Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/06/2026
Help gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifol (LPG) (2026)
Os ydych chi'n gymwys am y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) am eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Os ydych eisoes yn derbyn CTRS ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais.
Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa fath o danwydd gwresogi rydych chi'n ei ddefnyddio trwy roi bil i ni sydd hyd at 12 mis oed a darparu manylion banc.
Os nad ydych chi'n derbyn CTRS, mae manylion pwy sy'n gymwys a sut i wneud cais yma:
Faint o amser sydd gen i wneud cais?
Rhaid eich bod yn derbyn CTRS, neu wedi gwneud cais llwyddiannus am CTRS, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Dylech wedyn wneud cais am y cymorth olew gwresogi a LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.
Ble ga i ragor o wybodaeth?
Os oes gennych gwestiwn penodol, neu os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys, gallwch e-bostio eich ymholiad i benefitadmin@carmarthenshire.gov.uk gyda’r pwnc Ymholiad Cynllun Cymorth Tanwydd Oddi Ar y Grid.
A oes cymorth arall ar gael?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu'ch biliau neu wresogi eich cartref. I weld yr help sydd ar gael, ewch i'n tudalen Hawliwch Bopeth.
