Ceisiadau Cludiant o'r Tu Allan i'r Sir

Os yw dysgwr yn dymuno mynychu ysgol y tu allan i Sir Gaerfyrddin, rhaid iddo wneud cais am gludiant drwy'r cyngor y mae'n talu treth gyngor iddo. Bydd hyn yn golygu dilyn canllawiau a phrosesau ymgeisio penodol y cyngor.

 

 

Ymgeisio Ar-lein: Llenwch y ffurflen gais ar ein gwefan drwy glicio ar y botwm "YMGEISIO AR-LEIN".

Er mwyn sicrhau bod cludiant wedi'i drefnu i'r dysgwr erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd, cyflwynwch eich cais rhwng 1 Tachwedd ac 1 Mehefin. Os byddwch yn cyflwyno eich cais ar ôl mis Mawrth, ni allwn warantu y bydd yn cael ei brosesu mewn pryd ar gyfer diwrnodiau pontio'r haf.


Gwneud cais i'r Awdurdod Cywir: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i'r awdurdod lleol lle rydych chi'n byw.

Asesu: Bydd ein Huned Cludiant Teithwyr yn adolygu eich cais ar ôl inni gadarnhau lle'r dysgwr yn yr ysgol. Byddwn yn gwirio i sicrhau bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwystra, ac yn gwirio'r wybodaeth hon gyda System Canolfan Athrawon y Cyngor.

Cymhwystra: Byddwn yn rhoi gwybod ichi a yw'r dysgwr yn gymwys i gael cludiant ai peidio.
Trefniadau Cludiant: Erbyn diwedd mis Awst byddwn yn rhoi gwybod ichi am y trefniadau cludiant ac yn anfon pàs bws atoch (os yw’n berthnasol)

Ceisiadau Hwyr: Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, ni allwn warantu y bydd y cludiant yn barod erbyn mis Medi. Bydd ceisiadau hwyr yn cael eu prosesu ar ôl y dyddiad cau; fodd bynnag, efallai na fydd cludiant ar gael o'r safle bws a ffafrir gan y dysgwr neu'r safle bws agosaf, ac efallai na fydd ar gael tan ar ôl hanner tymor mis Hydref.

YMGEISIO AR-LEIN

Ymgeisio ar-lein: Llenwch y ffurflen gais ar ein gwefan drwy glicio ar y botwm "Ymgeisio Ar-lein".

Gwneud cais i'r Awdurdod Cywir: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i'r awdurdod lleol lle rydych chi'n byw.

Asesu: Bydd ein Huned Cludiant Teithwyr yn adolygu eich cais. Byddwn yn gwirio i sicrhau bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwystra, ac yn gwirio'r wybodaeth hon gyda System Canolfan Athrawon y Cyngor.

Cymhwystra: Byddwn yn rhoi gwybod ichi a yw'r dysgwr yn gymwys i gael cludiant ai peidio.

Trefniadau Cludiant: Byddwn yn rhoi gwybod ichi am y trefniadau trafnidiaeth ac yn anfon pàs bws atoch (os yw'n berthnasol) cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Ymgeisio Ar-lein

 

Os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad neu'n symud ysgol, bydd angen ichi ail-ymgeisio am gludiant ysgol am ddim. Mae cymhwystra yn seiliedig ar y ffaith bod y dysgwr yn mynd i'w ysgol dalgylch neu i'w ysgol agosaf, ac ar y pellter rhwng y cartref a'r ysgol. Os oes gan y dysgwr bàs bws ar hyn o bryd, dylech ei ddychwelyd er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich cais newydd.

cymhwyso

Os yw'r dysgwr yn aros yn yr un ysgol ac yn byw yn yr un cyfeiriad:

Llenwch y Ffurflen Gyswllt, gan gadarnhau y bydd yn dychwelyd i'r 6ed dosbarth

Os yw'r dysgwr yn symud i ysgol wahanol ac yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer cludiant ysgol:

Dylid cyflwyno cais newydd.

YMGEISIO AR-LEIN

Rydym yn annog dysgwyr i roi gwybod inni os ydynt yn dychwelyd i'r 6ed dosbarth cyn gynted ag y byddant yn gwybod hynny.

Cysylltwch â'r coleg rydych chi'n bwriadu ei fynychu yn uniongyrchol i wneud cais am gludiant.

Coleg Sir Gâr

Coleg Sir Benfro

Coleg Gŵyr Abertawe