Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn a hefyd am eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a’r broses o wneud hynny.
Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir bydd yr Awdurdod yn trefnu bod Panel Apêl Annibynnol yn ystyried yr apeliadau. Cynhelir y broses apeliadau yn unol â Chôd Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod derbyn i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar (lleoedd rhan-amser i blant 3 oed).
Bydd apeliadau'n cael eu cynnal yn unigol neu fel grŵp os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr un ysgol, ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud trefniadau apelio yn rhoi cyfarwyddyd fel arall. Bydd rhieni'n cael cyfle i gyflwyno eu hachos yn breifat naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth cynrychiolydd a ddewisir ganddynt. Rhaid cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol i'r panel erbyn dyddiad y gwrandawiad apêl neu efallai na fydd y panel yn ystyried hyn. Ni fydd y panel yn gallu ystyried unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol a ddarperir yn dilyn y gwrandawiad.
Bydd y Clerc yn hysbysu pob parti o benderfyniad y Panel, a fydd yn rhwymo’r Awdurdod, y Corff Llywodraethu a'r rhieni.
Rhaid i apêl gan rieni yn erbyn gwrthod lle mewn Ysgol Gymunedol neu Wirfoddol a Reolir gael ei chyflwyno drwy'r e-ffurflen Apeliadau.
Rhaid cyflwyno'r apeliadau erbyn y dyddiadau cau a nodir ar yr e-bost penderfyniad neu fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.
Bydd gan Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwrando ar apeliadau yn annibynnol.
Cyflwr Meddygol
Os bydd angen tystiolaeth feddygol bydd angen ichi ddarparu copïau o adroddiadau sy'n ymwneud â'r diagnosis gan yr Ymgynghorydd a/neu'r Arbenigwr perthnasol.