Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Gwneud Cais
Yr Angen i Wneud Cais
Mae’n rhaid i riant/gwarcheidwad gwblhau a chyflwyno cais ar-lein ar gyfer derbyn disgybl i ysgol.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn i riant/gwarcheidwad restru eu dewisiadau o ran ysgolion yn ôl y dewis 1af, yr 2il ddewis a’r 3ydd dewis.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am y Trefniadau Derbyn Arferol erbyn y dyddiadau cau penodedig fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon. Bydd unrhyw geisiadau dilynol sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn cael eu prosesu fel cais hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Bydd yr Awdurdod Derbyn yn rhoi gwybod i Rieni/Gwarcheidwaid ynghylch a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio yn unol â'r trefniadau derbyn. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau a wneir ar ran Plentyn sy'n Derbyn Gofal gan riant corfforaethol os mai’r Awdurdod yw’r rhiant corfforaethol a’r Awdurdod Derbyn.
Mae gwneud cais am le mewn ysgol y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol wedi'u nodi yn rhan 11 o'r ddogfen hon. Ni all unrhyw Ysgol Gymunedol nac Ysgol Wirfoddol a Reolir awdurdodi derbyn disgybl.
Sut i Wneud Cais
Wedi i’r rhiant/gwarcheidwad benderfynu i ba ysgol y maent am anfon eu plentyn/plant dylent gyflwyno cais ar-lein drwy wefan y Cyngor:
Argymhellir bod rhieni’n cysylltu â’u dewis ysgol yn uniongyrchol cyn gwneud cais. Bydd gan yr Ysgol fap o’i dalgylch a gall gynorthwyo rhieni trwy ddarparu gwybodaeth arall am yr ysgol a’r trefniadau derbyn.
Llenwi’r Ffurflen Gais
Rhaid i'r sawl sy'n cwblhau'r ffurflen gais sicrhau bod ganddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn dan sylw a bod pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno. Os nad yw'n bosibl dod i gydgytundeb, mae angen gorchymyn llys i gadarnhau y gellir prosesu'r cais. Bydd angen i'r ymgeisydd dicio blwch ar y ffurflen gais ar-lein i gadarnhau cytundeb rhieni.
Pan fo anghytundeb neu wrthwynebiad, bydd y cais yn cael ei ohirio hyd nes y caiff y mater ei ddatrys rhwng y rhieni neu hyd nes y ceir gorchymyn llys yn nodi a ellir gwneud cais.
Bydd y rhieni yn gallu gwneud cais ar-lein am le mewn uchafswm o dair ysgol ar y ffurflen gais. Argymhellir bod rhieni/gwarcheidwaid yn gwneud cais am 3 ysgol i gynyddu'r siawns o sicrhau lle mewn ysgol a ddewisir.
Bydd rhaid i'r rhieni sy'n dewis gwneud cais am 2 neu 3 ysgol eu rhestru yn ôl blaenoriaeth (h.y. dewis 1af, 2il a 3ydd).
Yn y man cyntaf, bydd pob cais yn cael yr un ystyriaeth, ond os bydd lle'n cael ei gynnig yn yr ysgol sy'n ddewis 1af (neu'n unig ddewis), ni fydd lleoedd yn cael eu cynnig yn yr ysgol sy'n 2il ddewis neu'n 3ydd dewis.
Os caiff y dewis 1af ei wrthod, bydd eich 2il ddewis yn cael ei drin fel petai'n ddewis 1af. Bydd y broses hon yn parhau hyd nes y cynigir lle neu hyd nes y bydd y 3 dewis wedi'u hystyried. Dylai rhieni/gwarcheidwaid anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i drafod lle mewn ysgol arall os yw pob dewis wedi bod yn aflwyddiannus.
Os bydd nifer o geisiadau yn dod i law, cânt eu prosesu'n awtomatig yn y drefn y maent wedi dod i law. Os ydych yn cyflwyno cais newydd, y cais a ddaeth i law gyntaf fydd eich dewis 1af, 2il ddewis a 3ydd dewis o hyd, a bydd eich ail gais yn cael ei ychwanegu fel eich 4ydd, 5ed a 6ed dewis.
Bernir mai cyfeiriad cartref disgybl yw eiddo preswyl sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r plentyn, annedd neu adeilad preswyl, heb gynnwys unrhyw dir sydd ynghlwm wrthi/wrtho. Mae'r dalgylch yn seiliedig ar leoliad y tŷ lle mae'r disgybl yn byw ac nid unrhyw dir o amgylch y tŷ hwnnw, ac sydd nail ai:
- Yn eiddo i riant/rhieni’r plentyn neu i berson a chanddo gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol penodedig am y plentyn; neu
- Wedi'i brydlesu neu ei rentu gan riant/rhieni y plentyn neu gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn unol â chytundeb rhent ysgrifenedig, ac wedi'i lofnodi gan y landlord a'r tenant, am gyfnod o chwe mis neu ragor.
Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i ofyn am brawf o gyfeiriad ar yr adeg y cynigir lle i’r plentyn. Er mwyn i’r cais gael ei ystyried fel rhan o’r cylch derbyn arferol, mae'n bosibl y bydd angen ichi ddarparu prawf eich bod yn byw yn y cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen gais yn unol â'r Amserlen Trefniadau Derbyn.
Bydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw ddwy ddogfen o blith y canlynol yn gymorth ar gyfer penderfynu eich bod yn byw mewn cyfeiriad penodol:
- Bil y Dreth Gyngor neu Fudd-dal Tai gwreiddiol neu lythyr hysbysu nad yw’n fwy na 12 mis oed;
- Bil cyfleustod gwreiddiol (nad yw’n fwy na 3 mis oed);
- Llythyr dyfarnu gwreiddiol ynghylch Budd-dal Plant neu Gredyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol (nad yw'r dyddiad arno'n fwy na thri mis yn ôl, a'i fod yn nodi enw/enwau y plentyn/plant);
- Cytundeb tenantiaeth/prydles wedi'i lofnodi a'i ddyddio, sy'n para am o leiaf chwe mis ond sydd â mis neu ragor ar ôl ar y cytundeb;
- Cyfriflen cerdyn credyd neu gyfrif banc wreiddiol sy'n dangos y cyfeiriad (heb fod yn fwy na dau fis yn ôl);
- Cadarnhad ysgrifenedig gan Fanc neu Gymdeithas Adeiladu’r ymgeisydd yn cadarnhau manylion y newid cyfeiriad ac ar ba ddyddiad y digwyddodd y newid;
- Trwydded yrru llun adnabod gyfredol ddilys.
Fel rhan o'r broses dderbyn mae'n bosibl y bydd angen ichi ddarparu prawf o'ch cyfeiriad mewn cysylltiad â'ch cais. Bydd yr Awdurdod yn ceisio gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd ac mae'n cadw'r hawl i fynnu bod ymgeisydd yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i gadarnhau'r breswyliaeth neu i gymryd camau rhesymol i bennu a yw cais yn dwyllodrus ai peidio.
Os caiff lle ei gynnig mewn ysgol yn seiliedig ar gyfeiriad y canfyddir wedyn ei fod yn wahanol i gyfeiriad arferol a pharhaol y plentyn, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl.
Os bydd rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant cyfreithiol dros y plentyn yn rhoi datganiad anwir, gan wybod a chan fwriadu hynny, a fyddai'n effeithio ar lwyddiant eu cais, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl.
Os na ddarperir prawf preswyliaeth ar gais, yna ni fydd yr Awdurdod yn gallu prosesu'r cais ac mae'n bosibl y caiff y lle ei ddyfarnu i ddisgybl arall.
Os ydych yn bwriadu symud tŷ a'ch bod yn cyflwyno cais am le mewn ysgol ar sail y cyfeiriad newydd,bydd yr Awdurdod yn cymryd camau i wirio'r trefniadau. Gall yr Awdurdod dderbyn hefyd;
- Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau dyddiad cwblhau eich pryniant tŷ (nid yw cyfnewid contractmyn ddigonol), rhaid darparu tystiolaeth o'r cwblhau cyn i'r lle ysgol gael ei gynnig.
- Cytundeb tenantiaeth wedi'i lofnodi am o leiaf 6 mis, gweler (d) prawf o'ch cyfeiriad.
Os na allwch ddarparu prawf o'ch cyfeiriad erbyn y dyddiad cau, yna bydd eich cais yn cael ei seilio ar eich cyfeiriad cyfredol.
Os ydych yn symud cyfeiriad ar ôl y diwrnod cynnig, bydd eich cais yn cael ei drin fel cais hwyr, gan ym bydd lleoedd eisoes wedi'u dyrannu.
Dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd cyfeiriad dros dro yn cael ei ystyried, megis:
- Ffoaduriaid/mewnfudwyr wedi symud i'r Sir yn ddiweddar ac yn byw mewn gwestai neu lety dros dro a ddarparwyd neu y cytunwyd ar hynny gan y Swyddfa Gartref neu drwy sianeli swyddogol.
- Dogfennau sy'n profi bod y teulu wedi cael llety brys oherwydd nad oedd yr eiddo blaenorol yn ffit i fyw ynddo yn barhaol.
- Neu brawf bod y tŷ oedd yn "gartref teuluol" blaenorol wedi cael ei ildio.
Efallai y bydd rhieni'n cael eu temtio i wneud cais am le mewn ysgol gan ddefnyddio cyfeiriad nad yw'n gyfeiriad cartref arferol disgybl, fel cyfeiriadau neiniau a theidiau neu aelodau eraill o'r teulu, a hynny er mwyn cael mantais ar gyfer lle mewn ysgol, a gall gwneud hynny hyd yn oed ar sail dros dro gael ei ystyried yn achos o dwyll a gall arwain at dynnu'r lle yn ôl.
Gallai enghreifftiau o geisiadau twyllodrus gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Defnyddio cyfeiriad neiniau a theidiau neu gyfeiriad aelodau eraill o'r teulu ar gyfer y cais,
- Defnyddio eiddo arall y mae'r rhieni'n berchen arno, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio fel y prif gyfeiriad cartref, - gellir gofyn am dystiolaeth o'r defnydd a wneir o eiddo arall.
- Gwneud cais o gyfeiriad perthynas ond cadw eich eiddo blaenorol.
- Cytundebau rhent llai na 6 mis o hyd.
- Byw mewn cyfeiriad dros dro tra bo gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn y "cyfeiriad cartref”.
Os canfyddir bod rhieni'n defnyddio cyfeiriadau ffug i gael mantais ar gyfer lle mewn ysgol, mae'n bosibl na fydd eu ceisiadau'n cael eu prosesu, neu caiff eu lleoedd eu tynnu'n ôl. Efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd gyda'r cyfeiriad cywir.
Gall methu â darparu tystiolaeth o gyfeiriad y cartref pan ofynnir amdano arwain at beidio â phrosesu'r cais neu gallai effeithio ar flaenoriaeth y cais dan ystyriaeth.
Pan fydd y cyfrifoldeb am y plentyn yn cael ei rannu, a phan fydd y plentyn yn byw gyda’r ddau riant, neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol am y plentyn, am ran o’r wythnos, y brif breswylfa fydd y cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y rhan fwyaf o’r wythnos ysgol. Defnyddir cyfeiriad y person sy’n derbyn Budd-dal Plant yn brif breswylfa lle mae’r cyfrifoldeb am ofalu am y plentyn wedi’i rannu 50:50.
Bydd cyfeiriad y rhiant sy'n derbyn budd-dal plant ar adeg y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yn cael ei ystyried fel y prif breswylfa ac efallai y gofynnir i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi hyn. Pan wneir unrhyw newidiadau i'r sawl sy'n derbyn y budd-dal plant ar ôl y cyfnod hwn, bydd unrhyw gais yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Rhaid i rieni anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i newid trefn eu dewisiadau ysgol. Efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd. Bydd newidiadau a wneir ar ôl y dyddiadau cau a gyhoeddwyd yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.
Wrth wneud cais o fewn y rowndiau derbyn arferol bydd dyddiad dechrau'r disgybl yn cael ei ddynodi'n awtomatig gyda dyddiad cychwyn safonol sy'n gysylltiedig â disgybl o'r oedran hwnnw. Wrth wneud cais am dderbyn lle y tu allan i'r cylch derbyn arferol, gofynnir i rieni nodi dyddiad dechrau a ffefrir ar gyfer eu hysgol newydd.
Rhaid i rieni nodi a oes gan ddisgybl unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol ar y ffurflen gais pan ofynnir iddynt wneud hynny. Bydd y wybodaeth hon yn helpu ysgolion i gynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod darpariaeth ar waith ar gyfer disgyblion pe baent yn cael eu derbyn i'r ysgol. Gofynnir i'r adran ADY wirio'r ceisiadau hyn.
Mae'n rhaid i'r Awdurdod, yn statudol, sicrhau bod pob plentyn oed ysgol gorfodol yn derbyn addysg sy'n briodol i'w hoedran, eu galluoedd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig, ac yn hybu safonau uchel wrth ddarparu addysg a lles plant. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob plenty boed yn breswylwyr parhaol yn yr ardal ai peidio. Bydd ceisiadau derbyn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trin gyda’r bwriad o roi’r plant hyn, mor gyflym ag y bo modd, yn yr ysgol agosaf a mwyaf addas sydd ar gael.
Bydd plant Aelodau Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn cael eu trin fel pe baent o fewn y dalgylch os yw eu ffurflen gais yn cynnwys llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn nodi dyddiad dychwelyd pendant neu ddyddiad penodi swyddogol a chadarnhad o’r cyfeiriad newydd o fewn y dalgylch.
Sir Gâr ddwyieithog- Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Gall rhieni fynegi eu bod yn ffafrio ysgol benodol o ran iaith. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddatblygu ei system addysg ddwyieithog ymhellach yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032. Credwn yn gryf fod bod yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn fantais i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ystyriaethau wedi'u gwneud ar gyfer disgyblion sy'n symud i'r sir heb fawr ddim Cymraeg neu ddim Cymraeg o gwbl. Gall disgyblion o bob oed gael cymorth ar gyfer darpariaeth Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
Dewis Iaith – Ysgolion Dwyieithog
Lle gall ysgol gynnig mwy nag un ffrwd iaith, ni fydd dewis y rhiant ar gyfer ffrwd iaith benodol yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses ymgeisio am dderbyn i ysgol. Bydd y cais am dderbyn i ysgol dim ond yn ystyried dyrannu lle i'r grŵp blwyddyn yn yr ysgol. Dylid trafod unrhyw ddewisiadau iaith gyda'r Ysgol ar ôl dyrannu lle i ddisgybl.
Ysgolion Dau Safle
Pan gyflwynir cais ar gyfer derbyn i ysgol sy'n gweithredu ar fwy nag un safle, bydd yr Awdurdod yn cymeradwyo derbyn i'r ysgol ac nid i safle penodol. Bydd pa safle fydd y plant yn ei fynychu yn fater i'r ysgol benderfynu arno.