Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol

Mae'r datganiad hwn yn pennu polisi cyffredinol Cyngor Sir Caerfyrddin o ran darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol/coleg. Darperir cludiant yn unol â gofynion statudol Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae’r polisi hwn yn gywir ar 1 Hydref 2024. Mae’r polisi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd, ac fe ymgynghorir ynghylch unrhyw ddiwygiadau.

1 - Y Polisi cyffredinol o ran darparu cludiant am ddim i'r ysgol

Bydd disgyblion yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol os ydynt yn bodloni'r HOLL feini prawf canlynol:

  • yn breswylwyr Sir Gaerfyrddin (h.y. caiff y Dreth Gyngor ar gyfer y cyfeiriad cartref cofrestredig ei thalu i Sir Gaerfyrddin). Mae'r “cyfeiriad cartref” fel y'i diffinnir yn y llyfryn “Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni” a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod, ac mae “rhiant” fel y'i diffinnir yn Adran 576 o Ddeddf Addysg 1996. Sylwer bod y cyfeiriad cartref cofrestredig a chyfrifoldeb rhiant yn cael eu gwirio yn ystod y cam ymgeisio yn ôl y cofnodion a gedwir gan yr ysgol a'r Awdurdod Addysg.
  • o oedran ysgol gorfodol.
  • yn mynychu ysgol agosaf neu ysgol ddynodedig yr Awdurdod Lleol; sef ysgol "ddynodedig" cyfeiriad cartref cofrestredig y disgybl; yr ysgol “agosaf” yw'r ysgol addas agosaf fel y penderfynir gan yr Awdurdod Addysg ac mae'n cael ei mesur yn ôl y llwybr gyrru byrraf sydd ar gael fel y'i mesurir gan system fapio y Cyngor, ac yn cynnwys ysgolion mewn siroedd cyfagos os yw'n berthnasol.
  • yn byw dros y “pellter statudol” o'r ysgol. Diffinnir y “pellter statudol” fel a ganlyn: 2 filltir (3.218 cilometr) ar gyfer ysgolion cynradd a 3 milltir (4.828 cilometr) ar gyfer ysgolion uwchradd, a chaiff ei fesur yn ôl y llwybr agosaf sydd ar gael o'r pwynt agosaf lle bydd cyfeiriad yr ymgeisydd yn cysylltu â'r briffordd gyhoeddus i'r fynedfa agosaf i'r ysgol. Er y cyfeirir weithiau at y pellter fel “pellter cerdded”, nid yw hynny'n awgrymu bod disgwyl i'r dysgwr gerdded o reidrwydd, ond o fewn y pellter hwn disgwylir i riant/gwarcheidwad wneud ei drefniadau ei hun ar gyfer taith y dysgwr i'r ysgol ac yn ôl adref, ar ei gost ei hun.

Mae’n BOSIBL hefyd y darperir cludiant ar gyfer disgyblion sydd wedi cyrraedd yr oedran ysgol gorfodol mewn amgylchiadau penodol am y rhesymau canlynol:

  • Diogelwch Ffyrdd, lle nad oes llwybr cerdded i'r ysgol. Asesir y llwybr cerdded rhwng cyfeiriad y cartref a’r ysgol yn unol â chanllawiau "Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)" ynghylch asesu risg llwybrau cerdded i ysgolion.
  • Cyflwr meddygol. Gellir gwneud trefniadau cludiant unigol lle mae cyflwr meddygol dysgwr naill ai yn ei rwystro rhag gwneud defnydd o'r cludiant arferol neu lle mae ei gyflwr yn ei rwystro rhag cerdded y “pellter cerdded” diffiniedig. Mae'n rhaid i bob cais am gymorth ar sail feddygol gael ei ategu gan dystysgrif feddygol neu ddatganiad wedi'i lofnodi gan ymarferydd meddygol a rhaid iddo nodi'n glir nad yw'r dysgwr yn gallu cerdded y “pellter statudol” penodol i'r ysgol. Bydd pob datganiad yn amodol ar gyfnod adolygu a bennir gan y cyflwr ac y cytunwyd arno gyda'r rhiant pan wnaed y dyfarniad cychwynnol.
  • Dysgwyr ag anawsterau dysgu/anableddau - gweler pwynt 4 isod.
  • Dysgwyr sy'n newid preswylfa yn ystod y blynyddoedd TGAU. Rhoddir cymorth os bydd dysgwr yn newid preswylfa yn ystod eu blynyddoedd TGAU (ar ôl gwyliau hanner tymor yr Hydref ym mlwyddyn gyntaf yr astudiaethau TGAU - blwyddyn 10) ar yr amod bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf o ran oedran a phellter y cartref newydd, a’i fod, cyn newid ei breswylfa yn mynychu'r ysgol agosaf neu ysgol ddynodedig yr Awdurdod Lleol. Byddai cludiant yn cael ei gynnig tan ddiwedd blwyddyn 11 yn unig, ar y cerbyd agosaf sydd ar gael ac o'r man casglu agosaf sydd ar gael.
  • Credoau crefyddol. Caiff cludiant ei ddarparu fel arfer os bydd rhieni yn dewis anfon dysgwyr i ysgol wirfoddol a gynorthwyir am resymau crefyddol, ar yr amod fod y dysgwr yn bodloni’r meini prawf o ran oedran ac isafswm pellter teithio, ac nad ydynt yn byw fwy nag 8 milltir o'r ysgol. Mae trefniadau ychwanegol ar gyfer Ysgol Sant Ioan Llwyd, Llanelli - gofynnwch i'r Uned Cludiant Teithwyr am wybodaeth.

Cyfrifoldeb rhieni yw trefniadau a chostau cludiant o'r cartref i'r ysgol ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim. Cynghorir rhieni i gysylltu â'r Awdurdod cyn penderfynu ar eu dewis ysgol er mwyn gweld a yw’r disgybl yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim.

Ar sail cyfeiriad cartref y disgybl yn unig y caiff ceisiadau eu hasesu (sef y cyfeiriad a gofrestrwyd gyda'r ysgol a'r Awdurdod Lleol) a dim ond o’r cyfeiriad hwnnw y darperir cludiant fel arfer. Mae rhieni'n gyfrifol am roi gwybod i'r Uned Cludiant Teithwyr cyn unrhyw newid cyfeiriad, fel y gellir ailasesu cymhwysedd ar gyfer cludiant o'r cyfeiriad newydd.

NID yw hawl i gael cludiant yn cael ei throsglwyddo'n awtomatig gydag unrhyw newid cyfeiriad, hyd yn oed os yw'r cludiant wedi'i ddarparu drwy'r broses apelio.

Mae’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer dysgwyr sy'n byw mewn mwy nag un cyfeiriad, e.e. trefniadau rhannu gofal. Rhaid i drefniadau o'r fath fod yn barhaol a sefydlog a dim ond ar gyfer y cyfnodau hynny pan fydd dysgwr yn cael addysg a hyfforddiant (nid mewn achosion lle bydd dysgwr yn treulio penwythnos gyda rhiant mewn man gwahanol i’w gyfeiriad yn ystod yr wythnos ysgol). Gellir cael rhagor o gyngor a ffurflenni cais ar gyfer cludiant o ddau gyfeiriad oddi wrth yr Uned Cludiant Teithwyr.

Caiff mwyafrif y disgyblion sydd â hawl i gael cludiant ysgol am ddim eu cludo ar gerbydau sydd wedi’u contractio’n benodol i'r Awdurdod. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gwneir defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Mewn rhai amgylchiadau efallai y rhoddir lwfans milltiroedd neu grant ar gyfer rhan o’r daith neu’r daith gyfan (gweler pwynt 3 isod).

Nid yw bob amser yn bosibl trefnu bod llwybrau’r cerbydau yn pasio’n agos at gartrefi’r holl ddisgyblion, ac efallai na fydd bob amser yn bosibl trefnu bod disgyblion yn mynd ar y llwybr bws agosaf at eu cyfeiriad cartref. Mae rhieni felly yn gyfrifol am wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer cludo dysgwyr yn ôl ac ymlaen o’r arhosfan ddynodedig. Fel arfer ni fydd y pellter hwn yn fwy na 1.5 milltir.

Bydd cludiant yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau a diwedd pob diwrnod ysgol yn unig.

Mae'r ddarpariaeth o gludiant am ddim yn cael ei gwneud ar y ddealltwriaeth y bydd disgyblion yn ymddwyn mewn modd sydd â pharch tuag at gyd-ddisgyblion, eiddo a diogelwch pawb. Rhaid i bob un sy’n ymwneud â darparu a defnyddio cludiant ysgol gadw at y “Côd Ymddygiad ar gyfer Teithio o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg”. Gellir cael copïau o’r côd ar: Cludiant Ysgol - Cyngor Sir Caerfyrddin neu drwy wneud cais i’r Awdurdod.

2 - Trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn cael cludiant am ddim

Mae'r Awdurdod yn annog dulliau cynaliadwy o deithio i'r ysgol ac oddi yno. Er enghraifft, bydd yr Awdurdod yn annog dysgwyr i gerdded, beicio neu deithio ar fws yn hytrach nag mewn car preifat lle bo hynny'n bosibl. Diffinnir dulliau cynaliadwy o deithio fel rhai y bydd yr Awdurdod yn ystyried eu bod yn gwella llesiant corfforol y rhai sy'n eu defnyddio neu lesiant amgylcheddol holl ardal yr Awdurdod Lleol neu ran ohoni.

Gellir cael gwybodaeth am fysiau lleol a gwasanaethau trên gan wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio 0800 464 0000. Mae gwybodaeth a chyngor ar gael hefyd ar wefan Cyngor Sir neu drwy ffonio 01267 228326. Mae'r Awdurdod yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn annog darpariaeth addas ar gyfer teithio o'r cartref i'r ysgol lle bo hynny'n bosibl.

Mae gan yr Awdurdod hefyd nifer fach o seddau gwag ar gael ar rai cerbydau contract y gellir eu cynnig dros dro i'r rheiny sy'n talu ffi weinyddol fel consesiwn i ddysgwyr sy'n byw o fewn y “pellter statudol” ac sydd heb fedru cael trafnidiaeth gyhoeddus, ar yr amod bod y pellter i'r ysgol yn fwy na milltir a bod y dysgwr yn mynychu ysgol ddynodedig yr Awdurdod Lleol neu’r ysgol agosaf. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu faint o seddau gwag i’w cynnig a bydd yn rhoi blaenoriaeth, yn y lle cyntaf, i ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim. Bydd unrhyw seddau sydd dros ben wedyn ar gael i ddisgyblion eraill. Cynigir pob sedd yn ôl oed gyda’r plant ieuengaf yn cael blaenoriaeth. Bydd yr Awdurdod yn tynnu unrhyw gonsesiwn yn ôl os bydd angen drwy roi saith niwrnod o rybudd ysgrifenedig. Rhaid gwneud cais am seddau gwag erbyn y dyddiad a bennir (fel arfer cyn diwedd Medi) a phenderfynir ar y ceisiadau ym mis Hydref bob blwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth am y polisi hwn ar gael ar-lein.

3 - Talu treuliau teithio

Mewn rhai achosion mae’n bosibl na fydd trafnidiaeth gyhoeddus addas neu gerbydau contract ar gael ar gyfer taith gyfan neu ran o daith y dysgwr. Yn yr amgylchiadau hyn bydd yr Awdurdod yn cynnig lwfans milltiroedd sefydlog neu grant fel y gall rhiant neu warcheidwad gludo’r disgybl i'r ysgol ac yn ôl (neu i fan priodol i gwrdd â cherbyd addas os yw’r pellter hwnnw’n fwy na 1.5 milltir). Dim ond os yw’r dysgwr yn gymwys i gael cludiant am ddim yn unol â'r polisi hwn, ac na all yr Awdurdod ddarparu cludiant o'r fath, y telir treuliau teithio.

4 - Dysgwyr ag anawsterau dysgu/anableddau

Bydd dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn destun i'r meini prawf cymhwyso a ddisgrifir yn adran 1 uchod. Fodd bynnag, gellir darparu cludiant hefyd i ddysgwyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hyn ond lle mae'r gofyniad am gludiant wedi'i nodi fel rhan o Ddatganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod neu lle mae'r dysgwr yn destun y weithdrefn asesu statudol, oherwydd anawsterau dysgu y mae'r Awdurdod Lleol yn ystyried bod cludiant felly yn "angenrheidiol".

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu i benderfynu ar y math a natur y cludiant arbenigol sydd ei angen, os o gwbl. Caiff yr asesiadau hyn eu hadolygu bob blwyddyn.

5 - Ymholiadau a chwynion

Mae rhagor o wybodaeth am y polisi hwn ar gael gan Uned Cludiant Teithwyr yr Awdurdod ym Mharc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ.

01267 228313

Dylai cwynion ynghylch gweithrediad y gwasanaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol gael eu gwneud i Dîm Rhwydwaith yr Uned Cludiant Teithwyr ym Mharc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ.

01267 228326

Caiff rhieni sydd wedi cyflwyno cais am gludiant am ddim ac wedi cael eu gwrthod apelio yn erbyn y penderfyniad, a byddant yn cael gwybod am y broses apelio gyda’r hysbysiad ysgrifenedig yn gwrthod y cais.

6 - Sut mae gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol

Rhaid i'r holl ddysgwyr sy’n gymwys i gael cludiant am ddim wneud cais ysgrifenedig i'r Awdurdod gan ddefnyddio'r ffurflen gais a gyhoeddwyd. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am gludiant o leiaf 15 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf y mae angen y cludiant, neu erbyn 1 Mehefin lle mae angen y cludiant ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod yn anfon Cerdyn Teithio atoch. Gyda’r Cerdyn Teithio rhoddir manylion am y llwybr bws i’w ddefnyddio, ynghyd â chopi o'r “Côd Ymddygiad” y mae'n rhaid cadw ato bob amser. Bydd y Cerdyn Teithio fel arfer yn cael ei gyhoeddi o fewn 15 diwrnod ar ôl gwneud y cais, er y bydd yr amserlen hon yn cael ei hymestyn yn achos ceisiadau a wnaed rhwng Mehefin a Medi, ac ni fyddant yn gymwys i ddysgwyr sy'n trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (gweler isod).

Mae'n rhaid i ddysgwyr sy'n trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd gyflwyno'r cais priodol am gludiant erbyn 28 Tachwedd 2025. Bydd y ceisiadau'n cael eu gwirio i gadarnhau bod y dysgwr yn mynychu’r ysgol agosaf neu ysgol ddynodedig y dalgylch. Os caiff hynny ei gadarnhau caiff y cais ei asesu wedyn gan yr Uned Cludiant Teithwyr i benderfynu ar yr hawl i gludiant am ddim. Bydd yr Uned Cludiant Teithwyr yn cadarnhau neu’n gwrthod y cais am gludiant am ddim erbyn Mehefin, a chaiff Cardiau Teithio eu hanfon at ddysgwyr cymwys ym mis Awst.

Os bydd y Cerdyn Teithio yn cael ei golli neu ei ddifrodi, rhaid archebu cerdyn bws newydd ar-lein am ffi o £6.00.

7 - Amodau defnyddio cardiau teithio

Rhaid cyflwyno cardiau teithio i'r gyrrwr bws ar ddechrau pob taith a wneir. Gellir gwrthod cludiant os na ddangosir y cerdyn. Nid oes modd trosglwyddo cardiau teithio, ac maent yn ddilys ar gyfer y dysgwr a enwir ar y cerdyn yn unig ac ar gyfer y daith/teithiau a ddangosir ar y cerdyn. Mae camddefnyddio neu ddefnydd twyllodrus o Gerdyn Teithio yn cael ei drin yn ddifrifol iawn, a gall olygu bod y dysgwr yn destun gweithdrefn ddisgyblu'r ysgol/coleg yn ogystal â cholli ei hawl i deithio.

Os bydd unrhyw fanylion yn newid o'r ffurflen gais wreiddiol, mae'n rhaid i chi gysylltu ag Uned Cludiant Teithwyr yr Awdurdod ar unwaith, fel y gellir newid y manylion ac ailasesu cymhwysedd i dderbyn cludiant os oes angen. Os oes angen Cerdyn Teithio newydd o ganlyniad i newid o'r fath, mae'n rhaid dychwelyd y cerdyn presennol ynghyd â'r cais.

Os nad oes angen y Cerdyn Teithio arnoch mwyach, anfonwch ef yn ôl i Uned Cludiant Teithwyr yr Awdurdod oherwydd gall fod eraill yn awyddus i ddefnyddio’r sedd wag.

8 - Cludiant i ddysgwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol

Mae gan yr Awdurdod bolisi dewisol i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol ond dan 19 oed (neu'r rheiny sydd wedi cael eu pen-blwydd yn 19 oed ond wedi dechrau'r cwrs pan oeddent dan 19 oed ac wedi parhau i ddilyn y cwrs hwnnw) cyn belled â'u bod yn mynychu ysgol agosaf neu ddynodedig yr Awdurdod Lleol neu'r campws coleg agosaf a'u bod yn byw mwy na'r pellter statudol sef 3 milltir o'r sefydliad hwnnw. Sylwch: ni wneir darpariaeth preswyliaeth ddeuol ar gyfer dysgwyr dros yr oedran ysgol gorfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig cymorth ariannol ar gyfer/tuag at gostau cludiant myfyrwyr sy'n derbyn addysg ôl-16. Cyflwynwyd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg i gynnig cymhelliad ariannol i bobl ifanc o gartrefi incwm isel barhau ag addysg amser llawn neu hyfforddiant y tu hwnt i'r oedran addysg gorfodol. Mae'r cymorth ar gael i ddysgwyr sy'n mynychu ysgol neu goleg. Mae Grant Dysgu Cynulliad Llywodraeth Cymru ar gael i ddysgwyr 19 oed a hŷn mewn addysg bellach. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru'n darparu cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n wynebu caledi a hynny drwy'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn sy'n cael ei dosbarthu i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.

Mae'r Awdurdod wedi penderfynu adolygu darpariaeth cludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16 yn y blynyddoedd i ddod, yn amodol ar ymgynghoriad.