Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
Ar Gyfer Derbyn Disgyblion i Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd Cymunedol a Gwirfoddol a Reolir
Os cyflwynir mwy o geisiadau nag sydd o leoedd mewn grŵp blwyddyn penodol mewn ysgol, caiff lleoedd eu dyrannu gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol a restrir yn nhrefn blaenoriaeth:
- Plant sy’n Derbyn Gofal a phlant a oedd yn arfer Derbyn Gofal.
- Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
- Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol ond na fydd ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
- Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
- Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch dynodedig yr ysgol ac na fydd ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
D.S. Pan fo Cynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n enwi ysgol benodol ar gyfer Derbyn, mae’n rhaid datgan hynny’n glir ar y ffurflen gais derbyn i ysgolion. Bydd yr Awdurdod yn ymdrin â cheisiadau o’r fath cyn dyrannu unrhyw leoedd yn unol â’r meini prawf gor-alw am leoedd mewn ysgol fel y nodwyd uchod.
Ar gyfer ceisiadau amser llawn i blant 4 oed mewn ysgolion cynradd - ni ellir defnyddio'r ddarpariaeth Feithrin neu flynyddoedd cynnar ran-amser i blant 3 oed a ddyrannwyd yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lleoedd amser llawn mewn ysgol gynradd i blant 4 oed.
Ar gyfer ceisiadau Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd - Ni ellir defnyddio'r ysgol gynradd y mae disgybl yn ei mynychu yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lle mewn ysgol uwchradd.
Brodyr a Chwiorydd
Bydd plant yn cael eu hystyried yn frodyr neu’n chwiorydd os ydynt yn: Brawd neu chwaer lawn (plant sydd â dau riant yn gyffredin), hanner brawd neu hanner chwaer (plant sydd ag un rhiant yn gyffredin), brawd neu chwaer trwy fabwysiad neu faethiad, llysfrawd neu lyschwaer (plant sy'n perthyn oherwydd bod eu rhieni’n briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil), ond ym mhob achos mae'n rhaid i'r plant fod yn byw yn yr un uned deuluol yn yr un cyfeiriad am y rhan fwyaf o'r wythnos.
Os oes preswyliaeth 50/50, cyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad sy'n derbyn budd-dal plant a ddefnyddir i brosesu’r cais a rhaid bod y brawd/chwaer ar y gofrestr ac yn mynychu'r ysgol pan fydd eich plenty yn dechrau yn yr ysgol. Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i ofyn am dystiolaeth os bydd angen. Os na ddarperir tystiolaeth pan ofynnir i chi wneud hynny bydd eich cais yn cael ei ystyried fel un heb frawd neu chwaer yn yr ysgol.
Plant Genedigaeth Luosog
O dan unrhyw amgylchiadau pan fydd un lle ar gael a phan fydd y plant cymwys nesaf yn efeilliaid/tripledi bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y ddau / y ddwy / yr holl blant.
Y Meini Prawf o ran Pellter
Lle mae mwy o geisiadau na lleoedd ar gyfer ysgol, bydd y pellter o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddefnyddio er mwyn dyrannu blaenoriaeth ar gyfer lleoedd gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol yn cael blaenoriaeth a lle yn yr ysgol cyn y rhai sy'n byw ymhellach i ffwrdd. Mesurir y pellter gan ddefnyddio'r llwybr byrraf ar Google Maps.
Mesurir y pellter o gyfeiriad y cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr agosaf o fynedfa agosaf yr ysgol i'r pwynt mynediad agosaf i gyfeiriad y cartref ar briffordd neu lwybr troed cyhoeddus fel y mesurir gan Google Maps.
Hysbysiad am Gynnig o le i ddisgybl mewn Ysgol
Bydd rhieni’n cael eu hysbysu trwy e-bost yn cadarnhau, neu fel arall, fod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig iddynt y cyfle i dderbyn y lle yn unol â'r trefniadau derbyn a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.
Rhaid i riant dderbyn yr e-bost cynnig i sicrhau lle yn yr ysgol. Os na fydd rhiant yn ymateb erbyn y dyddiad ar yr e-bost, mae'n bosibl y bydd y lle yn cael ei dynnu'n ôl a'i gynnig i ddisgybl arall.
Tynnu Cynnig o Le yn Ôl
Gellir tynnu'r cynnig o le mewn ysgol yn ôl ar y sail:
- darganfyddir yn ddiweddarach y cafodd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol ei gyflwyno (e.e. honni ar gam preswylio mewn dalgylch ysgol); neu
- os nad yw’r lle a gynigir wedi cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a nodir yn yr e-bost/llythyr. Yna gallai'r Awdurdod ailddyrannu'r lle i blentyn arall.
- Mae lle mewn ysgol arall yn cael ei gadarnhau gan riant/gwarcheidwad
- Os nad yw disgybl wedi dechrau mewn ysgol ar ddiwedd y tymor ysgol yr oedd i fod i ddechrau yn unol â pholisi'r Awdurdod.