Yn yr adran hon



Datgloi Nifer o Ganlyniadau Drwy Fwyd

Mae Strategaeth Fwyd Sir Gaerfyrddin yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ddefnyddio bwyd fel lifer ar gyfer twf economaidd, gwytnwch a llesiant. Drwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cefnogi cynhyrchwyr a buddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy, mae'n darparu manteision mesuradwy i swyddi, sgiliau a chyfoeth cymunedol.

Mae'r camau hyn yn cyd-fynd â'n Nodau Llesiant ar gyfer Sir Gaerfyrddin ffyniannus, gwydn a chydlynol, ac yn hyrwyddo gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol(Cymru) 2015 gan gynnwys Cymru Ffyniannus, Cymru Wydn a Chymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang.

Mae'r strategaeth hefyd yn gyrru canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol - gan hyrwyddo cynhyrchu carbon isel, adfer bioamrywiaeth a lleihau gwastraff bwyd, wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy well mynediad at fwyd lleol, maethlon. Mae'n cefnogi Cymru Iachach a Chymru Fwy Cyfartal, gan wneud bwyd yn offeryn ymarferol ar gyfer cyflawni newid ataliol hirdymor ar draws llesiant yr economi, yr amgylchedd a'r gymuned.

 

Canlyniadau Amgylcheddol

Ôl troed carbon ac amgylcheddol is

Llai o efaith/ôl-troed byd-eang yn sgil nwyddau sy’n dod i mewn

Lleihau'r risg o newid yn yr hinsawdd drwy addasu

Gwell cadwraeth ac adfywio adnoddau naturiol

Canlyniadau Economaidd

Llwybrau mwy sefydledig i yrfaoedd ac entrepreneuriaeth y sector bwyd

Mwy o yrfaoedd a thwf busnes mewn sectorau bwyd cysylltiedig

Mwy o bobl yn cael eu cadw mewn gyrfaoedd mewn cymunedau gwledig a threfol

Mwy o fuddsoddiad trwy gylchrediad economaidd, mwy o gyfoeth wedi'i ymgoffori mewn cymunedau

Canlyniadau Cymdeithasol ac Iechyd

Gwell canlyniadau iechyd a lleihad yn y risg o glefyd sy'n gysylltiedig â diet

Llai o bobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd

Dull mwy targedig o wella gwytnwch cymunedol trwy bartneriaethau ffurfiol

Gwell cydnabyddiaeth ddiwylliannol ac integreiddio Cymdeithasol cymunedau

Mwy o gynrychiolaeth gymunedol ac ecwiti cymdeithasol ar draws y system fwyd