Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27
Yn yr adran hon
- Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Trefniadau Derbyn Arferol
- Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)
- Gwneud Cais
- Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion
- Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir
- Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.
- Atodiad A
Trefniadau Derbyn Arferol
Yn y rhan hon o'r ddogfen nodir gweithdrefnau Sir Gaerfyrddin o ran trefniadau derbyn arferol addysg Feithrin, Gynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd.
- Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i Rieni/Gwarcheidwaid gyflwyno cais i'r Awdurdod am le mewn ysgol.
- Nodir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn ar ddiwedd y ddogfen hon.
- Rhaid gwneud cais erbyn y dyddiadau cau
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Ysgol Gynradd o'r Ysgol Feithrin.
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Ysgol Uwchradd o'r Ysgol Gynradd.
- Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn annhebygol o gael lle yn eu hysgol dewis cyntaf.
- Defnyddir Meini Prawf Gor-alw penodol wrth ddyrannu lle mewn ysgol.
- Wrth ddyrannu lleoedd, ni roddir ystyriaeth i'r ysgol feithrin a'r ysgol gynradd y mae'r disgybl yn ei mynychu. Y cyfeiriad cartref fydd yn cael ei ystyried wrth dderbyn i ysgolion.
- Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn nac ysgol roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
- Anfonir e-bost neu lythyr gan yr Awdurdod yn rhoi gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
- Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod ei fod yn derbyn y lle sy'n cael ei gynnig.
Mae addysg y Blynyddoedd Cynnar yn ddarpariaeth anstatudol sydd ar gael i blant 3 oed a bydd yn rhaid gwneud cais am le mewn ysgol i'r Awdurdod Derbyn. Dylid cyflwyno ceisiadau derbyn i'rmAwdurdod erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Mae sawl math o ddarpariaeth:
- Ysgol Feithrin – Ysgol Feithrin Rhydaman yw’r unig ysgol feithrin yn y Sir.
- Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn Ysgolion Cynradd (ysgolion 3-11 oed).
- Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawliau Bore Oes, mudiadau
fel Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru a Mudiad Meithrin a darparwyr preifat.
Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin eich cynorthwyo yn y broses hon.
Cysylltwch drwy e-bostio Gwybplant@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01267 246555.
Mae hawl gan bob plentyn 3 blwydd oed gael lleoliad am ddim am 10 awr yr wythnos mewn sefydliad cofrestredig trwy’r Grŵp Hawliau Bore Oes o'r tymor yn dilyn ei drydydd pen-blwydd.
Fel rheol, derbynnir plant i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn rhan-amser ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd fel a ganlyn:
3ydd Pen-blwydd y Plentyn | Y Tymor Derbyn |
1 Medi - 31 Rhagfyr | Tymor y Gwanwyn |
1 Ionawr - 31 Mawrth | Tymor yr Haf |
1 Ebrill - 31 Awst | Tymor yr Hydref |
Y Dyddiad Cau i wneud cais am le rhan-amser mewn Ysgol Feithrin yw 31 Gorffennaf 2026.
Nid oes gan rieni hawl i apêl os na chynigir lle i’w plentyn yn eu dewis leoliad blynyddoedd cynnar. Ni fydd gan ddisgyblion sy’n cael eu derbyn i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar neu feithrin mewn Ysgol hawl ‘awtomatig’ i barhau â'u haddysg drwy gael lle amser llawn yn yr ysgol honno.
Ni fydd y ddarpariaeth ran-amser y mae disgybl yn ei mynychu yn cael ei hystyried pan fydd y lle amser llawn mewn ysgol gynradd yn cael ei ddyrannu.
Rhaid gwneud cais ar wahân i’r Awdurdod i gael lle amser llawn (4 oed yn yr ysgol).
Dylid cyflwyno ceisiadau derbyn i'r Awdurdod erbyn y dyddiad a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Lle mae’n ymarferol mae’r Awdurdod Derbyn yn caniatáu i ddarparwyr nas cynhelir ddefnyddio adeiladau ysgol. Ni fydd mynychu darpariaeth o'r fath yn cael ei ystyried wrth ddyrannu Lleoedd Rhanamser mewn Ysgol Feithrin neu Leoedd Amser Llawn mewn Ysgol Gynradd.
Lle nad oes darpariaeth blynyddoedd cynnar mewn lleoliad a gynhelir. Bydd dysgwyr llawn amser yn cael eu derbyn i ysgolion cynradd yn ystod tymor yr ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
4ydd Pen-blwydd y Plentyn | Y Tymor Derbyn |
1 Medi - 31 Rhagfyr | Tymor y Gwanwyn |
1 Ionawr - 31 Mawrth | Tymor yr Haf |
1 Ebrill - 31 Awst | Tymor yr Hydref |
Y Dyddiad Cau i wneud cais am le amser llawn mewn Ysgol Gynradd fydd 31 Ionawr 2026.
Yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gosodir terfyn o 30 o ddisgyblion fesul athro cymwysedig ar ddosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2, a elwir yn Ddeddfwriaeth ar Faint Dosbarthiadau Babanod.
Nid yw'r ysgol feithrin a'r darparwr blynyddoedd cynnar y mae'r disgybl yn eu mynychu yn fater sy'n cael ei ystyried wrth ddyrannu lleoedd.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i rieni drefnu bod eu plant yn derbyn addysg amser llawn ar ddechrau'r tymhorau canlynol:
- Tymor yr Hydref ar gyfer y rhai sy’n 5 mlwydd oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst;
- Tymor y Gwanwyn ar gyfer y rhai sy’n 5 mlwydd oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr;
- Tymor yr Haf ar gyfer y rhai sy’n 5 mlwydd oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth;
Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod plentyn yn dechrau’r ysgol tan y tymor sy’n dilyn pumed pen-blwydd y plentyn. Gall rhiant ohirio dyddiad derbyn plentyn i’r ysgol tan ddechrau’r tymor sy’n dilyn pumed pen-blwydd y plentyn cyhyd â bod y dyddiad hwnnw yn yr un flwyddyn ysgol â'r un maent wedi gwneud cais amdani.
Mae'n rhaid i blant ysgolion cynradd ddechrau'r ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.
Mae'n ofynnol i riant/gwarcheidwad gwblhau cais ar-lein ar gyfer y disgyblion hyn erbyn y dyddiad cau penodedig fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn. Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.Nid yw’r ysgol gynradd y mae’r disgybl yn ei mynychu yn fater sy’n cael ei ystyried wrth ddyrannu lleoedd.
Y Dyddiad Cau i wneud cais am le amser llawn mewn Ysgol Uwchradd yw 28 Tachwedd 2025
Rhaid llenwi ffurflenni cais ar-lein erbyn y dyddiad cau penodedig. Os na fydd y ffurflen wedi cael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, mae'r siawns o gael lle yn y dewis ysgol yn llai, felly hefyd y posibilrwydd o gael cludiant i’r ysgol am ddim.
Ein bwriad yw anfon llythyrau penderfyniad mewn perthynas â'r ceisiadau hyn a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau erbyn y dyddiad cynnig a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Cyfrifoldeb pob ysgol unigol yw prosesu eu ceisiadau chweched dosbarth eu hunain. Felly, dylid trafod trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i Chweched Dosbarth Ysgolion Cymunedol â’r ysgol unigol cyn gwneud cais am le.
Sylwch na ellir defnyddio cais cynnar yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu llefydd. Mae'r holl geisiadau sy'n dod i law hyd at y dyddiad cau yn cael eu trin yn yr un modd.
Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau sydd wedi dod i law cyn y dyddiad cau wedi cael lleoedd. Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn llai tebygol o gael lle yn yr ysgol dewis cyntaf y gwnaeth y rhieni gais amdani.
Mae rhestrau aros ar gyfer derbyn i'r ysgol y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol wedi'u nodi yn rhan11 o'r ddogfen hon.
Lle na fu'n bosibl derbyn disgybl, drwy'r trefniadau derbyn arferol, i ysgol o ddewis oherwydd gor-alw,rhaid i’r rhieni roi gwybod i’r Awdurdod trwy e-bostio derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt am i enw eu plentyn gael ei roi ar y rhestr aros. Bydd y rhestr aros yn cael ei chadw tan 30 Medi ar ôl y dyddiad hysbysiad o benderfyniad fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.
Dylid nodi bod yn rhaid i geisiadau newydd gael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau sydd ar 30 Medi. Dim ond os bydd nifer y lleoedd sydd wedi'u dyrannu/ar y gofrestr yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn gostwng islaw'r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol y bydd disgyblion ar y rhestr aros yn cael eu hystyried. Os bydd lleoedd gwag ar gael, bydd yr holl geisiadau newydd a hwyr sydd wedi dod i law bryd hynny yn cael eu hystyried ar gyfer y lleoedd gwag ynghyd â'r rhai sydd ar y rhestr aros. Bydd unrhyw leoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu yn unol â'r meini prawf gor-alw.
Bydd ceisiadau ar y rhestr aros ar gyfer y trefniadau derbyn arferol yn cael eu hadolygu'n fisol tan 30 Medi ar ôl y dyddiad hysbysiad o benderfyniad fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.
Gall rhieni apelio yn erbyn penderfyniad tra byddant ar y rhestr aros ar gyfer nifer o ysgolion.