Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn nodi Trefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyferblwyddyn academaidd 2026/27.

Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgol 1998 yn neilltuo swyddogaethau i Awdurdodau Derbyn, Paneli Apêl a’r Fforwm Derbyn mewn perthynas â derbyn disgyblion i'r Ysgol.

Mae dyletswydd statudol ar bob un o'r cyrff hyn i weithredu yn unol â'r Côd Derbyn i Ysgolion a'r Côd Apelau Derbyn i Ysgolion.

Yn unol â’r Côd Derbyn Plant i Ysgol mae’r Awdurdod am gael barn yr holl bartïon perthnasol mewn perthynas â threfniadau a pholisi Derbyn Plant i Ysgolion yr Awdurdod.

Bydd y ‘Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2026/2027’ ar gael i rieni ym mis Hydref 2025, cyn y dyddiad ymgeisio yn cynnwys gwybodaeth bwysig am holl ysgolion y Sir, gan gynnwys y trefniadau derbyn cyhoeddedig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir unigol (h.y. ysgolion Ffydd).