Y gallu i ddysgu
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/11/2025
Mae plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymderau gwahanol, ac mae pob unigolyn yn unigryw. Mae gan bob un ohonom gryfderau a gwendidau gwahanol wrth ddysgu. Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael mwy o anhawster na'u ffrindiau o ran dysgu. Os yw plant a phobl ifanc dair blynedd neu fwy y tu ôl i'r lefelau disgwyliedig, ar ôl i athrawon roi cynnig ar wahanol ffyrdd o helpu, gellir galw hyn yn Anawsterau Dysgu Cymedrol.
Gall plant a phobl ifanc ag Anawsterau Dysgu Cymedrol gael problemau gyda:
- Sgiliau llythrennedd sylfaenol
- Sgiliau rhifedd sylfaenol
- Dealltwriaeth o gysyniadau newydd
- Sgiliau gwrando/talu sylw
- Cymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod i sefyllfaoedd eraill
Yn aml, bydd ganddynt hunan-barch isel, lefelau isel o ganolbwyntio a chymhelliant isel. Efallai y byddant yn gwrthod rhoi cynnig ar waith newydd oherwydd eu bod yn credu y byddant yn methu cyn iddynt ddechrau. Mae angen cymorth arnynt i gael mynediad i'r cwricwlwm.
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
- Gwahaniaethu tasgau – eu gwneud yn symlach
- Cynnig gwahanol ffyrdd o gofnodi gwybodaeth, fel lluniau wedi'u labelu, diagramau neu siartiau llif
- Gweithgareddau amlsynhwyraidd
- Rhannu dysgu yn gamau bach
- Helpu plant i drefnu eu gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio fframiau ysgrifennu
- Caniatáu amser ychwanegol i gwblhau tasgau
- Cadw cyfarwyddiadau'n fyr ac yn glir
- Canmol cyflawniadau
Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwyr i ddysgu.
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.
Athrawes Ymgynghorol: Tracey Bevan neu Hayley McClelland, e-bost ALNQueries@sirgar.gov.uk ffôn 01267 246466
