Technoleg Gynorthwyol / larymau personol

Mae Llesiant Delta yn darparu ystod o larymau personol a thechnoleg gynorthwyol sy'n gallu eich helpu i barhau i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref neu pan fyddwch allan ar hyd y lle. 

Mae ei wasanaeth llinell gymorth yn rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth iawn pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch, a hynny'n hawdd ac yn gyflym trwy wasgu botwm, gan roi tawelwch meddwl i chi a'ch anwyliaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. 

Mae'r larwm llinell gymorth yn hawdd ei ddefnyddio a gellir ei wisgo o amgylch y gwddf neu o amgylch yr arddwrn. Os ydych yn teimlo'n sâl, yn cael codwm neu fod angen unrhyw gymorth brys arall arnoch, gwasgwch y botwm coch i seinio'r larwm a chysylltu â'n canolfan fonitro bwrpasol. 

Mae hyn yn rhybuddio aelod o'r tîm sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, a fydd yn eich helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol, megis cysylltu â pherthynas, gofalwr neu'r gwasanaethau brys. 

Mae gwasanaeth Delta i Chi, Llesiant Delta yn cynnig ffordd hyblyg, fforddiadwy i chi neu'ch anwyliaid ddewis y lefel o gefnogaeth llinell gymorth sy'n iawn i chi. Dewiswch gynllun sy'n diwallu eich anghenion: 

  • Delta yn y Cartref: Larwm cartref personol syml – pwyswch y botwm ac mae ein tîm 24/7 yn ateb ar unwaith; neu
  • Delta Unrhyw Le: Larwm personol gydag offeryn canfod cwympo a GPS sy'n gweithio y tu mewn a'r tu allan i'r cartref i gael help ble bynnag yr ydych chi 

Elfennau ychwanegol: 

  • Delta Sgwrsio: Galwadau cyfeillgar i wirio llesiant a sicrhau eich bod yn ddiogel 
  • Delta ar ei Ffordd: Cymorth personol yn eich cartref ar ôl cwympo neu mewn argyfwng 

Gall Llesiant Delta eich helpu i drawsnewid y ffordd rydych chi'n rheoli eich iechyd a'ch llesiant, gan eich cefnogi i fyw eich bywyd mewn ffordd sy'n iawn i chi. Gall eich cefnogi os oes gennych bryderon iechyd, os ydych chi'n ofalwr sy'n gofalu am rywun arall, neu os ydych chi eisiau mwy o sicrwydd a thawelwch meddwl. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Lesiant Delta neu cysylltwch â'r tîm cyfeillgar o ymgynghorwyr drwy ffonio 0300 333 2222.