Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Awdurdodau Derbyn
Rheolir y drefn o dderbyn plant i ysgolion gan Awdurdod Derbyn.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Gaerfyrddin.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru o flwyddyn academaidd 2026/27 bydd trefniant derbyn cydlynol yn cael ei weithredu ar gyfer yr holl ysgolion a leolir yn Sir Gaerfyrddin. Bydd pob cais ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn cael ei wneud drwy system ymgeisio ar-lein y Cyngor ynghyd ag Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir. Bydd y meini prawf yn cael eu pennu a’u gosod gan bob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir unigol. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynorthwyo yn y broses ymgeisio ac yn cyhoeddi unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir unigol i
rieni. Bydd y broses Apeliadau yn aros gyda'r Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir unigol.
Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, corff llywodraethu pob ysgol sy'n pennu'r trefniadau derbyn, cyhoeddir y manylion yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni a gellir cael manylion amdanynt gan gorff llywodraethu priodol yr ysgol neu, Gyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru a Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru.
Awdurdodau Addysg Lleol cyfagos
O gofio natur ddaearyddol Sir Gaerfyrddin mae’n rhannu ffiniau gydag Awdurdodau Lleol eraill. Pe bai'r ysgol yr ydych eisiau i’ch plentyn fynd iddi fod mewn ardal Awdurdod arall, dylech gysylltu â’r Awdurdod hwnnw.