Gwerthoedd Craidd ac Amcanion

Gwerthoedd Craidd

System Bwyd Sir Gaerfyrddin sy'n cynhyrchu, hyrwyddo a darparu bwyd iach a chynaliadwy ar gyfercenedlaethau'r dyfodol.

Blaenoriaethau Allweddol:

  • Hygyrch
  • Iach
  • Ffyniannus
  • Ymrwymedig
  • Cynaliadwy

 

Amcanion

Bwyd ar gyfer Iechyd y Cyhoedd
Yr amgylchedd bwyd yn y cartref, y cyhoedd a'r gymuned.

Darpariaeth Sector Cyhoeddus
Caffael Bwyd Cynaliadwy ac Addysg.

Economi Bwyd Lleol
Gyrfaoedd a Bywoliaethau'r Sector Bwyd a Ffermio Cynaliadwy..

 

 

Bwyd ar gyfer Iechyd y Cyhoedd

Cenhadaeth

‘Bod gan Sir Gaerfyrddin gyfan fynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy.’

Targedau

Sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin yn cael mynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy erbyn 2035.*dinnir mynediad fel sgiliau/gwybodaeth, fforddiadwyedd a'r hyn sydd ar gael.

Dileu’r angen ‘nad yw’n argyfwng’ am fanciau bwyd erbyn 2040.

Lleihau'n sylweddol faint o fwydydd wedi'u prosesu a bwydydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr (HFSS) sy'n cael eu bwyta a chynyddu faint o ffrwythau a llysiau sy'n cael eu bwyta.

 

Darpariaeth Sector Cyhoeddus

Cenhadaeth

‘Bod holl wasanaethau arlwyo, addysg a darpariaeth y Sector Cyhoeddus yn cydweithio i baratoi, gweini a hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy’

Targedau

Bod 30% o'r bwyd sy'n cael ei gaffael yn gyhoeddus yn tarddu o gynhyrchwyr lleol a Chymreig sydd wedi'u hachredu o ran bwyd organig neu gynaliadwyedd erbyn 2030.

Bod lleoliadau addysg yn cynnwys Llythrennedd Bwyd fel rhan o Gamau Cynnydd 1–5 erbyn 2035.

Lleihau ôl troed *amgylcheddol caffael bwyd y sector cyhoeddus 75% erbyn 2035.

Bod Sir Gaerfyrddin yn mabwysiadu labeli Goleuadau Traffig Iechyd mewn lleoliadau’r Sector Cyhoeddus erbyn 2035
*cylch oes llawn bwyd, o gynhyrchu i wastraff.

 

Yr Economi Fwyd Leol

Cenhadaeth

‘Datblygu economi fwyd leol ffyniannus, arloesol a chydnerth sy’n cadw gwerth’

Targedau

Gweithio i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn y sector amaethyddol (cynhyrchu bwyd cynradd) erbyn 2030.

Cynyddu swyddi sector bwyd Sir Gaerfyrddin sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol erbyn 2035.

Cynyddu nifer y Mentrau Bwyd a Chymdeithasol Cymunedol, wedi'u gwasgaru'n deg ar draws y sir.