Rheoli Maetholion mewn Cynllunio a Datblygu

Asesiadau Cyflwr Morol (2024)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi Asesiadau Cyflwr wedi'u diweddaru ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, Ardal Gwarchodaeth Arbennig Cilfach Tywyn, ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig Bae Caerfyrddin.

Mae'r asesiadau hyn yn darparu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar gyflwr cynefinoedd morol ac aberol dynodedig, gan gynnwys ystyried pwysau maetholion.

Rydym yn adolygu'r canfyddiadau ac yn aros am dystiolaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru a byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth yma maes o law.

Gallwch ddarllen yr asesiadau a gyhoeddwyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

 

Dalgylch Niwtraliaeth DIN Dangosol ar gyfer Sir Gaerfyrddin

Lluniwyd y mapiau hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddangos yr ardal lle mae cyngor niwtraliaeth nitrogen anorganig toddedig (DIN) yn berthnasol ar hyn o bryd at ddibenion cynllunio.

Dim ond i gynigion datblygu sy'n cysylltu â'r prif rwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus y mae'n berthnasol. Rhaid i gynigion datblygu mewn ardaloedd sydd â system garthffosiaeth gysylltu'r draeniad dŵr brwnt â'r brif garthffos yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12, paragraff 6.6.20) a Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018. 

Y bwriad yw helpu datblygwyr, asiantau ac ymgyngoreion i ddeall lle gallai fod angen asesiadau niwtraliaeth o ran maetholion.

Mae'r ffin a ddangosir yma yn seiliedig ar Ddalgylchoedd Dŵr Croyw ACA Morol sydd angen Niwtraliaeth Nitrogen Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (Medi 2025), a fireiniwyd drwy ddadansoddiad lleol o ddalgylchoedd carthffosiaeth mewn ymgynghoriad â Dŵr Cymru (DCWW). Mae'r mireinio'n eithrio tir o fewn parth CNC sy'n cael ei wasanaethu gan ddalgylchoedd carthffosiaeth sy'n gollwng y tu allan i'r ACA morol yr effeithir arni, ac mae'n cynnwys tir y tu allan i'r parth CNC sy'n cael ei wasanaethu gan ddalgylchoedd carthffosiaeth sy'n gollwng i'r ACA.

 

Canllawiau a Chyfyngiadau

Mae'r set ddata hon yn addasiad o haen dalgylch CNC at ddibenion cynllunio. Ar 09/09/2025, cadarnhaodd CNC na fydd pellteroedd sgrinio ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn bwriadu cysylltu â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus bellach yn berthnasol o fewn y dalgylch Niwtraliaeth o ran Maetholion, ac mae CNC yn bwriadu diweddaru ei ganllawiau cyhoeddedig yn unol â hynny. Nid yw'r sefyllfa hon wedi'i chadarnhau eto mewn perthynas â'r set ddata a fireiniwyd a gyhoeddwyd yma.

Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn bwriadu cysylltu â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus (er enghraifft datblygiadau amaethyddol, systemau trin preifat a thoiledau sy'n gwahanu) ddefnyddio map Dalgylchoedd Dŵr Croyw ACA Morol CNC sydd angen Niwtraliaeth Nitrogen

Canllaw yn unig yw'r map a ddarperir yma. Nid yw'n disodli setiau data niwtraliaeth o ran maetholion cyhoeddedig CNC na chyngor rheoleiddio ffurfiol. 

Mae data am ddalgylchoedd carthffosiaeth wedi cael ei ddefnyddio'n fewnol i fireinio'r ffin ond nid yw'n cael ei gyhoeddi fel y cyfryw. Dylai datblygwyr bob amser geisio cadarnhad gan Dŵr Cymru a CNC o ran trefniadau draenio ar gyfer safleoedd unigol.

Gall y ffin newid wrth i dystiolaeth newydd, data monitro, neu gyngor rheoleiddiol ddod ar gael.