Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Dewis Ysgol
Dewis y Rhieni
Mae gan rieni'r hawl i fynegi ffafriaeth ar gyfer eu dewis ysgol(ion), a chaiff hynny ei hystyried a chydymffurfir â hynny lle bynnag y bo modd. Nid yw mynegi ffafriaeth ynghylch ysgol benodol yn gwarantu lle yn yr ysgol honno. Cynghorir rhieni i ystyried 3 dewis wrth wneud cais am le mewn ysgol. Bydd y dewis a ffefrir fwyaf gan y rhiant yn cael ei gynnig. Dim ond os bydd dewis a ffafrir yn fwy yn aflwyddiannus y caiff dewis a ffafrir yn llai ei gynnig.
Er bod y rhan fwyaf o rieni yn danfon eu plentyn i’r ysgol dalgylch leol, mae gan rieni hawl i ddatgan blaenoriaeth i ysgolion gwahanol. Os ydych yn dymuno gwneud hynny argymhellir eich bod yn cysylltu â’r ysgol rydych yn meddwl amdani cyn gwneud dewis terfynol.
Os ydych yn dewis ysgol nad yw’n ysgol dalgylch leol ichi nac yr ysgol agosaf at eich cartref, dylech gofio fod rhai materion ymarferol y mae angen ichi eu hystyried yn llawn cyn gwneud penderfyniad.
Y cyntaf yw os nad yw’r plentyn yn mynd i’r ysgol dalgylch leol ichi neu’r ysgol agosaf at eich cartref a bod y penderfyniad hwnnw yn seiliedig ar ddewis rhieni, fod y cyfrifoldeb a’r gost o gludo’r plenty i’r ysgol ac yn ôl yn gorwedd yn llwyr yn nwylo’r rhieni/gwarcheidwad.
Mae rhieni’n dweud fod hynny’n gallu bod yn broblem arbennig os oes ganddynt frawd neu chwaer iau nad yw’n cael ei dderbyn yn yr un ysgol gynradd.
Doeth felly yw ystyried a chynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn cyn gwneud cais am le mewn ysgol y tu allan i’r dalgylch.
Mae’r ail fater yn ymwneud â’r adeg pan mae disgyblion yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r sector uwchradd. Mae cael lle mewn ysgolion uwchradd yn seiliedig ar a ydy eich cyfeiriad cartref o fewn mdalgylch yr ysgol uwchradd. Nid yw’n seiliedig ar ba ysgol gynradd y buwyd ynddi. Pan mae disgybl mwedi bod i ysgol gynradd nad yw’n ysgol dalgylch benodedig leol iddynt mae mwy o debygrwydd na mfyddant yn gallu trosglwyddo i’r un ysgol uwchradd â’u cyfoedion a’u cyd-ddisgyblion.
Ni fydd y materion hyn yn berthnasol i lawer, ond gan eu bod wedi creu anawsterau i rieni yn y mgorffennol argymhellir eich bod yn eu hystyried ac yn cynllunio ar eu cyfer cyn gwneud eich dewism terfynol.
Bydd yr Awdurdod a llywodraethwyr ysgol yn cydymffurfio’n gyfreithlon ag unrhyw fynegiant o flaenoriaeth i ysgol benodol. Fel gyda phob cais bydd blaenoriaeth i ysgol benodol yn gorfod cael ei hystyried a’i hasesu yn rhan o’r broses dderbyn i sicrhau nad yw’r Awdurdod yn mynd heibio’r terfyn ar gyfer derbyn disgyblion i’r ysgol honno ar gyfer y grŵp blwyddyn penodol.
Dewisiadau Rhieni – Disgyblion a Waharddwyd Ddwywaith
Gall rhiant ddatgan ffafriaeth i ysgol y mae'n dymuno i’w blentyn gael ei addysgu ynddi, nid oes raid i’r Awdurdod Derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad y gwaharddiad diweddaraf os yw disgybl wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor.
Nid yw hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sydd â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), plant o dan oed ysgol gorfodol, plant a gafodd le ysgol yn ôl, neu a fyddai wedi cael lle yn ôl pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny, neu Blant sy'n Derbyn Gofal pan wneir y cais am le gan y rhiant corfforaethol.