Rheoli Maetholion mewn Cynllunio a Datblygu
Yn yr adran hon
Cyfrifiannell Cymru
Mae Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion Cymru Gyfan yn offeryn am ddim ar gyfer asesu effaith debygol cynigion datblygu ar faetholion. Mae'n helpu ymgeiswyr i wneud y canlynol:
- Nodi a oes angen niwtraliaeth maetholion
- Cyfrifo cyfanswm llwyth maetholion mewn kg / bl
- Cynllunio mesurau lliniaru priodol yn seiliedig ar fanylion y safle
Rydyn ni'n argymell defnyddio'r offeryn hwn. Defnyddiwch y gyfrifiannell os yw eich datblygiad yn:
- Gorwedd o fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig
- Cynyddu rhyddhau i waith trin dŵr gwastraff sy’n draenio i Ardal Cadwraeth Arbennig
- Cynyddu arhosiad dros nos neu ymwelwyr/gweithwyr o'r tu allan i'r dalgylch
Adnoddau ategol:
Mesurau Lliniaru
Rhaid i bob Mesur Lliniaru:
- Fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
- Fod yn rhagofalus mewn rhagdybiaethau lleihau maetholion
- Fod yn effeithiol y tu hwnt i amheuaeth wyddonol resymol
- Fod wedi'i sicrhau yn gyfreithiol am byth (80–125 mlynedd)
- Cynnal a monitro dros amser
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno:
- Manylion sut mae'r mesur yn atal effeithiau andwyol Ardal Cadwraeth Arbennig
- Cyfrifiadau niwtraliaeth maetholion
- Cynlluniau gweithredu a rolau cyflawni
- Cyfrifoldebau cynnal a chadw
- Strategaeth fonitro
Gweler Cyngor Cynllunio Ffosffad Cyfoeth Naturiol Cymru a'n canllawiau lleol am ofynion llawn.
Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi datblygwyr a dod o hyd i ffyrdd ymarferol, cyflym a theg o ddatgloi datblygu cynaliadwy mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt.