Gwasanaethau Ailalluogi

Mae Gwasanaethau Ailalluogi Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth tymor byr, wedi’i dargedu, i helpu pobl i adennill eu hannibyniaeth ar ôl salwch, anaf neu arhosiad yn yr ysbyty. Mae ein timau yn gweithio gydag unigolion i ailadeiladu hyder a sgiliau byw bob dydd er mwyn iddynt allu dychwelyd adref yn ddiogel a pharhau i fyw mor annibynnol â phosibl. Gellir cynnig cymorth yn y cartref neu yn ein huned ailalluogi breswyl benodol, Tŷ Pili Pala, lle mae staff a therapyddion yn gweithio gyda’i gilydd i adolygu cynnydd a chynllunio ar gyfer dychwelyd adref mewn modd amserol. Y nod yw annog pobl i wneud cymaint ag y gallant dros eu hunain, gyda’r gefnogaeth briodol yn ei lle i’w helpu i gyflawni eu nodau personol.