Rhif neu fathemateg
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/11/2025
Mae plant yn dysgu sgiliau rhif ar gyflymderau gwahanol. Bydd rhai plant yn cael anhawster arbennig gyda dysgu sgiliau, cysyniadau a ffeithiau o ran rhifau. Weithiau gelwir hyn yn Dyscalculia.
Efallai y bydd ganddynt broblemau gyda:
- dilyn dilyniannau
- trefnu gofod
- adnabod patrymau
- darlunio yn y meddwl
- amcangyfrif
Efallai y byddant yn:
- cael trafferth 'gweld' bod pedwar gwrthrych yn 4 heb gyfrif
- cael trafferth symud y tu hwnt i gyfrif fesul 1
- dibynnu ar ddefnyddio eu bysedd/blociau
- ei chael hi'n anodd tynnu allan oherwydd bod angen cyfrif yn ôl a gallant golli trac
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
- Mae angen addysgu sgiliau rhif yn benodol i blant â phroblemau penodol gyda mathemateg.
- Mae angen i dasgau ganolbwyntio ar y dysgwr, gan ddefnyddio adnoddau amlsynhwyraidd a chael eu cwblhau ar gyflymder y plentyn ei hun.
- Weithiau bydd plant yn gweithio mewn grwpiau bach, efallai gyda Chynorthwyydd Addysgu, ar ddal i fyny gyda’u mathemateg.
Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwyr gyda mathemateg neu weithio gyda rhifau.
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.
Athrawon Ymgynghorol: Bronwen Walters neu Vicki Smith e-bost ALNQueries@sirgar.gov.uk ffôn: 01267 24646
