Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin (CICES)

Mae Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin, sydd wedi’i ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn darparu offer i’ch galluogi i barhau â’ch gweithgareddau bywyd bob dydd ac i fod yn annibynnol gartref.   Mae enghreifftiau o bethau y gall eu darparu yn cynnwys y canlynol:

  • seddi toiled a chomodau
  • teclynnau codi celfi
  • teclynnau codi
  • gwelyau sy’n proffilio
  • matresi gofal sy’n lleihau pwysau

Rydym yn cefnogi oedolion a phlant ag angen a aseswyd yn Sir Gaerfyrddin.

Er mwyn i chi gael yr offer cywir, bydd yn rhaid i weithiwr iechyd neu weithiwr cymdeithasol proffesiynol asesu eich anghenion.  Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael presgripsiwn ar gyfer offer.

Os ydych wedi bod yn yr ysbyty, byddwch yn cael eich asesu cyn i chi gael eich rhyddhau a bydd yr offer yn cael ei ragnodi a’i anfon i’ch cartref.

Os ydych yn eich cartref, bydd angen un o’r gweithwyr proffesiynol canlynol i’ch asesu a pharatoi presgripsiwn ar gyfer offer cymunedol:

  • Nyrs ardal / gymunedol sy’n gysylltiedig â’ch practis meddyg teulu
  • Therapydd galwedigaethol
  • Ffisiotherapydd
  • Gweithiwr iechyd neu weithiwr gofal cymdeithasol arall sy’n asesydd y gellir ymddiried ynddo sy’n gofalu amdanoch chi

I gael asesiad gan y gwasanaeth gofal cymdeithasol, bydd angen i chi ofyn am asesiad.

Gwneud Cais am Asesiad

Gallwch ddysgu mwy am sut i gael cymorth a beth yn digwydd gyda asesiad yma:

Sut i gael help – Cyngor Sir Caerfyrddin

Os ydych wedi cael presgripsiwn o offer, byddwch yn gallu gweld yr eitemau hyn yn ein Canolfan Byw'n Annibynnol, trwy apwyntiad yn unig.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma:

Canolfan Byw'n Annibynnol

Darperir yr holl offer yn rhad ac am ddim i’r bobl hynny yr ystyrir bod anghenion ganddynt ar ôl iddynt gael eu hasesu.

Gellir defnyddio’r offer am gyhyd ag y bo angen, ond mae’r offer yn parhau i fod yn eiddo i CICES, ac mae’n rhaid ei ddychwelyd pan nad oes ei angen mwyach.

Lle bo modd, rydym yn annog dychwelyd unrhyw offer bach yn syth i’r storfa.

Ar gyfer offer mwy, neu os na allwch ddychwelyd unrhyw offer ar eich pen eich hun, cysylltwch â’r swyddfa ar 01554 744359, a gellir trefnu casgliad o’ch tŷ. 

Nid yw CICES yn darparu cadeiriau olwyn, a dylid eu dychwelyd at y darparwr gwreiddiol. 

Dylid dychwelyd ffyn cerdded a baglau a gyflenwir gan y GIG i'r adran neu'r ward lle darparwyd.

During office hours repairs can be arranged by contacting the Community Equipment Office on 01554 744359.

For emergency out of hours breakdown and repairs to beds, hoists or other electrical equipment provided by CICES please contact Drive DeVilbiss Sidhil on 01422 233136. 

Please note that stair lifts and ceiling track hoists are not fitted by, or the responsibility of CICES.