Peilot Hunanwerthuso RVE

Peilot Hunanwerthuso RVE – 2 Mehefin 2026

Yn ystod tymor yr haf, cymerodd chwe ysgol Sir Gaerfyrddin ran mewn gweithdy peilot hunanwerthuso. Ffocws y diwrnod oedd datblygu dealltwriaeth a rennir o ystyr RVE o ansawdd uchel yn ymarferol, ac edrych ar sut y gall ysgolion gryfhau eu cwricwlwm RVE i gefnogi dilyniant dysgwyr o 3 -16 oed.

Profodd y gweithdy i fod yn effeithiol iawn, gan greu deialog broffesiynol werthfawr a helpu ysgolion i fyfyrio ar eu darpariaeth bresennol a'u datblygiad yn y dyfodol. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, bydd y fframwaith hunanwerthuso yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghynhadledd RVE Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener, 2 Hydref.

Dywedodd un arweinydd RVE ysgol uwchradd;

Roedd y peilot hunanwerthuso yn gadarnhaol iawn ac yn werth chweil - rhyw fath o daith fyfyriol trwy'r hyn y mae disgyblion yn ei ennill ond hefyd yr hyn y gellir ei wneud neu ei ddatblygu at 'ddibenion cael mwy o effaith."