Ailalluogi gartref

Mae ailalluogi yn wasanaeth tymor byr sy’n helpu pobl i adennill eu hyder, eu sgiliau a’u hannibyniaeth ar ôl salwch, anaf, neu gyfnod pan fo tasgau dyddiol wedi dod yn fwy anodd. Mae ein tîm yn eich cefnogi i wneud cymaint ag y gallwch drosoch eich hun, yn ddiogel ac yn annibynnol.