Ailalluogi Preswyl (Tŷ Pili Pala)

Mae Tŷ Pili Pala yn uned ailalluogi tymor byr, sy'n canolbwyntio ar nodau.
Mae'n rhan o Gartref Gofal Llys y Bryn yn Llanelli ond mae'n gweithredu ar wahân i'r prif gartref.
 

Mae tîm staff ymroddedig yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol. Mae'r tîm hwn yn cwrdd bob wythnos i wneud y canlynol:

  • Adolygu eich cynnydd
  • Edrych ar ba gymorth sydd ei angen o hyd
  • Cynllunio i chi ddychwelyd adref yn ddiogel

Y nod yw eich helpu i adennill neu gryfhau eich sgiliau, neu ddysgu ffyrdd newydd o ymdopi â thasgau dyddiol, fel y gallwch chi ddychwelyd adref yn annibynnol.