffyg system effeithiol i ddosbarthu a defnyddio’r adnoddau a grëwyd |
Rhai enghreifftiau da o ddosbarthu’r deunyddiau | Diffyg ymgyrchoedd penodol ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg |
Ymroddiad holl gyrff y Fforwm i drefnu gweithgarwch ar ddyddiau cenedlaethol hyrwyddo’r Gymraeg | Diffyg dylanwad ar gyrff allanol i ddosbarthu deunyddiau hyrwyddo’r Gymraeg |
Ymdrechion i greu sianeli i rannu adnoddau hyrwyddo | Rhai cyrff yn dal i golli cyfle i ddosbarthu adnoddau a grëwyd gan gyrff erail |
Rhaid cofio bod yna waith sylweddol wedi digwydd ers diwedd cyfnod y Strategaeth ddiwethaf yn ogystal, yn enwedig yn narpariaeth gymunedol ardal Llanelli, ac yn ailsefydlu darpariaeth gynhwysfawr i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol wedi COVID-19.
Gwnaed hefyd waith partneriaeth effeithiol i gynyddu ymwneud trigolion y Sir yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu a’i ddatblygu yn Strategaeth Hybu 2023-2028.
Bu’r Fforwm hefyd yn ymdrechu i ddylanwadu ar y meysydd gwaith uchod drwy godi materion gyda chyrff eraill i geisio cael effaith ar yr elfennau o bolisi oedd y tu allan i gyrraedd y cyrff ar y Fforwm Sirol Strategol ar lefel sirol. Llythyrwyd yLlywodraeth a’r Comisiynydd am brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, am weithdrefnau ymgynghori’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, am reoliadau hysbysebu ac, yn fwy diweddar llythyrwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sirol am y Cynllun Llesiant drafft.
Aeddfedodd y Fforwm felly i geisio dylanwadu ar lefel strategol i faterion sy’n effeithio ar y Gymraeg ac fe fydd yn parhau i wneud hyn yn Strategaeth Hybu 2023-28 wrth i faterion godi.