Rhagair

 

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn gweithio ar y Strategaeth Fwyd Leol hon ers ychydig dros ddwy flynedd, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn ymgynghoriad â phobl leol a rhanddeiliaid ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

Mae'r strategaeth hon yn cael ei chroesawu ar adeg lle mae'r heriau economaidd, amgylcheddol ac iechyd yr ydym yn eu hwynebu yma yn Sir Gaerfyrddin yn dod yn fwy cyffredin. Dim ond trwy ddod â phobl, busnesau a sefydliadau at ei gilydd mewn cydweithrediad a phartneriaeth y gallwn ddechrau mynd i'r afael â hyn, gyda gweledigaeth a rennir ar gyfer ein System Fwyd Leol.

Fel strategaeth newydd, trwy fod yn uchelgeisiol ac yn benodol, rydym yn gobeithio y bydd gweithredu wedi'u targedu yn arwain at effeithiau a chanlyniadau cadarnhaol i Gymunedau ledled y sir.” Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin,

Y Cynghorydd 

Linda Evans