Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28

Nod a gweledigaeth

Nod: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd.

Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd cyfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i gynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.

Er bod aelodau’r Fforwm yn gytûn ynglŷn â pharhau gyda’r un nod i’r cyfnod nesaf o bum mlynedd, nodwyd hefyd bod awydd i newid gêr o safbwynt y nod hwn. Yn dilyn yr holl waith o gydgynllunio, dylanwadu a chydweithio a wnaed yn ystod y pum mlynedd diwethaf a chyn hynny, rydym yn teimlo fod sail ac angen i ni fod yn fwy hyderus wrth drafod y Gymraeg yn y Sir bellach.

Credwn ein bod wedi cyrraedd man yn hanes y Gymraeg yn y Sir lle y dylem symud oddi wrth ‘annog defnydd’ a thuag at ddatgan fod y Gymraeg yn elfen greiddiol o hunaniaeth y Sir, a chroesawu pawb at yr iaith ac at gymuned yr iaith, heb ymddiheuro. Rydym eisiau gweithredu mewn modd sy’n derbyn fod y Gymraeg yn norm yn y Sir ac nid angen cael ei ‘normaleiddio’ bellach. I adlewyrchu hyn, cydluniwyd y weledigaeth ganlynol i lywio’r ymagwedd y byddwn yn ei harddel wrth weithredu’r Strategaeth hon.

 

Gweledigaeth: Rydym eisiau gweld cynnydd yng nghyfran trigolion Sir Gâr sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydym eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr.

Rydym hefyd yn cydnabod y bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn amlygu ardaloedd daearyddol o fewn y sir sydd heb gyrraedd y sefyllfa yma o hyder ieithyddol eto, a bydd ffigurau’r Cyfrifiad newydd yn sbarduno ein hymateb i’r heriau yma. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys y bydd ‘trosglwyddo iaith’ a ‘materion mewnfudo ac allfudo’ yn feysydd y bydd y Strategaeth hon yn eu harchwilio’n fanylach wrth ddadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad
hefyd.

Bydd amcanion sylfaenol Strategaeth Un, megis creu mwy o siaradwyr hyderus, a chynnal defnydd y Gymraeg drwyddi draw yn parhau yn y Strategaeth hon wrth reswm, ond bydd yna bwyslais mwy penodol ar y Gymraeg a’r economi, y gweithlu a’r gweithle gan fod rhain yn themâu lle rydyn ni, fel Fforwm, wedi datblygu dealltwriaeth gliriach o’r modd y mae angen gweithredu er mwyn gwella sefyllfa’r Gymraeg yn y Sir.

Teimla’r Fforwm hefyd fod ‘Marchnata’r Gymraeg’ wedi symud, ymlaen yng nghyfnod y Strategaeth hon. Ymddengys ei fod bellach yn fwy addas i’w drin ymhlyg yn yr amcanion eraill, fel nodwedd o holl waith Strategaeth Dau. Bydd y gwaith o godi statws y Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o elfennau penodol o’r Gymraeg (fel addysg Gymraeg, a’r angen am sgiliau Cymraeg yn y gweithlu) yn cael ei wneud fel rhan greiddiol o gyflawni’r amcanion oll. Fe fydd ymgais hefyd, yn ystod y cyfnod o bum mlynedd nesaf, i nodi cynulleidfaoedd o fewn y sir sydd ddim yn deall arwyddocâd a manteision dwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg fel agwedd sylfaenol ac unigryw ar hunaniaeth a diwylliant ein sir. Byddwn ni’n ceisio cyfleu’r negeseuon hyn mewn ffyrdd newydd ac arloesol.

Fe fydd y Fforwm hefyd yn blaenoriaethu data’r Cyfrifiad, gan ddadansoddi ar lefel gymunedol y tueddiadau mwyaf arwyddocaol ac ymateb drwy gynllunio ar lefel ddaearyddol. Amser a ddengys beth fydd y blaenoriaethau daearyddol newydd ac fe fydd yn rhaid blaenoriaethu’n ofalus er mwyn bod yn realistig am yr hyn a all gael ei gyflawni gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Mae’r Strategaeth hon yn categoreiddio’r is-amcanion yn rhai y dylid rhoi sylw iddynt yn y tymor byr, canolig a hir. Mae angen gwneud hyn er mwyn rhoi cyfeiriad clir a chydnabod nad ydyw’n realistig ceisio cyflawni popeth yr un pryd. Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi maes gwaith i gyfateb â phob is-amcan, a hynny er mwyn gosod cyfeiriad gweithredol clir.

 

Dulliau Gweithredu a monitro’r Amcanion:

Mecanwaith

Gwnaed y rhan fwyaf o waith cynllunio Strategaeth Hybu Dau yng nghyfarfodydd y Fforwm Strategol Sirol. Wedi gwneud gwaith manwl ar asesu llwyddiant Strategaeth Un, cafwyd trafodaethau ar amcanion a blaenoriaethau yn deillio o hynny.

Roedd y gwaith cynllunio hefyd yn cymryd mewnbwn o’r partneriaethau a’r dogfennau isod i ystyriaeth, a rhoddwyd gwagle ar gyfer dadansoddi a chloriannu goblygiadau data Cyfrifiad 2021 yn y Strategaeth yn ogystal, gan nad oedd amseru’r data yn caniatáu ystyriaeth lawn ohonynt wrth lunio Strategaeth Dau.

Fel ar gyfer Strategaeth Un, mae holl gyrff y Fforwm yn gweithredu’r Strategaeth drwy hyrwyddo’r Gymraeg a darparu cyfleoedd i drigolion y Sir ddefnyddio’r Gymraeg. Mae manylder eu darpariaeth yn eu cynlluniau blynyddol a’u strategaeth hwy fel cyrff annibynnol. Mae’r cyrff cenedlaethol sy’n aelodau o’r Fforwm yn gweithredu yn ôl targedau cenedlaethol ar y cyfan, ac er bod eu hamcanion yn alinio’n union gydag amcanion y Strategaeth hon, nid oes llawer o fodd cael mewnbwn i’w darpariaeth ar lefel sirol.

Fodd bynnag, mae cyfarfodydd y Fforwm a’r Strategaeth Hybu hon yn gyfle gwerthfawr i sicrhau ein bod yn cydgynllunio ar lefel sirol o fewn ffiniau’r targedau cenedlaethol hynny. Mae’n rhaid cydnabod bod yna gyrff a phartneriaethau cymunedol sy’n cyfrannu’n anuniongyrchol i’r Strategaeth hon. Mae nifer o gapeli a chorau, neuaddau pentref a chlybiau amrywiol yn darparu cyfleoedd cymdeithasol allweddol Cymraeg heb fod yn cyfrannu’n uniongyrchol i unrhyw strategaeth ehangach.

Er bod gwaith craidd hybu’r Gymraeg yn y Sir yn mynd rhagddo yn unol â chynlluniau cyrff unigol, fe fydd yna Gynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth hon, a fydd yn adnabod camau gweithredu ar gyfer mynd i’r afael ag amcanion y Strategaeth. Dyma fydd yn gyrru’r gwaith yn ei flaen ac fe fydd y Fforwm yn derbyn diweddariadau ar lafar oddi wrth y cyrff sy’n cyfrannu at y pwyntiau gweithredu yma’n chwarterol.

Byddwn yn datblygu fframwaith mesur effaith, sy’n nodi mesuryddion ar gyfer amcanion y Strategaeth.

Fe fydd pob maes gwaith yn cael ei amserlennu i gyfarfodydd y Fforwm yn ei dro ac wrth i’r meysydd gwaith gael sylw yng , nghyfarfodydd y Fforwm Sirol. Bydd pob maes gwaith yn cael ei drafod ddwywaith yng nghyfnod y Strategaeth ac fe fydd y data felly’n cael ei ddiweddaru ddwywaith. Bydd hyn yn galluogi’r Fforwm i dracio cynnydd yn unol â’r amcanion wrth i’r cyfnod o bum mlynedd fynd rhagddo.

Ar ddiwedd y pum mlynedd, fe fydd dadansoddiad manwl o sefyllfa’r Gymraeg yn y Sir yn cael ei baratoi, a fydd yn rhoi gwybodaeth fanwl i ni ar effaith y Strategaeth a’r cynllun gweithredu. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ystadegol o gyfrifiadau ac arolygon cenedlaethol yn ogystal.