Gofal yn y cartref
Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023
Os ydych chi'n cael trafferth i ofalu am eich gofal personol yn y cartref ac nad oes neb arall sy'n barod i'ch helpu chi. Yna efallai y gallech gael help gennym ni. Mae'r Gwasanaethau Cartref, a elwir hefyd yn ofal cartref, yn darparu gofal ymarferol neu bersonol i rywun yn eu cartref eu hunain. Efallai y byddwn yn gallu helpu gyda rhai neu'r cyfan o'r canlynol:
- Ymolchi a gwisgo
- Codi yn y bore a mynd i'r gwely yn y nos
- Paratoi prydau a help i fwyta
- Mynd i'r toiled
- Gwaith tŷ
Os ydych yn teimlo eich bod angen gofal a chymorth, y cam cyntaf yw gofyn i ni asesu eich anghenion. Mae gan bawb hawl i gael asesiad o'u hanghenion a gallwn ddarparu gwasanaeth i chi os ydych yn bodloni'r meini prawf y cytunwyd arnynt.