Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
 - Awdurdodau Derbyn
 - Nifer Derbyn Yr Ysgol – Terfyn Ar Nifer Y Disgyblion a Dderbynnir
 - Dalgylchoedd
 - Dosbarthiad Ysgolion
 - Derbyn y Tu Allan I'r Grŵp Blwyddyn Cronolegol Arferol
 - Addysg yn y Cartref
 - Dewis Ysgol
 
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
 - Trefniadau Derbyn Arferol
 - Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
 - Gwneud Cais
 - Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
 - Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
 - Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
 - Atodiad A
 
Nifer Derbyn Yr Ysgol – Terfyn Ar Nifer Y Disgyblion a Dderbynnir
Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn (ND) sy’n nodi a chyfyngu ar faint o ddisgyblion y gellir eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn yn yr ysgol. Rhoddir y ND ar gyfer pob ysgol yn y rhestr o ysgolion yn Atodiad A.
Pennwyd y ND ar gyfer pob ysgol trwy ddefnyddio’r fformiwla maint a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyfrifiad yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol (Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru –Cylchlythyr 021/2011) ac mae’n ymwneud ag arwynebedd ffisegol adeiladau’r ysgol, y math o gyfleusterau sydd yn yr ysgol, ystod oed a nifer y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol.Gan fod y ND yn seiliedig ar allu’r ysgol i ddarparu lle a chyfleusterau addas ar gyfer disgyblion, ni ddylid mynd heibio’r terfyn hwnnw.
Mae’r ND yn berthnasol i’r grŵp oed y derbynnir y disgyblion iddo yn yr ysgol, ac mae’n gosod terfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn. Yn y flwyddyn dderbyn arferol rhaid i’r Awdurdod Derbyn dderbyn disgyblion hyd nes y cyrhaeddir y ND. Os yw nifer y ceisiadau a dderbynnir am lefydd mewn ysgol yn fwy na’r ND bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniodd yn unol â’r meini prawf ar gyfer goralw a nodir yn y ddogfen hon.
Mewn amgylchiadau o'r fath, efallai na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis.
Rhaid i lywodraethwyr ysgol a’r Awdurdod Lleol gadw golwg gyson ar y ND.
