Cynorthwywyr Personol
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2025
Beth yw Cynorthwyydd Personol?
Gellir cyflogi Cynorthwyydd Personol gan ddefnyddio arian Taliad Uniongyrchol i helpu i gefnogi a galluogi dinasyddion. Gall eich rôl fod yn amrywiol, dyma rai syniadau yn unig o’r math o gymorth y gellid bod ei angen:
- Cymorth i gael mynediad at wasanaethau e.e. gweithgareddau hamdden a chymdeithasol
- Hyrwyddo annibyniaeth
- Cymorth i baratoi prydau bwyd a gwneud tasgau cartref
- Cael mynediad at gyfleusterau a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
Nod y rôl yw cefnogi dinasyddion i gyflawni eu nodau.
Sut mae’n gweithio?
Mae dinasyddion sydd â Thaliadau Uniongyrchol yn cael dewis recriwtio Cynorthwywyr Personol. Mae hyn yn golygu y bydd y dinasyddion sy'n dewis y trefniant hwn yn eich cyflogi. Mae ganddynt yr un cyfrifoldebau ag unrhyw gyflogwr arall. Byddant hefyd yn defnyddio darparwr cyflogres i sicrhau bod eich Tâl wrth Weithio yn gywir ac yn cydymffurfio â CThEM.
Gallech benderfynu dod ynghyd gydag eraill sy'n dymuno darparu cefnogaeth i bobl drwy greu cydweithrediaeth o Gynorthwywyr Personol. Drwy weithio fel hyn gallwch gynnig cefnogaeth i'ch gilydd, rhannu syniadau a manylion gweithgareddau lleol, creu cyfleoedd cymdeithasol newydd a chyfnewid syniadau ynghylch cefnogi pobl.
Beth yw’r manteision?
Mae bod yn gyflogedig yn golygu y byddwch yn cael budd unrhyw weithiwr arall, megis hawl i wyliau blynyddol, absenoldeb mamolaeth ac absenoldeb salwch.
Yn aml mae hyblygrwydd gyda rolau o'r fath, mae'r hyblygrwydd hwn yn gweithio'r ddwy ffordd.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gael mynediad at hyfforddiant a chymwysterau i hybu eich dysgu a'ch gwybodaeth chi eich hun.
Byddwch mewn rôl werth chweil, yn helpu eraill i aros mor annibynnol â phosibl a chynorthwyo gydag unigrwydd.
Beth os ydw i wedi bod allan o waith?
Yn gyntaf, nid yw pob dinesydd yn chwilio am Gynorthwyydd Personol sydd â phrofiad ffurfiol mewn rolau tebyg. Y tebygolrwydd yw eich bod wedi cefnogi rhywun yn eich bywyd eich hun ac mae hyn ar ei ben ei hun yn rhoi profiad y gall eraill elwa ohono.
Mae hyfforddiant ar gael ac yn cael ei annog yn gryf. Efallai y bydd rhywfaint o hyfforddiant yn orfodol ond mae cyfleoedd i gyflawni hyn cyn dechrau neu wrth wneud eich rôl.
Dim ond am ychydig oriau'r wythnos y mae ar rai Dinasyddion angen cymorth, felly gallai hyn fod o fudd i chi a'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Mae yna sefydliadau a all hefyd eich cynorthwyo yn ôl i waith gan helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch hyder i fynd yn ôl i’r byd gwaith eto.
Cyflogi Cynorthwyydd Personol (CP)
Os byddwch yn dewis cyflogi Cynorthwyydd Personol gan ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol, mae yna ychydig o bethau i’w hystyried. Mae yna ofynion cyfreithiol i lynu wrthynt ynghyd ag arferion da cyffredinol megis:
- Cadw cofnodion
- Defnyddio’r gyflogres a darparu pensiwn lle bo’n berthnasol
- Darparu tâl gwyliau a chadw cofnod o hyn
- Sicrhau bod yswiriant cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus yn ei le
- Ymarfer recriwtio diogel, e.e. gwiriadau hawl i weithio a gwiriadau’r gwasanaeth datgelu a gwahardd (DBS)
- Iechyd a diogelwch
- Mynediad at hyfforddiant
- Darparu contract cyflogaeth
Fodd bynnag, gall y Swyddogion Cymorth Taliadau Uniongyrchol roi'r cymorth a'r wybodaeth angenrheidiol i chi mewn perthynas â phob un o'r uchod. Nid chi yw’r unig un sy’n ymgymryd â’r rôl newydd hon; rydym ni yma i’ch cefnogi a’ch arwain i ddod yn gyflogwr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyflogi cynorthwyydd personol drwy gysylltu â’r tîm Taliadau Uniongyrchol ar 01267 242324.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl y cyflogwr ynghyd ag astudiaethau achos ar ganolbwynt Gofal Cymdeithasol Cymru.
Hyfforddiant
Bydd angen i chi ystyried pa hyfforddiant y gall fod ar eich Cynorthwyydd Personol ei angen Cewch drafod anghenion hyfforddi gyda’r Tîm Taliadau Uniongyrchol.
Swyddi Gwag Cynorthwywyr Personol
Fel arall, cewch gysylltu â’r tîm Taliadau Uniongyrchol i drafod swyddi gwag presennol ar 01267 242324 neu drwy’r e-bost DPPAApplications@carmarthenshire.gov.uk.