Sut i Adnabod Pryderon a Chael Help - Gwrthderfysgaeth
Gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am rywun sy'n mynegi safbwyntiau eithafol neu gasineb, a allai arwain at niweidio eu hunain neu eraill.
Yn aml, ffrindiau a theulu yw'r cyntaf i sylwi ar newidiadau pryderus sy'n digwydd. Gall y rhain fod yn newidiadau mawr neu fach sy'n digwydd yn gyflym iawn neu dros gyfnod hirach.
Gall unrhyw un fod yn agored i radicaleiddio, beth bynnag ei oedran, cefndir, crefydd, addysg neu amgylchiadau cymdeithasol.
Efallai sylwch ar un neu ragor o'r canlynol:
· Cael eu dylanwadu neu eu rheoli gan grŵp
· Awydd obsesiynol neu grac am newid neu am i 'rywbeth i gael ei wneud’
· Treulio mwy a mwy o amser ar-lein a rhannu safbwyntiau eithafol ar y cyfryngau cymdeithasol.
· Argyfwng personol
· Angen hunaniaeth, ystyr a pherthyn
· Problemau iechyd meddwl
· Edrych i feio eraill
· Ymddiriedwch yn eich greddf a gofynnwch am gyngor os ydych yn pryderu
· Awydd am statws, angen dominyddu
Yn bwysicach nag unrhyw un arwydd penodol yw'r ymdeimlad nad yw rhywbeth yn hollol iawn gyda'r person rydych chi'n poeni amdano. Gallech weld un arwydd neu gyfuniad o arwyddion sy'n cynyddu mewn dwysedd.
Weithiau gallant fod yn arwyddion o faterion neu heriau sylfaenol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â radicaleiddio
Os oes gennych, fel aelod o'r cyhoedd, bryderon am ymddygiad unigolyn, dylech gysylltu â:
Yr Heddlu:
- Ffoniwch 999 os ydych yn credu bod perygl neu risg uniongyrchol.
- Ffoniwch 101 at gyfer pryden nad ydynt yn argyfwng
- Gallwch roi gwybod ar-lein drwy wefan www.dyfed-powys.police.uk/en/prevent
Rhoi Gwybod yn Ddienw
- Crimestoppers: Ffôn: 0800 555 111 (Am ddim 24/7) neu trwyr gwefan crimestoppers-uk.org
- Fearless: Gall pobl ifanc roi gwybodaeth trwyr gwefan Fearless.org
Rhoi gwybod am Bryderon am Blentyn neu Oedolyn yn Sir Gaerfyrddin
- Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - 01554 742322 - CRTChildren@sirgar.gov.uk
- Diogelu Oedolion 0300 333 2222 - adultsafeguarding@sirgar.gov.uk
Mae Prevent yn rhaglen ddiogelu genedlaethol sy'n ceisio atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae'n gweithio i sicrhau bod pobl sy'n agored i radicaleiddio yn cael cynnig ymyriadau priodol, a bod cymunedau'n cael eu hamddiffyn rhag dylanwadau radicaleiddio.
Os ydych chi'n poeni bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei radicaleiddio. Po gynharaf y byddwch chi'n gofyn am gyngor, y cynharaf y gallwch chi helpu i atal y person hwnnw rhag dod yn berygl iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Os oes gennych bryderon, gallwch wneud atgyfeiriad i: Prevent
Gall unrhyw un sy'n cael ei radicaleiddio gael ei atgyfeirio i Prevent. Mae atgyfeirio rhywun yn sicrhau ei fod yn cael yr help sydd ei angen arno i'w gadw ef ac eraill yn ddiogel.
Nid yw cael cymorth gan Prevent yn gosb ac ni fydd yn mynd ar gofnod troseddol unigolyn.
Bydd atgyfeiriad Prevent yn dilyn y broses hon:
1. Asesiad cychwynnol o atgyfeiriad gan yr Heddlu lleol
Pan fydd atgyfeiriad yn cael ei wneud, yr heddlu lleol yw'r cyntaf i'w adolygu. Maent yn gwirio a oes bygythiad diogelwch ar unwaith ac yn asesu a oes risg wirioneddol o radicaleiddio.
2. Os bydd yr heddlu'n penderfynu nad yw'r person mewn perygl o gael ei radicaleiddio, ni fydd yn cael ei ystyried yn achos ar gyfer Prevent. Yn hytrach, efallai y bydd yn cael cynnig gwasanaethau cymorth eraill, fel gwasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau cymdeithasol, os oes angen.
3. Os oes risg o radicaleiddio, mae panel o arbenigwyr lleol yn asesu'r atgyfeiriad. Mae'r panel yn cael ei arwain gan yr awdurdod lleol a gall gynnwys yr heddlu, gwasanaethau plant, gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr addysg proffesiynol a gweithwyr gofal iechyd meddwl proffesiynol.
4. Os bydd y panel yn penderfynu bod person mewn perygl, bydd yn cael ei wahodd i ymuno â rhaglen gymorth o'r enw Channel. Mae hyn yn wirfoddol, felly gall person ddewis cymryd rhan ai peidio. Os yw person yn dewis peidio â chymryd rhan yn y rhaglen, efallai y cynigir cymorth arall iddo yn lle hynny a bydd yr heddlu yn rheoli unrhyw risg.
Mae Channel yn rhaglen ddiogelu amlasiantaethol sy'n cael ei rhedeg ym mhob awdurdod lleol. Mae ystod eang o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd fel Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant, y GIG, lleoliadau addysg a'r Heddlu i hwyluso rhaglen.
Mae cymryd rhan yn Channel yn wirfoddol, a rhaid i unigolion (neu eu rhieni/gofalwyr ar gyfer plant o dan 18 oed) gydsynio i dderbyn cymorth. Nid yw cymryd rhan yn y broses Channel yn arwain at gofnod troseddol.
Gallai'r cymorth a ddarperir gan raglen Channel gynnwys:
· mentora
· cymorth iechyd meddwl megis cwnsela
· cymorth addysg neu ddatblygu gyrfa
· hyfforddiant diogelwch ar-lein i rieni
Bydd y panel yn adolygu ac yn monitro'r rhaglen gymorth yn rheolaidd.





