Rheoli Maetholion mewn Cynllunio a Datblygu
Yn yr adran hon
Byrddau Rheoli Maetholion
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o bartneriaid sefydlu Byrddau Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru, a sefydlwyd i gydlynu'r ymateb rhanbarthol i lygredd maetholion yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Teifi, Tywi a Chleddau.
Mae pob Bwrdd yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, cynrychiolwyr ffermio, parciau cenedlaethol, a rhanddeiliaid allweddol eraill. Y nod yw cefnogi adferiad afonydd, datblygu cynaliadwy, a darparu niwtraliaeth neu welliant o ran maetholion trwy'r system gynllunio.
Beth mae'r Byrddau yn ei wneud
Mae'r Byrddau Rheoli Maetholion yn gyfrifol am y canlynol:
- Datblygu a chynnal Cynlluniau Rheoli Maetholion ar gyfer pob dalgylch
- Nodi a blaenoriaethu cyfleoedd lliniaru
- Cydlynu'r gwaith o gasglu data, monitro ac adolygu tystiolaeth
- Cefnogi awdurdodau cynllunio lleol i fodloni gofynion cydymffurfio Ardal Cadwraeth Arbennig
Hwyluso cydweithredu strategol ar draws sectorau a ffiniau gweinyddol
Grwpiau Cynghori Technegol
Mae pob Bwrdd Rheoli Maetholion yn cael ei gefnogi gan Grŵp Cynghori Technegol sy'n tynnu ar arbenigedd o bob sector perthnasol. Mae'r Grŵp Cynghori Technegol yn cynnwys tri gweithgor pwrpasol:
- Amaethyddiaeth – yn canolbwyntio ar ddefnydd tir, rheoli maetholion, a lliniaru graddfa fferm
- Monitro – cefnogi monitro ansawdd dŵr ledled y dalgylch ac integreiddio data
- Gwyddoniaeth Dinasyddion – galluogi a chydlynu monitro a arweinir gan wirfoddolwyr ac ymgysylltu lleol
Mae'r grwpiau hyn yn sicrhau bod penderfyniadau'r Byrddau yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu cyflawni, a bod trigolion lleol yn gwybod amdanyn nhw.
Dangosfwrdd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
Mae'r Byrddau Rheoli Maetholion yn cynnal dangosfwrdd System Gwybodaeth Ddaearyddol byw, rhyngweithiol sy'n mapio pwysau maetholion, cyfleoedd lliniaru, a meysydd blaenoriaeth ledled y rhanbarth. Mae'r offeryn hwn yn cefnogi penderfyniadau cynllunio, targedu buddsoddiad, ac olrhain cynnydd tryloyw.
I weld y dangosfwrdd a dod i wybod mwy am y Byrddau, ewch i: www.wwnmb.cymru
Cymryd Rhan
I holi am gymryd rhan mewn Grŵp Cynghori Technegol neu'r Grŵp Rhanddeiliaid Afon rhanbarthol, cysylltwch â:
crichards@sirgar.gov.uk – Swyddog Cymorth Bwrdd Rheoli Maetholion