Croeso i Sir Gaerfyrddin – sy'n un o'r siroedd mwyaf diogel, mwyaf prydferth a mwyaf bywiog yng Nghymru. Yn aml caiff y sir ei disgrifio fel microcosm o Gymru; mae ganddi arfordir trawiadol, trefi marchnad hanesyddol a threfi ôl-ddiwydiannol bywiog sydd wedi'u hadfywio.
Mae'n parhau ymysg rhai o'r llefydd mwyaf diogel i fyw yn y wlad ac mae lefelau troseddau yn isel. Ymysg yr atyniadau yn y sir mae cae rasio Ffos Las, traethau Baner Las gan gynnwys traeth euraid Cefn Sidan sef yr hiraf yng Nghymru, nifer o gyrsiau golff, Stadiwm Parc y Scarlets, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a'r cyfleuster Denu Twristiaid ar lan y môr ym Mhentywyn.
Hefyd rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Canolfan Pentre Awel, y cyfleuster hamdden newydd a grëwyd yn ystod Cam 1 y prosiect uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd, wedi agor yn ddiweddar. Bydd y prosiect hwn yn creu swyddi a thai yn ogystal â chyfleusterau ymchwil feddygol a gofal iechyd o'r radd flaenaf.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, cymerwyd camau sylweddol ymlaen o ran cyflawni prosiectau adfywio i ddarparu buddion cynaliadwy i'r gymuned ehangach. Nod y prosiectau hyn yw adfywio a chefnogi twf economaidd yng nghanol y dref.
Mae gan ein Gwasanaethau Iechyd gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu modelau gofal newydd a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau ar draws gwasanaethau acíwt a chymunedol. Mae gennym dros 9,300 o dai sy'n eiddo i'r cyngor a thrwy reolaeth ariannol ddarbodus rydym bellach yn cynllunio i adeiladu rhagor o dai i fodloni'r angen am dai lleol ac arbenigol.
Mae ein timau ymroddedig o fewn Addysg yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i addysg gynhwysol o safon uchel a chyfleoedd ar gyfer twf. Yn Sir Gaerfyrddin, credwn fod buddsoddi yn ein pobl ifanc yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cymuned, ac rydym wedi ymrwymo i roi'r cymorth, yr arweiniad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i ffynnu.
I'r person cywir, mae hwn yn gyfle gwych o ran gyrfa. Rydym yn hynod uchelgeisiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a dyma'ch cyfle i ymgymryd â rôl arwain a fydd yn hanfodol i weld bwriadau da yn troi'n ganlyniadau gwych.
Am le gwych i fyw ynddo, i weithio ynddo, ac i ymweld ag ef, beth am Sir Gaerfyrddin!
Yn gywir,
Y Cynghorydd Glynog Davies
Yr Aelod Cabinet dros Addysg

Mae Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau mwyaf yng Nghymru ac mae'n ymfalchïo yn ei huchelgeisiau a'i gweledigaeth strategol feiddgar. Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn y Sir, mae cynnal ein henw rhagorol am ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion a bod yn gyflogwr o ddewis yn hynod bwysig i ni.
Mae'r byd wedi newid yn sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ond mae rhai pethau'n aros yr un fath. Cryfder mwyaf Cyngor Sir Caerfyrddin o hyd yw ei bobl. Rydym yn dal i weithio gyda'n gilydd ac yn gofalu am ein gilydd, gan ddod yn gryfach ac yn fwy gwydn nag erioed. Rydym yn dal i ymdrechu bob dydd i fod y Cyngor y mae ein cymunedau ei angen ac yn ei ddisgwyl. Eich gwaith chi yw ein helpu i ddefnyddio'r cryfderau hyn, gweld y cyfleoedd, a chanolbwyntio'n well i sicrhau y gall ein trigolion ffynnu. Pan rydym yn dweud ein bod am wneud rhagor i'n trigolion, rydym yn golygu hynny.
Mae ein hymroddiad i ragoriaeth addysgol a llesiant plant yn sail i bopeth a wnawn. Mae'r rôl hon wrth wraidd ein taith tuag at ragoriaeth, a byddwch yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Fel Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n uniongyrchol atebol i'r Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws portffolio amrywiol, gan gynnwys Cynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Rheoli Ymddygiad, Cymorth Ieuenctid, Hawliau Plant, Tlodi a Llesiant, Seicoleg Addysg, Plant sy’n Derbyn Gofal, Diogelu, Presenoldeb, Ymgysylltu â Theuluoedd, ac Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae hwn yn gyfle i ymuno ag uwch-dîm hynod gydweithredol a bod yn rhan o feddylfryd arloesol ar draws ein gwasanaethau amrywiol a chymhleth.
Fel uwch-arweinydd profiadol, byddwch yn hyrwyddo newid trawsnewidiol, yn nodi cyfleoedd, ac yn gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar atebion. Byddwch yn hyderus yn datrys problemau strategol ac yn sicrhau bod gwasanaethau cynhwysol o ansawdd uchel yn cael eu darparu sy’n meithrin meddyliau ifanc ac yn cefnogi teuluoedd.
Yn gywir,
Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden

O ran lleoliad, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig popeth. Mae mewn man delfrydol ar hyd coridor yr M4, gan gynnig mynediad cyfleus i ddinasoedd mawr fel Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Bryste, Birmingham a Llundain i’r dwyrain. Yn ogystal, mae cysylltiadau da i’r gorllewin drwy borthladdoedd Sir Benfro, gan hwyluso teithio i Iwerddon.
Rydym yn falch o’n harfordir helaeth, sy’n ymestyn o Gilfach Tywyn â golygfeydd o Benrhyn Gŵyr, ar draws milltiroedd o dywod euraidd a thraethau baner las, hyd at Bentywyn yn y gorllewin, sy’n enwog am ei dir gwastad a ddefnyddir ar gyfer rasio. Hefyd, mae ein cefn gwlad o fryniau a phantiau yn ymestyn at y ffin â Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn ogystal â chyrion gorllewinol ardal hyfryd Bannau Brycheiniog.
Fel un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, rydym wedi arwain rhaglen buddsoddi a datblygu uchelgeisiol sydd wedi hwyluso gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys stadia chwaraeon o’r radd flaenaf, megis Stadiwm Parc y Scarlets; cyrsiau golff rhagorol; a Chylchffordd Gaeedig Genedlaethol Pen-bre. Mae ein hatyniadau i ymwelwyr yn cynnwys canolfannau hamdden a theatrau, gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cartref Dylan Thomas, Marina Porth Tywyn, Parc Arfordir y Mileniwm, a’r cyfleuster denu twristiaid ar lan y môr ym Mhentywyn. Mae datblygiadau parhaus yn cynnwys Canolfan Pentre Awel, sydd eisoes yn cynnig cyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf, ac a fydd yn darparu ymchwil feddygol a gofal iechyd o safon fyd-eang, yr Hwb Iechyd a Llesiant unigryw a fydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd cyhoeddus, a Llwybr Dyffryn Tywi, prosiect cyffrous sy’n darparu llwybr di-draffig 16.7 milltir drwy un o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru. Felly
Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wirioneddol ddwyieithog, ac mae ganddi'r ail nifer uchaf o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg o blith holl siroedd Cymru (tua 40 y cant o’n 187,900 o drigolion, yn ôl Cyfrifiad 2021). Mae'r iaith yn rhan bwysig o'n hanes a'n diwylliant, a dyna pam rydym wedi ymrwymo'n gadarn i helpu pobl i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio ein Strategaeth Sgiliau Iaith i'n helpu i gyflawni Safonau'r Gymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cefnogol a hyblyg i ganiatáu i'n staff ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau. Os bydd angen, byddwn yn gweithio'n galed i'ch ysgogi a'ch ysbrydoli o ran eich sgiliau Cymraeg ac yn eich helpu i gyrraedd y lefel sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddarllen rhagor yma.
Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i'r profiad fod yn un gwerth chweil. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddion a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol. Edrychwch ar yr hyn rydym yn ei gynnig.
Crynhoir gweledigaeth y Cyngor yn y datganiad canlynol:
Datblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd: Un Cyngor; Un Weledigaeth; Un Llais
Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y canlynol: Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda); Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda), Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus), i foderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon (Ein Cyngor). Darllenwch ragor yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o ran adfywio'r sir, a fydd yn cynnwys creu swyddi newydd drwy chwe phrosiect trawsnewidiol mawr, gan ddarparu economi yn Sir Gaerfyrddin sydd ar 90% o lefel GVA cyfartalog y DU. Rydym yn un o bedwar awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3b, a bydd y Fargen Ddinesig yn creu 9,000 o swyddi dros gyfnod o 15 mlynedd. Bydd Sir Gaerfyrddin yn gweld manteision economaidd enfawr o ran seilwaith digidol, gweithgynhyrchu clyfar, ynni a llesiant. At hynny, mae ein cymunedau gwledig hefyd yn rhan annatod o'n twf lleol a bydd ymyriadau newydd cyffrous, megis y fenter Deg Tref, yn adfywio'r ardaloedd hyn.
Mae gweithio'n wahanol dros y pum mlynedd diwethaf wedi dysgu llawer i ni yn Sir Gaerfyrddin. Drwy fuddsoddi yn ein seilwaith digidol a defnyddio talentau ein gweithlu ymroddedig, rydym wedi profi y gallwn ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yn hyblyg, gan gynnwys gweithio o bell. Mae ein Canllawiau Gweithio Hybrid yn croesawu'r newid hwn ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd am fwynhau'r profiadau unigryw y gall Sir Gaerfyrddin eu cynnig wrth weithio mewn ffordd hyblyg a hybrid. Yn y rôl uwch hon, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gydbwyso'n fedrus fanteision gweithio hybrid â'r angen i gynnal presenoldeb cryf, gweladwy yn y gweithle. Fel arweinydd strategol a gweithredol allweddol, bydd eich gallu i fod yn bresennol a chymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau dyddiol yn ogystal â rheoli gweithio o bell yn effeithiol yn hanfodol i'n llwyddiant ar y cyd.
Mae gennym 75 o Gynghorwyr Sir sy'n cynrychioli 51 o wardiau cymunedol. Mae gweinyddiaeth wleidyddol bresennol y cyngor yn cynnwys:
GRŴP PLAID CYMRU / PARTY OF WALES GROUP – 37
GRŴP LLAFUR / LABOUR GROUP – 18
GRŴP ANNIBYNNOL / INDEPENDENT GROUP – 11
ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD / INDEPENDENT UNAFFILIATED – 9
Ymunwch â Chyngor Sir Caerfyrddin fel Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant i chwarae rôl ganolog wrth lunio addysg a chymorth cynhwysol ledled y Sir.
Mae’r swydd uwch-arweinydd hon yn gyfrifol am ddarparu gweledigaeth, cyfeiriad strategol a chyngor proffesiynol i sicrhau bod cyfrifoldebau cyfreithiol y Cyngor yn cael eu cyflawni ar draws portffolio amrywiol, gan gynnwys:
- Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Rheoli Ymddygiad
- Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid
- Cyfranogiad a Hawliau Plant
- Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant
- Plant sy'n Derbyn Gofal
- Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Addysg Ddewisol yn y Cartref
- Arwain mentrau tlodi a llesiant
Byddwch chi'n arwain y gwaith o integreiddio Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gydweithio â thimau mewnol a phartneriaid allanol megis y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu, i sicrhau bod diogelwch, llesiant a datblygiad plant yn cael sylw mewn modd cyfannol. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys hyrwyddo newid trawsnewidiol, arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau a phrosesau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Dyma rai o'r prif gyfrifoldebau:
- Arwain y Gwasanaethau Cynhwysiant yn strategol a'u rheoli'n weithredol
- Datblygu a gweithredu cynlluniau busnes a strategaethau gwella
- Arwain partneriaethau amlasiantaeth a hyrwyddo arferion gorau
- Rheoli cyllidebau a sicrhau safonau uchel o ran darparu gwasanaethau
- Cefnogi uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer y Gymraeg a diwylliant Cymru
- Meithrin diwylliant tîm cadarnhaol, arloesol ac uchel ei berfformiad
Rydyn ni wedi ymrwymo i’n gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, ffocws ar gwsmeriaid, uniondeb, rhagori, cyfrifoldeb a gwrando. Rydyn ni'n disgwyl i bob gweithiwr gynnal y gwerthoedd hyn ac egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Os ydych chi'n angerddol dros gynhwysiant, arweinyddiaeth strategol, a gwneud gwahaniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 246522.
Dyddiad cau: 12 Ionawr 2026
Llunio Rhestr Fer: 20 Ionawr 2026
Canolfan Asesu: 27 Ionawr 2026
Panel Penodi: 3 Chwefror 2026

