Fforwm Mynediad Lleol

Yn ôl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, caiff 'fforymau mynediad lleol' eu sefydlu ledled Cymru a Lloegr i roi cyngor i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill ar wella mynediad y cyhoedd i dir ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau'r ardal.  

Mae pob fforwm yn cynnwys rhwng 12 ac 20 o unigolion o blith y gymuned leol ac maent yn cynrychioli trawstoriad eang o ddiddordebau. Rydym wedi sefydlu fforwm i gwmpasu'r Sir gyfan heblaw am ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n rhan o Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Fforwm yn cyfarfod sawl gwaith bob blwyddyn i ystyried amrywiaeth o bynciau mynediad, er enghraifft:

  • Bydd mynediad hamdden o bob math yn cael ei ystyried gan y Fforwm gan gynnwys cerdded, marchogaeth, beicio a gyrru oddi ar y ffordd.
  • Adolygu strategaethau hamdden a mynediad
  • Monitro 'cynlluniau gwella hawliau tramwy'
  • Adolygu mapiau o 'wlad agored' mewn cysylltiad â gwella mynediad cyhoeddus i 'wlad agored'.

Cyfarfod FfMLl Nesaf: 17 Gorffennaf 2025 – Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Tre Ioan

Cyswllt:

Caroline Ferguson
Ysgrifenyddiaeth Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin
Parc Coetir y Mynydd Mawr 
Heol Hirwaun Olau
Y Tymbl
Llanelli
SA14 6HU

E-bost: PROW@sirgar.gov.uk