Ein Dogfen y Mis
Diweddarwyd y dudalen ar: 28/03/2025
Bob mis byddwn yn dangos un o blith nifer o uchafbwyntiau sy'n rhan o'n casgliad archifau.
Teitl: Llyfr Lloffion Atgofion Rhyfel YWCA Llanelli, 1940-1949
Cyfeirnod: YWCA/5/1
Yn ystod blynyddoedd y rhyfel roedd YWCA Llanelli, yn 14 Stryd Mina, yn darparu gwasanaethau i wahanol grwpiau o fenywod. Roedd mamau a oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi a'u plant ifanc yn ymwelwyr rheolaidd â Stryd Mina, lle roedd y plant yn chwarae tra gallai mamau gael paned o de a bisged am geiniog a "threulio llawer o oriau hapus gyda'i gilydd... ac anghofio'r profiad ofnadwy o golli cartrefi ac anwyliaid". Ymwelodd llawer o Awyrlu Atodol y Menywod (WAAFS), Gwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS) ac aelodau o Fyddin Dir y Merched hefyd â YWCA Llanelli a chymryd yr amser i lofnodi'r llyfr lloffion o atgofion o gyfnod y rhyfel gyda negeseuon o ddiolch am y caredigrwydd a gawsant. Roedd croeso i filwyr gwrywaidd hefyd ac mae yna lythyron o ddiolch gan Awyrfilwyr 1af Belgaidd.
Mae'r llyfr lloffion yn llawn ffotograffau a negeseuon gan y rheiny a fu'n defnyddio'r clwb, a ddisgrifiwyd fel "Cartref oddi cartref, atgofion hapus o hafan o orffwys".
Mae Miss Bowen yn cael ei chrybwyll trwy gydol y llyfr lloffion gan y cannoedd o ymwelwyr a'i llofnododd. Ganwyd Florence Alleyne Bowen ar 22 Mawrth 1881. Roedd hi'n byw gyda'i theulu yn Llanelli a mynychodd ysgol i ferched yn Taunton cyn dychwelyd adref i 58 Heol y Frenhines Fictoria, Llanelli erbyn 1901. Roedd Miss Bowen yn dal i fyw yno ar ddechrau'r rhyfel ym 1939, pryd yr oedd hi eisoes yn weithgar ym mudiad YWCA Llanelli. Roedd Miss Bowen yn ysgrifennydd cyffredinol yr YWCA yn Llanelli am 27 mlynedd. Ymddeolodd ym 1952, pryd y cyflwynwyd cloc teithio a siec iddi fel arwydd o'r gwerthfawrogiad gan aelodau a chyn-aelodau'r gymdeithas. Bu farw ar 17 Tachwedd 1964.
Teitl: Pils gweithio ac elïoedd ar gyfer cosfeydd: cofnodion E. B. Jones a'i Fab
Cyfeirnod: DB144/1-2
Yn ddiweddar cafodd Archifau Sir Gaerfyrddin ddwy gyfrol ddiddorol oedd yn perthyn i E. B. Jones a'i Fab, Fferyllwyr, 16 Heol Awst, Caerfyrddin. Ganed Edward Bowen Jones ar 2 Chwefror 1810 a'i fedyddio yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin ar 5 Mawrth 1810. Ei rieni oedd Daniel a Maria Jones. Priododd Ann Nicholls yn 1833.
Roedd Edward yn fferyllydd ac roedd ganddo siop yn 16 Heol Awst, Caerfyrddin rhwng 1841 a'i farwolaeth yn 1879. Roedd Charles William Jones, ei fab, hefyd yn fferyllydd ac roedd ganddo safle yn 102 Heol Awst yn 1871. Bu farw Edward yn 69 oed yn 1879 ac mae wedi'i gladdu yn Eglwys y Plwyf, Abergwili.
Mae'r casgliad yn cynnwys dwy gyfrol. Roedd y cyntaf yn perthyn i E. B Jones ac mae'n cynnwys copi o ryseitiau gan wahanol feddygon a ffariars yn yr ardal. Roedd David Owen yn ffermio 50 erw yn Nantcwmgwili ym mhlwyf Llanllawddog. Roedd ei ryseitiau'n cynnwys moddion cryfhau, pils gweithio a "pils misol i fenywod" a oedd yn cynnwys y cynhwysion myrr ac alwys. Roedd Lewis David o dafarn y Pelican, Heol y Bont yn darparu ryseitiau ar gyfer twymyn, diffyg traul a gwynegon. Roedd Thomas Davies o Bant-y-crug yn cynnig balm ar gyfer cosfeydd ac elïoedd ar gyfer cleisiau.
Roedd y gyfrol arall yn perthyn i Charles William Jones, sef mab Edward. Llyfr arian parod yw hwn ac mae'n cofnodi ei gyfrifon dyddiol a blynyddol. Mae'r gyfrol yn cwmpasu'r cyfnod 1880-1886 pan oedd Charles yn gweithio yn 102 Heol Awst.
Mae'r ddwy gyfrol ar gael i'w gweld yn ein Hystafell Chwilio yn Archifau Sir Gaerfyrddin.
Teitl: The Goblin’s Moonlight Walk
Cyfeirnodau: SG55
Wedi'i ysgrifennu a'i ddarlunio gan Josepha Heath Gulston o Blasty Derwydd, Llandeilo, dan y ffugenw "Talbot Gwynne", argraffwyd The Goblin’s Moonlight Walk yn breifat yn 1844 gan y cyhoeddwr J. Izzard o Lundain.
Yn stori i blant, mae'r llyfr yn cynnwys 9 tudalen (gan gynnwys 6 lithograff du a gwyn). Mae Archifau Sir Gaerfyrddin yn cadw 5 copi, sy'n amrywio o ran lliw, gan gynnwys cloriau pinc, gwyrdd, llwydfelyn a glas.
Mae'r stori ei hun am goblyn direidus (dyn bach gyda phen cath) sy'n plagio'r melinydd y mae'n dod o hyd iddo ar ei deithiau yng ngolau'r lleuad. Mae'n ymddangos mai neges y stori yw bod heddwch yn fyrhoedlog a bod rhywbeth bob amser ar y gorwel - mae'n ymwneud a sut rydyn ni'n ymaddasu i'r sefyllfa.
Teitl: Dorothy Edwards Thomas: Nodiadau Gwniadwaith, 1916
Cyfeirnodau: CDX1226/2/1
I ddathlu dychweliad The Great British Sewing Bee, Dogfen y Mis ar gyfer mis hwn yw llyfr o nodiadau gwniadwaith gan Dorothy Edwards Thomas a luniwyd ym 1916.
Ganed Dorothy ym 1898 ac roedd hi'n byw yn 12 Sgwâr y Coleg, Llanelli rhwng 1901 a 1911 gyda'i theulu.
Mae'r gyfrol yn cynnwys manylion am wahanol ffabrigau; disgrifiad o bob un, eu defnydd, lled y ffabrig a'u pris. Er enghraifft, disgrifir gwlanen Cymreig fel 'plaen neu liw - gwyrddlas golau, wedi'i gwehyddu'n llac, edau anwastad, heb ei ail am wrthsefyll traul'. Y prif ddefnydd oedd ar gyfer gwneud crysau dynion. Y gost ym 1916 oedd 1 swllt 6 cheiniog fesul llathen.
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys drafftiau patrymau ar gyfer eitemau dillad nodweddiadol fel ffrog pinaffor, oferôls, sgert a chamisol. Yn ogystal â gwahanol dechnegau gwnïo gan gynnwys tyllau botymau, semau, tyciau, brodwaith a chrychu.
Teitl: A Humorous Tale of Old Egypt
Cyfeirnodau: CA22
Wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio yn y flwyddyn 1315 OC gan C. M. Seyppel – peintiwr portreadau, digrifluniwr ac awdur o'r Almaen – mae 'Sharp, Sharper, Sharpest: A Humorous Tale of Old Egypt' yn adrodd hanes y pharaoh ffuglennol Rhampsinit III a'i ymgais i amddiffyn ei gasgliad enfawr o drysorau.
Wedi'i ysgrifennu yn iaith Saesneg dwy fymi o'r hen linach, mae'r dychan hwn mewn arddull comig. I ychwanegu at ei arddull, mae'r papur wedi'i rwygo a'i liwio'n fwriadol i gyfleu henaint, gan gysylltu â'r syniad mai adroddiad hanesyddol yw hwn, nid ffrwyth dychymyg diweddar (oddeutu 1882).
Wedi'i argraffu gan Felix Bagel, Düsseldorf gyda'r byrddau gwreiddiol â chefn brethyn, dyma ailadroddiad cynnar anghyffredin a diddorol o gomig dychanol, fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y gellir dehongli rhai o'r delweddau fel rhai dadleuol erbyn hyn.
Teitl: Ar rolyn o bapur!
Cyfeirnodau: D/FJ/8
Wedi'i hysgrifennu ar gefn rholyn o bapur lapio plant yw'r hyn sy'n ymddangos fel coeden teulu Powell o Maesgwynne, Llanboidy, Sir Gaerfyrddin.
Gan ddechrau gyda Rice Powell o Lanbedr Felffre (Sir Benfro), yna ymlaen i'r Parch. Timothy Powell (1653-1719), ac yn gorffen gyda Sarah a Richard Vaughan (oddeutu 1942), mae'n dangos nad oes angen unrhyw becyn uwch-dechnoleg arnoch i ddechrau ar hanes eich teulu!
Teitl: Tîm Achub Glofeydd, Glofa Tirydail
Cyfeirnodau: CDP/4/2/1
Nodwedd y mis hwn yw ffotograff o Dîm Achub Glofa Tirydail.
Gwaith arbenigol achubwyr glofa oedd achub glowyr ac eraill a gafodd eu dal neu eu hanafu mewn pyllau tanddaearol oherwydd damweiniau mwyngloddio.
Roedd y dynion dewr hyn a gyflawnodd yr achub yn lowyr a hyfforddwyd yn arbennig a oedd yn adnabod y pyllau glo ac yn gyfarwydd â gweithio dan ddaear. Byddent wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio offer anadlu ac offer achub arbenigol a darparu cymorth cyntaf.
Roedd eu gwaith yn hynod beryglus, ac yn heriol yn gorfforol ac yn feddyliol.
Teitl: Banc Caerfyrddin
Cyfeirnodau: PA/130/5/3
Mae erthygl y mis hwn yn ddogfen a ddefnyddiwyd mewn achos rhwng Waters a Llewellyn.
Daliwyd yr achos ddiwedd 1826 ac ymddengys ei fod yn ymwneud â diffygion canfyddedig Banc Caerfyrddin a sefydlwyd gan bartneriaeth o'r enw Waters, Jones & Co..
Er nad yw union fanylion yr achos yn hysbys, efallai roedd o ganlyniad o'r argyfwng bancio a elwir y 'Panig o 1825'. Serch hynny, mae'r ddogfen yn hynod ddiddorol oherwydd ei bod yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o'r geiriau Cymraeg a lefarodd y Diffynnydd, Mr Llewellyn i rywun a elwir Henry Jones.
Daeth y banc yn fethdalwr yn 1832.
Teitl: Heriau Cariad
Cyfeirnodau: PD4/1/3/5/1 – 9
Mae eitem y mis hwn yn cynnwys cyfres o lythyrau a ysgrifennwyd gan James Buckley at Elizabeth Wedge, Pen-y-fai, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Yn y llythyrau mae James yn mynegi ei gariad at Elisabeth tra ar yr un pryd yn datgelu ei bryder ynghylch a fydd ei thad yn rhoi caniatâd iddynt briodi. Yn PD4/1/3/5/7 mae'n ysgrifennu:
“Rwy’n dy garu’n ormodol i roi’r ffidil yn y to heb frwydr. Y mae eich tad yn awr yn dechreu rhoddi ystyriaeth i'r pwnc. Mae wedi dweud wrth fy nhad y bydd yn siarad â chi i wybod eich meddwl. Bydd popeth yn iawn os mynegwch eich teimladau amdanaf i wrth eich tad.”
Dengys y cofnodion fod ei ddyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed – priodwyd James ac Elizabeth ar y 18fed o Fawrth 1834 yn Eglwys y Plwyf Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Teitl: Nadolig Llawn bawb!
Ffynhonnell: I'n paratoi ni ar gyfer y Nadolig, mae dogfennau'r mis hwn yn adrodd hanes Mary Christmas
Dathlodd John ac Elizabeth Christmas Nadolig yn gynnar ym 1838 pan anwyd eu merch Mary. Cafodd Mary Christmas ei bedyddio yn Eglwys Sant Dingat ar 9 Rhagfyr 1838. Roedd y teulu'n byw ym Manc yr Eglwys, Llanymddyfri rhwng 1841 a 1851. Erbyn 1861 roedd Mary yn ymweld â'r teulu Davies yng Nglan Dulas fach ger Capel Taliaris, Llandeilo Fawr ac yn gweithio fel gwniadwraig.
Ar 13 Medi 1867, priododd Mary Christmas David Jenkins a daeth yn Mary Jenkins. Parhaodd y cwpl i fyw yn Llanymddyfri a chawsant saith o blant.
Mae'r llun yn dangos bedydd Mary Christmas ym 1838; y teulu Christmas yn byw ym Manc yr Eglwys, Llanymddyfri ym 1851; map o Lanymddyfri ym 1886; a phriodas Mary Christmas a David Jenkins ym 1867.
Teitl: Anatomeg Darluniadol
Cyfeirnodau: Heb eu catalogio
Mae erthygl y mis hwn yn canolbwyntio ar y llawysgrif anorffenedig “Anatomeg y Ffigwr Dynol, Ceffylau a Chŵn gyda Chyflwyniad yn rhoi golwg fer o Anatomeg Darluniadol”, gan Eliza Gulston.
Yn dyddio o 1796, gellid dadlau bod pwnc anatomeg a’r corff dynol yn amhriodol ar gyfer astudiaeth fenywaidd, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod Eliza wedi etifeddu ei hangerdd dros y celfyddydau a’r gwyddorau oddi wrth ei mam, Elizabeth Bridgetta Gulston (Stepney gynt) – arlunydd, seryddwr, a bardd, sydd hefyd yn ymddangos i fod wedi esgeuluso normau cymdeithasol yn ymwneud â merched y cyfnod ac yn lle hynny dilyn ei angerddion ei hun.
Title: Map o Alltyknap, Caerfyrddin
Reference Numbers: CTC/1/9/2/4/3
Mae eitem y mis hwn yn un o gyfres o fapiau gwych a ddarganfuwyd yng nghofnodion Cyngor Tref Caerfyrddin. Mae’r enghraifft liwgar hon yn dangos tir ym mhlwyf San Pedr a gludwyd i Charles Williams gan Fwrdeistref Caerfyrddin ym 1765.
Bryn yn Nhref Ioan, Caerfyrddin yw Allt-y-Cnap – allwch chi ddod o hyd i Blasty Ystrad?
Teitl: Teithiau Hapus!
Cyfeirnod: Derwydd SG44
Mae'r albwm ffotograffau addurnedig hwn yn llawn delweddau sy'n dogfennu taith unigolyn ledled yr Aifft a'r Dwyrain Agos i bob golwg.
Wedi'i ddyddio tua 1880, mae'n cynnwys delweddau o safleoedd hanesyddol fel teml Philae yn Aswan, yr Aifft, cyn ei datgymalu a'i hadleoli i Ynys Agilkia yn ogystal â safleoedd enwog eraill fel Citadel Cairo, Gerddi Azbakiya a llwyfandir Giza i enwi ond ychydig!
Teitl: Monsieur Henri Salmet
Cyfeirnod: CDX/1157
Albwm llofnodion sy’n perthyn i ferch ifanc o’r enw Gwyneth yw dogfen y mis hwn. Yn anffodus, ni wyddom gyfenw Gwyneth ond mae’r ddogfen hynod ddiddorol hon yn cynnwys cerdd fer wedi’i chysegru i Henri Salmet.
Mae’r gerdd, a ysgrifennwyd cyn iddo hedfan o Abertawe i Lanelly, yn gofyn i’r awyrennwr enwog lofnodi ei halbwm, rhywbeth a wnaeth yn briodol yn dilyn glaniad ei awyren mono Bleriot 50 marchnerth yn y Strade ddydd Sadwrn 25 Mai 1912.
Teitl: "The Flying Welshman"
Rhifau Cyfeirnod: CDX/1145
Mae'r casgliad hwn o ddeunydd a gafodd ei gatalogio’n ddiweddar yn ymwneud â John Godfrey Parry-Thomas, "The Flying Welshman" – y gyrrwr rasio ceir a gafodd ddamwain angheuol wrth fynd ar drywydd record cyflymder y byd dros dir ym Mhentywyn ym mis Mawrth 1927.
Mae'n cynnwys darlun o Draeth Pentywyn ar ddiwrnod y ras yn nodi'r mannau lle bu damwain angheuol 'Babs' a'r gyrrwr Parry-Thomas, llungopi o ddatganiadau cwest Parry-Thomas, a llythyr yn cynnwys manylion y cwest a gynhaliwyd yn y Long Room Beach Hotel, Pentywyn y diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Gyda llaw, claddwyd 'Babs', y car rasio, yn y tywod ym Mhentywyn yn fuan wedi i'r cwest gael ei gynnal cyn ei ailddarganfod eto ym 1969. Ers hynny mae wedi cael ei adfer ac mae'n cael ei arddangos yn Amgueddfa Cyflymder, Pentywyn.
Teitl: Catalog o Hynafiaethau Dolau Cothy, 1919
Cyfeirnod: Heb ei gatalogio
Mae dogfen y mis hwn yn gopi o dudalen a gymerwyd o 'gatalog darluniadol o Hynafiaethau Dolau Cothy' a roddwyd i Glwb Maes Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin ym 1919. Mae'r ddogfen hyfryd hon yn cynnwys rhestr o erthyglau gyda nodiadau, ffotograffau, brasluniau, rhwbiadau, a seliau cwyr.
Cymerwyd y seliau yn y ddelwedd hon o argraffiadau a wnaed gan fodrwyau aur ac arian yn perthyn i Thomas Johnes, (1748 - 1816). Mae Thomas Johnes neu ‘Johnes yr Hafod’ yn fwyaf adnabyddus am ei ddatblygiad o Ystâd yr Hafod yng Ngheredigion.
Teitl: Chwedl Tylwyth Teg Calan Mai
Cyfeirnod: PD12/1/2
Wedi ei dynnu o "May-day: A Fairy Tale" gan A. S. Gulston, 1882, mae’r darluniad hardd hwn ond yn un o lawer sy’n darlunio golygfa hudolus.
Wedi'i gynhyrchu efallai ar gyfer ei blant ifanc, mae'r llyfr stori hwn yn anffodus yn anghyflawn. Roedd Alan Stepney Gulston o Dderwydd yn arlunydd amatur, yn deithiwr, yn awdur, a hyd yn oed yn Uchel Siryf Caerfyrddin am gyfnod! Bu farw yn 1919.