Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
Pan fydd ceisiadau yn cael eu gwneud y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol fel y gwelir yn rhan 10, caiff ceisiadau eu prosesu yn unol â'r trefniadau canlynol.
Mae newid ysgol yn gofyn am ystyriaeth ddifrifol a dylid trafod y mater yn llawn gyda Phennaeth Ysgol bresennol y plentyn yn y lle cyntaf. Mae angen i'r rhiant/gwarcheidwad ystyried a yw symud ysgol er lles pennaf y plentyn. Bydd yr Adran Addysg a Phlant hefyd yn darparu cyngor os oes angen.
Os bydd rhiant/gwarcheidwad yn dymuno symud plentyn o un ysgol i'r llall, rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein.
Nid yw bob amser yn bosibl cynnig lle i ddisgyblion mewn grŵp blwyddyn mewn ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol, gan y gallai'r holl leoedd sydd ar gael fod eisoes wedi'u dyrannu i ddisgyblion yn gynharach (h.y. ceisiadau cynharach i symud ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd/blynyddoedd academaidd blaenorol, neu yn ystod y cylch derbyn arferol).
Nid yw symud i ddalgylch ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol. Nid yw cael brawd neu chwaer sy'n cael cynnig lle mewn ysgol neu ei dderbyn i ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol i frodyr a chwiorydd eraill. Os oes nifer o blant o un aelwyd yn gwneud cais am symud i ysgol, efallai na fydd yn bosibl cynnig lle mewn ysgol i'r holl blant yn yr un ysgol os yw rhai grwpiau blwyddyn eisoes dros ei nifer derbyn.
Bydd ceisiadau sy'n dod i law cyn y Flwyddyn Academaidd newydd y mae'r cais ar ei chyfer yn cael eu prosesu yn Nhymor yr Haf cyn i'r Flwyddyn Academaidd ddechrau.
Dylid asesu ceisiadau sy'n dod i law yn ystod y Flwyddyn Academaidd a rhoi gwybod i rieni/gwarcheidwaid am benderfyniad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag yw'r cynharaf) a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Caiff pob cais ei brosesu yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Os caiff lle ei gynnig, mae'n ofynnol i rieni dderbyn neu wrthod y cynnig o le. Ar ôl derbyn bydd lle yn yr ysgol yn cael ei gadw tan ddiwedd y tymor y disgwylir iddynt ddechrau.
Bydd y cynnig o le yn cael ei ddileu a'i ailddyrannu i ddisgyblion eraill os:
- nad yw'r cynnig o le yn cael ei dderbyn o fewn y cyfnod amser a nodir ar y llythyr cynnig,
neu - os nad yw'r plentyn yn dechrau erbyn diwedd y tymor y gwnaethpwyd cais ar ei gyfer.
Gofynnir i rieni sy'n dymuno gohirio eu dyddiad dechrau yn hirach nag un tymor, ailymgeisio am le mewn ysgol.
Bydd disgybl sy'n symud i'r sir yn cael ei roi ar gofrestr yr ysgol newydd yn Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad cychwyn a nodir ar yr e-bost cynnig.
Bydd angen gwirio ceisiadau ar gyfer Plant a nodwyd naill ai fel Plentyn sy'n Derbyn Gofal neu Blentyn a Oedd yn Arfer Derbyn Gofal; neu Gynllun Datblygu Unigol cyn eu prosesu. Caiff ceisiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a'r polisïau derbyn a nodir yn y ddogfen hon. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn. Bydd yr e-bost penderfyniad hefyd yn nodi eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac yn esbonio’r broses apelio gan gynnwys y dyddiad cau i apelio. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses apelio yn y ddogfen hon.
Rhestrau aros ar gyfer ceisiadau y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol
Mae ceisiadau sydd wedi methu cael lle mewn ysgol a ddewisir yn cael eu cadw ar y rhestr aros tan ddiwrnod ysgol olaf y flwyddyn academaidd y gwnaethant gais amdani. Rhaid i rieni anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt am i enw eu plentyn gael ei roi ar y rhestr aros.