Nid oes gan fy Nysgwr hawl i Gludiant Ysgol am ddim: Beth nesaf?

Os canfyddir nad yw'r dysgwr yn gymwys i gael cludiant am ddim, gellir archwilio sawl opsiwn a strategaeth i sicrhau y gall fynd i'r ysgol er hynny. Dyma atebion posibl:

 

 

Ymchwiliwch i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus lleol sy'n gwasanaethu'r ysgol. Mae llawer o ddarparwyr trafnidiaeth yn cynnig prisiau gostyngol i fyfyrwyr, a all olygu bod cymudo yn fwy fforddiadwy. Gwiriwch amserlenni bysus a threnau lleol am ragor o wybodaeth.

Gwerthuswch pa mor ddiogel ac ymarferol yw defnyddio dulliau teithio llesol i gyrraedd yr ysgol. Gall annog dysgwyr i ddefnyddio llwybrau diogel a sefydledig feithrin annibyniaeth a hybu ffordd iach o fyw.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu Polisi Seddau Sbâr ar gyfer cludiant i'r Ysgol. Pwrpas y polisi yw cynnig opsiynau teithio ychwanegol i ddysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim.
Sut mae'n gweithio:

  •  Cymhwystra: Mae seddau gwag ar gael i ddysgwyr sy'n byw mwy nag 1 filltir i ffwrdd o'u hysgol agosaf neu ysgol eu dalgylch.
  • Blaenoriaeth: Rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau am ddim gael y seddau gwag hyn. Ar ôl hynny, ystyrir dysgwyr iau ar gyfer unrhyw seddau sy'n weddill.

Sylwer: NI fydd seddau sbâr yn cael eu darparu os oes gwasanaeth ysgol presennol y mae'n rhaid talu amdano yn gweithredu rhwng y cartref a'r ysgol, neu os oes math arall o drafnidiaeth gyhoeddus addas ar gael.

Rhaid defnyddio'r ffurflen ar-lein i wneud ceisiadau am seddau sbâr a rhaid ei chyflwyno i'r Tîm Teithiau Dysgwyr erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener olaf mis Medi. Caiff ceisiadau eu gwerthuso ar sail meini prawf penodol sy'n rhoi ystyriaeth i gapasiti sbâr sydd ar gael ar ddydd Gwener cyntaf mis Hydref. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn eu pasys teithio yn yr wythnosau'n dilyn yr asesiad. Sylwch fod angen ichi gyflwyno ceisiadau am y Cynllun Seddau Sbâr bob blwyddyn. Fe'ch anogwn i adolygu'r holl wybodaeth berthnasol yn ofalus cyn cyflwyno eich cais. Er y ceir cyflwyno ceisiadau hwyr, bydd y ceisiadau hynny'n olaf yn nhrefn blaenoriaeth, ac yn cael eu hadolygu ar ddechrau tymor y Gwanwyn a'r Haf.

Polisi sedd wag

Cais sedd wag